Cynaeafu glaswellt mewn cae gyda thri thractor

Darganfod os allai sgil-gynnyrch cloroffyl fod yn ateb cynaliadwy i’r broblem gwerth £50 miliwn o falltod tatws 

Fel arbenigwyr mewn ymchwil ac arloesi ym maes technolegau bio-seiliedig, dyma lle camodd Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor i’r adwy:

“Rydym wedi gweithio gyda’r Blankney Estates ers 2007 ar brosiectau amrywiol yn ymwneud â sut y gallwn ychwanegu gwerth at y glaswellt y maent yn ei dyfu. Rydym bellach yn falch iawn o ymestyn y berthynas hon diolch i gyllid gan DEFRA trwy Raglen Arloesi Ffermio Innovate UK, i asesu ymarferoldeb y cwyr glaswellt fel system bioreoli newydd gan ddefnyddio cyfuniad o dreialon mewn tai gwydr ac ar y safle.”

esboniai Dr Adam Charlton o’r Ganolfan Biogyfansoddion, Prifysgol Bangor.

Mae'r prif opsiwn trin a rheoli ar gyfer malltod tatws hwyr yn cynnwys defnyddio cemegau gwrthffyngaidd yn rheolaidd, ond mae'r organeb Phytophthora infestans bellach yn gallu gwrthsefyll y rhan fwyaf o ffwngladdiadau synthetig, ac ar hyn o bryd ychydig iawn o opsiynau sydd ar gael i ddisodli'r rhain, â llawer ohonynt yn cael eu diddymu'n raddol o ganlyniad i ystyriaethau amgylcheddol.

Yr her arall yw pan gânt eu defnyddio gormod, mae ffwngladdiadau synthetig yn berygl i iechyd planhigion, anifeiliaid a phobl, a gallant gael effaith negyddol ar ecosystemau trwy gronni mewn priddoedd a chyrsiau dŵr.

Dywedwyd bod hyd at 20% o allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â chynhyrchu tatws yn deillio o allbynnau ynni sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a defnyddio gwrtaith a ffwngladdiadau synthetig.

Ychwanegodd Dr Charlton, “Mae asiantau bioreolaeth yn ddewis amgen ac o bosibl, yn ddewis mwy cynaliadwy i'r ffwngladdiadau synthetig a ddefnyddir i frwydro yn erbyn pathogenau planhigion. Gallai’r prosiect hwn hefyd gyfrannu at yr ymrwymiad i gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 drwy leihau costau mewnbwn ar gyfer triniaethau bio-seiliedig ar gyfer malltod tatws gan ddefnyddio’r ‘dull economi gylchol’ drwy defnyddio’r cynnyrch hwn sydd fel arall wedi’i wastraffu.”

 

Rydym wrth ein boddau'n partneru gyda Chanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor ar brosiect cyffrous sy’n archwilio cymhwysiad a allai fod yn werthfawr ar gyfer ein ffrwd cwyr glaswellt ‘gwastraff’, sy’n cael ei gynhyrchu fel sgil-gynnyrch ein proses echdynnu cloroffyl. Fel y cynhyrchydd cloroffyl masnachol mwyaf yng Ngorllewin Ewrop, rydym wedi ymrwymo i ffermio yn y ffordd fwyaf amgylcheddol-gyfrifol, gan ddatgloi potensial llawn ein cnydau glaswellt a’n prosesau.

 

Stuart Parr,  Rheolwr Cyffredinol Blankney Estates

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?