Bydd y rhaglen Amgen yn archwilio sut y gellir cyfuno technoleg greadigol â pherfformiadau byw i ddatblygu cynhyrchion newydd, prosesau cynhyrchu newydd a phrofiadau newydd i gynulleidfaoedd.
Bydd Amgen: Perfformio Byw a Thechnoleg Greadigol yn rhedeg o 2027 hyd 2032. Caiff y rhaglen ei hariannu drwy Raglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Mae’r grant o £6.75m gan yr AHRC yn cael ei gefnogi gyda gwerth £7.35m o gyd-fuddsoddiad gan bartneriaid, gan olygu fod y rhaglen yn ei chyfanrwydd yn werth £14.1m.
Yr Athro Ruth McElroy sy’n arwain y rhaglen ar ran Prifysgol Bangor, gyda mewnbwn gan Dr John Cunningham, sy’n Ddarllenydd mewn Cerddoleg, ac Andrew Lewis, sy’n Athro mewn Cyfansoddi. Mae cyfraniadau gan M-Sparc, sef canolfan wyddoniaeth ac arloesi’r Brifysgol, a chan Pontio, sef canolfan gelfyddydau’r Brifysgol, hefyd yn rhan o’r hyn y mae Prifysgol Bangor yn ei gynnig.
Dywedodd yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth Ysgol y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor, “Mae Amgen yn gyfrwng i fuddsoddi cyllid ymchwil a datblygu y tu hwnt i Gaerdydd. Mae'n gyfle euraidd i gyflymu galluoedd arloesi'r sectorau perfformio byw a thechnoleg greadigol ar draws ardaloedd gwledig ac arfordirol Cymru. Mae llawer o’r ardaloedd yn dioddef amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Mae Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn gweithio ar hyn ers misoedd lawer, gan gyfrannu arbenigedd ymchwil a chynnig arweinyddiaeth ar draws y rhanbarth. Mae'r partneriaethau yr ydym wedi'u datblygu fel consortiwm yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer llwyddiant. Ein nod yw sicrhau gwelliant nodedig o ran ein diwylliant, ein busnesau a’n celfyddydau dwyieithog".
Prifysgol De Cymru (USW) sy'n arwain Amgen. Y cyd-gyfarwyddwyr yno yw’r Athro Lisa Lewis, sy’n Ddeon Cynorthwyol dros Ymchwil ac Arloesi, a Richard Hurford, sy’n Gyd-arweinydd Grŵp Ymchwil ac Arloesi'r Diwydiannau Creadigol.
Bydd y project uchelgeisiol hwn yn dod â phrifysgolion a sefydliadau diwylliannol a chreadigol blaenllaw o bob cwr o Gymru ynghyd i gefnogi ymchwil a datblygu, arloesedd a thwf economaidd cynaliadwy yn y sector perfformio byw.
Mae partneriaid eraill yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, PDR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, Canolfan Mileniwm Cymru, CULTVR, Frân Wen, Arad Goch, a Theatr Cymru.
Dywedodd yr Athro Lisa Lewis, “Mae’r cyllid hwn yn cynrychioli buddsoddiad hanfodol i’r sector perfformio byw yng Nghymru, ac yn ffordd o alluogi effaith economaidd, gymdeithasol a diwylliannol y tu hwnt i ganolfannau trefol. Bydd yn sicrhau gwell cysylltiadau rhwng pobl a mannau creadigol, gan wella cyfranogiad a chynrychiolaeth ar yr un pryd.
Ychwanegodd Richard Hurford, “Mae Cymru’n cynnig amgylchedd amlieithog unigryw ar gyfer datblygu model newydd o arloesi creadigol. Bydd y buddsoddiad hwn yn cael cryn effaith, gan gryfhau’r sectorau perfformio byw a thechnoleg greadigol ar draws ein cymunedau diwylliannol a hynny mewn ffordd deg a chynhwysol. Ym Mhrifysgol De Cymru rydyn ni wrth ei boddau ein bod ni’n cael arwain y consortiwm hwn a chefnogi twf cynaliadwy mewn sector fywiog a gwydn.”
Ychwanegodd Liam Evans-Ford, Prif Weithredwr Theatr Clwyd, “Mae’n gyffrous iawn bod Prifysgol De Cymru wedi sicrhau’r cyllid yma er mwyn datblygu a hyrwyddo perfformiadau byw yng Nghymru, ac mae’n wir dweud i hynny ddigwydd o ganlyniad i waith blaengar yr holl bartneriaid. Mae mawr angen rhaglen o’r fath ar y celfyddydau perfformio yng Nghymru wrth i ni wynebu cymhlethdod y byd modern, ac wrth i ni barhau i ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth, arloesedd a thwf ar gyfer y dyfodol.
“Gyda chynlluniau partneriaeth cenedlaethol megis Stiwdio Clwyd a Chraidd yn rhan allweddol o brosiect Amgen, mae Theatr Clwyd yn edrych ymlaen at gydweithio i gyflawni mwy dros y celfyddydau byw yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.”
Un agwedd a fydd yn greiddiol i’r rhaglen Amgen fydd cyflymydd arloesi pwrpasol, a fydd yn galluogi sefydliadau creadigol i ddatblygu a phrofi syniadau newydd sy'n cyfuno perfformio a thechnoleg.
Bydd y rhaglen ar waith ledled Cymru a bydd yn troi ecosystemau creadigol sy'n seiliedig ar leoedd yn feysydd profi ar gyfer prosesau cynhyrchu newydd a phrofiadau newydd i gynulleidfaoedd, gan roi cyfleoedd i sefydliadau ymgymryd ag ymchwil a datblygu masnachol lle ceir llwybrau clir i'r farchnad.
Un uchelgais ganolog yw sicrhau nad yw daearyddiaeth yn rhwystr i gyfranogiad, cynhyrchiant na thwf o fewn y diwydiannau creadigol.
Drwy ddosbarthu cyllid a chefnogaeth ar draws y sector, bydd Amgen yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol o ran buddsoddiadau creadigol ac ysgogi twf economaidd ledled Cymru. Bydd y dull a ddefnyddir yn cysylltu cymunedau creadigol gwledig a threfol ac yn darparu model ar gyfer datblygu clwstwr creadigol y tu hwnt i ddinasoedd mawr.
Bydd y rhaglen hefyd yn archwilio sut y gall arloesedd o ran perfformio byw a thechnoleg greadigol gynhyrchu manteision y tu hwnt i'r diwydiannau creadigol, gan greu cyfleoedd i wybodaeth, technoleg ac arbenigedd lifo wedyn i sectorau eraill.
Erbyn 2032, nod y rhaglen Amgen yw cynyddu cyflogaeth, buddsoddiad, cysylltedd a chapasiti ymchwil a datblygu ar draws y sectorau perfformio byw a thechnoleg greadigol yng Nghymru, a chynnig profiadau mwy arloesol i gynulleidfaoedd.
Mae hefyd yn fwriad sefydlu model ar gyfer arloesi creadigol sy'n dangos sut y gall buddsoddi ac ymchwil a datblygu gynhyrchu twf y tu hwnt i ganolfannau trefol mawr y Deyrnas Unedig.