Cynllun Symudedd Ymchwil Taith
Lansiwyd rownd nesaf cyllid Symudedd Ymchwil Taith ddydd Gwener, 30 Mai 2025, a bydd yn cau ddydd Llun, 30 Mehefin 2025 am 4pm. Gall ymchwilwyr ôl-raddedig, ymchwilwyr gyrfa gynnar, a staff cymorth technegol ac ymchwil Prifysgol Bangor wneud cais am gyllid symudedd (o 2 ddiwrnod hyd at 1 mis) i gyrchfannau byd-eang. Mae'r cynllun hwn hefyd yn cefnogi symudedd mewnol ar gyfer Prifysgol Bangor. Gweler y wefan am fanylion llawn a chofrestrwch ar gyfer sesiwn wybodaeth ar-lein ddydd Llun, 9 Mehefin 2025, 1pm-2pm.