Fy ngwlad:
people networking

Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn ein digwyddiad cyntaf o’r math hwn, diolch i’n holl siaradwyr gwych ac i bawb a ymunodd â ni ar y diwrnod.  Rydym yn mawr obeithio eich gweld i gyd eto yn ein digwyddiad nesaf ym mis Mehefin 2027.

Nicola Sturrs,  Rheolwr Datblygu Busnes, Y Clinig Busnes

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan?

Mae'r Clinig Busnes yn gweithio gyda sefydliadau ledled gogledd Cymru a’n nod yw rhoi profiadau diwydiant i'n myfyrwyr busnes, a darparu gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr i fusnesau ar yr un pryd. Rydym yn gweithio gyda busnesau/sefydliadau i fynd i'r afael â heriau, archwilio cyfleoedd a chefnogi datblygiad myfyrwyr. 

Os oes gan eich busnes/sefydliad broblem sy'n gysylltiedig â busnes i’w datrys, pam na wnewch chi gyflwyno eich her fusnes i'n myfyrwyr?   Neu efallai y bydd gennych ddiddordeb bod yn un o'n siaradwyr gwadd?  Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd darganfod mwy am ein interniaethau myfyrwyr gyda chyllid llawn, lle gall ein myfyrwyr weithio gyda chi am hyd at uchafswm o 80 awr.

Rhagor o wybodaeth am Y Clinig Busnes yma.