Grant Cefnogaeth Sefydliadol y Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF)
The ISPF is aimed first and foremost at addressing global sustainable development challenges to transform the lives of the maximum number of people. The fund aims to foster prosperity by solving shared global research and innovation challenges. This will be done through working closely with international partners to:
support research excellence and build the knowledge and technology of tomorrow
strengthen ties with international partners that share our values
enable researchers and innovators to cultivate connections, follow their curiosity and pioneer transformations internationally, for the good of the planet
Cwmpas a defnydd o’r cyllid
Mae'r cyllid hwn yn darparu grantiau hyblyg i gefnogi ymchwil ddoethurol sy'n cael effaith economaidd neu gymdeithasol mewn gwledydd ar restr DAC y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Rhaid i bob gwariant gydymffurfio â chanllawiau’r rhaglen Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA)1 gyda'r prif ddiben o dargedu datblygiad economaidd a lles gwledydd a gymeradwywyd i dderbyn ODA fel y'i diffinnir gan yr OECD.
Ni ellir defnyddio prosiectau a ariennir gan Grant Cefnogaeth Sefydliadol yr ISPF i gyflwyno gweithgareddau yn Tsieina, mewn partneriaeth â Tsieina, neu sydd fel arall o fudd i Tsieina.
Rhaid cwblhau pob prosiectau erbyn 31 Mawrth 2026. Bydd gwariant a chynnydd tuag at y canlyniadau arfaethedig yn cael eu monitro gan y Gwasanaeth Cefnogi Ymchwil ac Effaith Integredig drwy gydol 2025 – 2026 ac rydym yn cadw’r hawl i ailddyrannu’r cyllid fel y bo’n briodol.
Amserlen Gwneud Cais
Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2025
Cyfanswm y cyllid: £42,000
Ystod y grantiau: £6,000 - £7,000
Dyddiad agor: 10 Hydref 2025
Dyddiad cau: 03 Tachwedd 2025 12:00 pm
Prosiectau
Dylai cynigion adeiladu ar eich ymchwil ddoethurol sydd eisoes ar y gweill i gyflymu effeithiau, neu greu mentrau ymchwil ac effaith cysylltiedig. Mae projectau llai sydd â'r nod o feithrin capasiti a gallu yn y gwledydd partner DAC hefyd yn gymwys. Rhaid i bob project sicrhau buddion pendant yn y gwledydd partner DAC.
PGR Canllawiau’r Grant a Ffurflen Gais
Assessment Criteria for the ISPF internal ODA award
Cwblhewch y ffurflen gais a'i chyflwyno trwy e-bost i: pgr@bangor.ac.uk erbyn Dydd Llun 03 Tachwedd 12:00pm (hanner dydd).
Ar gyfer unrhyw gwestiynau am gymhwysedd dyfarniadau, anfonwch e-bost at yr un cyfeiriad.