Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru: Sesiwn Holi ac Ateb
Mynediad Medi 2027
Ystyried astudio yn Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru? Eisiau gwybod mwy am ein cyrsiau yn y Gyfraith, Troseddeg, Cymdeithaseg neu Blismona? Oes gen ti ddiddordeb mewn darganfod mwy am fywyd myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor?
Ymuna â ni ar-lein am sesiwn Holi ac Ateb gydag aelodau o'n tîm academaidd a darganfod mwy am sut beth yw astudio yn Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor.
P'un a oes gennyt ddiddordeb yn y Gyfraith, Troseddeg, Cymdeithaseg neu Blismona, dyma dy gyfle i ofyn cwestiynau, dysgu mwy am ein cyrsiau a darganfod ble y gallai dy radd dy arwain.
Yn ystod y sesiwn, bydd cyfle i ti:
- Sgwrsio gyda'n tîm academaidd a gofyn cwestiynau am astudio gyda ni
- Darganfod mwy am ein cyrsiau a'r hyn sydd gan Fangor i'w gynnig
- Dysgu am y camau nesaf tuag at ymuno â ni ym mis Medi 2027
- Cael cyngor ac arweiniad i'th helpu pam bydd di'n gwneud dy ddewis
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams ar ddydd Mawrth 8 Rhagfyr, rhwng 5.30pm a 6.15pm.
Cofrestra nawr i gadw dy le a darganfod ble y gallai gradd o Ysgol y Gyfraith Gogledd Cymru dy arwain.