Fodd bynnag, ddegawd yn ddiweddarach, mae Dr. Leah McLaughlin, Cymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, yn dweud bod y newid wedi cael ychydig iawn o effaith mewn gwirionedd. Ac er bod cyfraddau caniatâd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, nid yw cyfraddau caniatâd cyffredinol yn well nawr nag yr oeddent pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth ddegawd yn ôl.
Dywedodd Leah: "Nid yw'r cynnydd oeddem yn disgwyl ei weld mewn cyfraddau caniatâd rhoi organau wedi digwydd. Er y gallai'r pandemig fod wedi chwarae rhan yn hyn, mae ein hymchwil yn awgrymu nad yw newidiadau deddfwriaethol ar eu pen eu hunain yn ddigonol heb fynd i'r afael â'r tensiynau moesegol sylfaenol. Mae angen cyfathrebu’n glir a thosturiol â theuluoedd yn ystod cyfnod anodd."
Am y deng mlynedd diwethaf, a chyda chefnogaeth Uned Ymchwil Arennau Cymru, mae’r Athro Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Jane Noyes - ynghyd â Leah - ill dwy wedi chwarae rolau blaenllaw mewn astudiaethau amrywiol er mwyn dysgu mwy am effaith optio allan a gwrthwynebiadau i’r broses.
Esboniodd Jane: “Gall y broses o roi organau fod yn llethol, ac yn aml mae teuluoedd yn wynebu gwaith papur caniatâd cymhleth a gweithdrefnau hirfaith, gan ychwanegu at y baich emosiynol o golli anwylyd. Nid oedd llawer o deuluoedd wnaethom ni siarad â nhw yn deall yn llawn y cysyniad o ganiatâd tybiedig. Dyma le mae penderfyniad unigol i roi organ, yn cael ei gymryd yn ganiataol oni bai bod person wedi optio allan yn o’u dewis nhw, ac yn weithredol. Mewn rhai achosion, roedd teuluoedd yn cael trafferth gyda’r syniad o’u hanwylyd yn cael llawdriniaeth ac yn colli golwg ar y bywydau posibl a fuasai wedi cael eu hachub trwy roi organau.”
Mae ein hymchwil yn tynnu sylw at sawl ffordd o wella’r system. Mae addysg gyhoeddus gliriach yn hanfodol, gan nad yw llawer o bobl yn sylweddoli eu bod wedi rhoi caniatâd, oni bai eu bod yn optio allan."
Mae Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad ag Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, hefyd wedi datblygu adnodd ar-lein sy'n helpu teuluoedd yng Nghymru a Lloegr i ddeall yn well y gyfraith rhoi organau "gydsyniad tybiedig" (optio allan). Mae'r adnodd yn cynnwys straeon bywyd go iawn gan deuluoedd sydd wedi colli rhywun, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn ogystal â gwybodaeth am sut mae'r gyfraith yn gweithio. Y nod yw lleihau dryswch, gan sicrhau bod penderfyniadau pobl ynghylch rhoi organau yn cael eu parchu, gan gefnogi sgyrsiau teuluol yn ystyrlon o flaen llaw. Gellir defnyddio'r adnoddau hefyd i addysgu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am roi organau a chydsyniad tybiedig. Mae'r ddolen at yr adnodd ar gael yma wrth glicio ar y ddolen hon.
Ychwanegodd Jane: "Dylid symleiddio'r broses rhoi organau er mwyn lleddfu'r baich ar deuluoedd sy'n galaru. Gallai rhoi mwy o bwysau cyfreithiol i benderfyniadau a wneir mewn bywyd, fel ymuno â'r Gofrestr Rhoddwyr Organau, helpu i atal teuluoedd rhag diystyru penderfyniad eu hanwyliaid. Mae angen hyfforddiant gwell ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd i lywio'r gyfraith a chefnogi teuluoedd yn effeithiol - mewn amgylchiadau sydd yn aml yn unigryw a thrasig. Gall awgrymiadau rheolaidd sy'n annog pobl i ddiweddaru eu dewisiadau leihau dryswch ymhellach. Dim ond wedyn y gallwn obeithio cynyddu cyfraddau rhoi organau ac achub mwy o fywydau."
Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor hefyd wedi bod yn cynnal gweithdai Rhoi Organau i fyfyrwyr, gan eu hannog i drafod rhoi organau gyda theuluoedd y rhoddwyr a'r derbynwyr sydd wedi'u gwahodd i gymryd rhan. Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a nyrsys arbenigol rhoi organau o bob cwr o Gymru, mae'r gweithdai wedi'u cynllunio i ddatblygu hyder a sgiliau cyfathrebu myfyrwyr yn y maes gofal hynod sensitif hwn.
Dywedodd Elinor Thomas, myfyrwraig bedwaredd flwyddyn a gymerodd ran yn y gweithdy, ei bod yn ddiolchgar o gael y cyfle i archwilio rhoi organau fel rhan o'i chwrs: “Roedd y gweithdy yn brofiad rhyngbroffesiynol hynod bwysig, dan arweiniad nyrsys arbenigol o'r tîm rhoi organau. Cawsom gipolwg ar sut mae organau'n cael eu hadfer a'r effaith ddofn y mae rhoi organau yn ei chael ar gleifion a'u teuluoedd. Mi wnes i fwynhau’r diwrnod addysgiadol hwn, a rhoddodd fewnwelediad gwerthfawr i bwnc emosiynol a sensitif iawn.”
Os hoffech ddeall mwy am ein hymchwil ar roi organau, cysylltwch â Jane Noyes a Leah Mclaughlin.