Tîm ymchwil wedi'i ddewis i raglen ICURe Explore Innovate UK
Mae tîm ymchwil o'r Brifysgol, dan arweiniad yr Athro Michael Butler o Ysgol Fusnes Albert Gubay, wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn rhaglen ICURe Explore, Innovate UK. Bwriad y rhaglen yw helpu’r tîm i archwilio potensial masnachol eu hymchwil.
Mae'r rhaglen yn darparu hyd at £35,000 mewn cyllid er mwyn canfod cwsmeriaid, dilysu marchnadoedd ac archwilio llwybrau ar gyfer masnacheiddio, gan gynnwys llwybrau megis sefydlu cwmnïau deillio neu drwyddedu. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan SETsquared, sef partneriaeth ar gyfer meithrin busnesau prifysgolion, a gaiff ei harwain gan Brifysgol Southampton. Ymhlith y prifysgolion sy’n rhan o’r bartneriaeth mae Prifysgol
Caerdydd.
Aelodau’r tîm ym Mangor yw’r Athro Michael Butler fel Arweinydd Entrepreneuriaeth, Dr Gabriela Butler fel Uwch Ymchwilydd, a Dona Padan, sef Swyddog Masnacheiddio'r Brifysgol, sy’n cyfrannu ar y project fel Cynghorydd Busnes a Swyddog Trosglwyddo Technoleg.
Mae'r tîm wedi datblygu Set Offer Parodrwydd i Dderbyn Newid a llwyfan diagnostig digidol. Maent wedi'u cynllunio i helpu sefydliadau i ddeall pa mor barod ydyn nhw i newid cyn mynd ati i ymrwymo adnoddau sylweddol.
Bydd sefydliadau’n buddsoddi biliynau mewn rhaglenni newid sefydliadol, ond mae ymchwil yn awgrymu bod rhwng 60 a 70 y cant o fentrau newid yn methu â chyflawni’r canlyniadau y bwriadwyd eu gwireddu. Gall methiant arwain at leihad mewn cynhyrchiant, oedi wrth roi’r rhaglenni newid ar waith, trosiant staff a gwastraff buddsoddiad sylweddol.
Nod y Set Offer Parodrwydd i Dderbyn Newid yw mynd i'r afael â'r her hon drwy ddarparu dulliau diagnostig digidol sy’n fforddiadwy ac sy’n gallu ymdopi â sefydliadau o bob maint. Bydd y dulliau diagnostig hyn yn nodi rhwystrau posibl cyn mynd ati i roi newid ar waith. Gallai hynny gynnwys mabwysiadu deallusrwydd artiffisial, twf sefydliadol, gweithio hybrid, buddsoddiad mawr mewn isadeiledd, mentrau sero net a mentrau amgylcheddol,
cymdeithasol a llywodraethu, a thrawsnewidiadau digidol neu sefydliadol ehangach.
Cafodd y fethodoleg ei datblygu gan yr Athro Michael Butler dros gyfnod o fwy nag 20 mlynedd ac mae wedi'i dilysu mewn mwy na 50 o sefydliadau.
Dywedodd yr Athro Michael Butler: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael ein dewis i fod yn rhan o’r rhaglen ICURe Explore. Mae hyn yn rhoi cyfle cyffrous i ni ddefnyddio’r fethodoleg Parodrwydd i Dderbyn Newid y tu allan i'r amgylchedd ymchwil a phrofi ei photensial yn y farchnad.
“Mae’r Set Offer a’r llwyfan cefnogi wrthi’n cael eu gorffen ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n awyddus i weithio gyda sefydliadau sy’n fodlon rhoi cynnig arnyn nhw a rhoi adborth i ni. Bydd hyn yn rhan bwysig o’n taith ni fel rhan o’r rhaglen ICURe Explore a bydd yn ein helpu ni i ddatblygu mwy ar y Set Offer, yn benodol wrth ystyried beth ydy anghenion sefydliadau.”
Trwy gyfrwng y rhaglen, bydd y tîm yn mynd ati i ganfod cwsmeriaid a dilysu marchnadoedd, gan ymgysylltu â sefydliadau i ddeall yn well pa heriau maen nhw’n eu hwynebu, profi’r Set Offer ac archwilio cymwysiadau masnachol posibl.