Fy ngwlad:

Mae’r seminar hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol o werthusiad annibynnol o Brosiect Gwreiddiau Môn Digartref, rhaglen bartneriaeth arloesol sy’n ceisio gwneud digartrefedd yn beth prin, byrhoedlog ac anailadroddus ar draws cymunedau gwledig Ynys Môn. Caiff y prosiect ei gyflawni drwy gydweithio rhwng sefydliadau gwirfoddol, statudol a chymunedol. Mae’n darparu ymyrraeth gynnar a chymorth sy’n ystyriol o drawma ac wedi’i ganolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, ynghyd â maes gwaith penodol sy’n canolbwyntio ar ailsefydlu carcharorion yn y gymuned.

Mae’r seminar yn archwilio sut y caiff gwaith atal digartrefedd ei brofi a’i gyflawni mewn cyd-destun gwledig, lle mae prinder tai, trafnidiaeth gyfyngedig, ynysu daearyddol a digartrefedd cudd yn creu heriau penodol. Mae’r prosiect yn ceisio mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn drwy waith allgymorth, cyngor ar les a dyledion, cymorth tai, gweithgareddau cymunedol a chydweithio cydgysylltiedig rhwng partneriaid. Rhoddir sylw penodol i ddull gweithredu perthynol y prosiect, sy’n rhoi pwyslais ar ymddiriedaeth, hyblygrwydd ac ymgysylltu hirdymor yn hytrach nag ymyrraeth tymor byr mewn argyfwng.

Gan dynnu ar gyfweliadau ansoddol â staff y prosiect ac ymchwil werthuso barhaus, mae’r seminar yn trafod tystiolaeth o welliannau o ran sefydlogrwydd tai, llesiant, hyder a chyfranogiad cymdeithasol, ochr yn ochr â chryfhau’r cydweithio rhwng partneriaid ym meysydd tai, lles, iechyd a chyfiawnder troseddol. Ystyrir hefyd waith y prosiect gyda phobl sy’n gadael carchar, grŵp sydd mewn perygl arbennig o ddod yn ddigartref, a’i gyfraniad at ymdrechion i leihau aildroseddu drwy ddarparu llety sefydlog a chymorth parhaus.
Bydd y cyflwyniad yn myfyrio ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â chyflawni gwaith atal digartrefedd yng nghefn gwlad Cymru, ac yn ystyried sut y gall y gwersi o Ynys Môn gyfrannu at drafodaethau ehangach ar bolisi digartrefedd, ailgartrefu cyflym, arferion sy’n ystyriol o drawma a gweithredu’r diwygiadau diweddar i ddeddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru.
Bydd y seminar hwn yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg.