Modiwl CXC-1016:
Llên Cymru Heddiw
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
10.000 Credydau neu 5.000 Credyd ECTS
Semester1
Trefnydd: Prof Gerwyn Wiliams
Amcanion cyffredinol
Amcan y modiwl hwn yw cloriannu'n feirniadol, ar ffurf traethodau unigol a thrafodaethau seminar, ddetholiad o weithiau llenyddol cyfoes. Rhoddir sylw manwl hefyd i gynllunio traethodau a threfnu gwybodaeth yn unol â chonfensiynau safonol, e.e. cyfeirnodi a threfnu llyfryddiaeth, yn ogystal ag arweiniad ynghylch materion yn ymwneud â llên-ladrad.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Cynnwys cwrs
Canolbwyntir yn y modiwl hwn ar ddetholiad o weithiau gan rai o lenorion y Gymru gyfoes sy'n ymrafael â themâu cyfredol a pherthnasol, e.e. natur diwylliant poblogaidd; dylanwad y cyfryngau cymdeithasol; amlddiwylliannedd a chynhwysiant; boneddigeiddio trefol a gwledig; hunaniaeth a chyfeiriadaeth rywiol. Ar ddechrau’r modiwl bydd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion technegol yn ymwneud â chynllunio traethodau academaidd, e.e. dulliau cyfeirio, trefnu nodiadau, paratoi llyfryddiaeth ac osgoi llên-ladrata. Symudir wedyn at destunau gosod y modiwl: yn achos pob testun yn ei dro, ceir darlithoedd rhagarweiniol ac yna drafodaethau seminar a rydd gyfle i fyfyrwyr bwyso a mesur y testunau ar lafar.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Meini Prawf
dda
B- - B+:
- Dylai traethodau ddangos dealltwriaeth dda o’r agweddau technegol perthnasol.
- Dylai’r traethodau a’r trafodaethau llafar ddangos gwybodaeth drylwyr o’r testunau a drafodir.
- Dylai’r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu i nodi nifer o gyfeiriadau cymharol perthnasol, gafael dda ar gystrawen a theithi’r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa’r maes penodol hwn, a pharodrwydd i fynegi barn bersonol yn hyderus ar nifer o ddadleuon a damcaniaethau.
rhagorol
A- - A*:
- Dylai traethodau ddangos dealltwriaeth ragorol o’r agweddau technegol perthnasol.
- Dylai’r traethodau a’r trafodaethau llafar ddangos gwybodaeth helaeth a manwl am y testunau a drafodir.
- Dylai’r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu aeddfed i ddefnyddio cyfeiriadau llenyddol cymharol, gafael gadarn ar gystrawen a theithi’r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa’r maes penodol hwn, a pharodrwydd i fynegi’n hyderus farn bersonol soffistigedig ar nifer o ddadleuon a damcaniaethau.
trothwy
D- - D+:
- Dylai traethodau ddangos dealltwriaeth o’r agweddau technegol perthnasol.
- Dylai’r traethodau a’r trafodaethau llafar ddangos cynefindra â’r testunau a drafodir.
- Dylai’r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu i nodi rhai cyfeiriadau cymharol perthnasol, gafael ar gystrawen a theithi’r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa’r maes penodol hwn, a gallu i fynegi barn bersonol ar amryw ddadleuon a damcaniaethau.
Canlyniad dysgu
-
Cloriannu’n feirniadol ac ymateb i weithiau llenyddol cyfoes
-
Cynllunio traethodau a chyflwyno manylion technegol yn unol â chonfensiynau safonol
-
Casglu a threfnu deunyddiau’n annibynnol
-
Pwyso a mesur arwyddocâd nifer o ystyriaethau cefndirol, e.e. rhai beirniadol, hanesyddol neu gyd-destunol
-
Cyflwyno gwybodaeth a datblygu dadleuon ar lafar
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Prawf technegol | 10.00 | ||
Traethawd 1 | 30.00 | ||
Traethawd 2 | 40.00 | ||
Cyfraniad llafar | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | Mewn seminarau trafodir y testunau unigol yn fanwl. Disgwylir ichi gasglu a darllen deunydd perthnasol ar gyfer y seminarau hyn. Bydd y seminarau hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer y traethodau. |
4 |
Lecture | Ceir dau fath o ddarlithoedd yn y modiwl hwn sef hyfforddiant technegol a chyflwyniadau i'r testunau gosod. |
18 |
Private study | Ar sail yr arweiniad a geir yn y dosbarth, mewn rhestrau darllen a deunyddiau ar Blackboard, disgwylir i fyfyrwyr fynd ati i baratoi ar gyfer eu traethodau a'u seminarau. |
78 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Cynghorir myfyrwyr i brynu copiau personol o'r ddau lyfr gosod: - Guto Dafydd, *Ni Bia'r Awyr* (Cyhoeddiadau Barddas, 2014) - Lleucu Roberts, *Saith Oes Efa* (Talybont: Gwasg y Lolfa, 2014). Ceir manylion cyhoeddi llawn ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru, *[Gwales.com][1]*. [1]: http://Gwales
Rhestr ddarllen
Dafydd Morgan Lewis, adolygiad ar Ni Bia'r Awyr, gwefan Gwales, <http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781906396787&tsid=12>; cyrchwyd 30 Mehefin 2016.
John Rowlands, adolygiad ar Saith Oes Efa, gwefan Gwales, <http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784610029&tsid=7>; cyrchwyd 30 Mehefin 2016.
Rhoddir rhagor o gyfeiriadau i fyfyrwyr ar ddechrau'r modiwl, e.e. drwy Blackboard.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 1 (BA/ABCH)
- 3Q5Q: BA Cymraeg and English Literature year 1 (BA/CEL)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 1 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 1 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 1 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 1 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 1 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 1 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 1 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 1 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 1 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 1 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 1 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 1 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 1 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 1 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 1 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 1 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 1 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 1 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 1 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 1 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 1 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 1 (LLB/LW)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)