Fy ngwlad:
Digital representation of The Albert Gubay Business School

Cam mawr ymlaen i Ysgol Fusnes Albert Gubay

Mae cynlluniau i adleoli Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wedi symud gam yn nes ar ôl i Uchelgais Gogledd Cymru gymeradwyo achos busnes llawn y prosiect. Mae'r penderfyniad yn galluogi'r Brifysgol i symud ymlaen gyda cham nesaf y datblygiad.