Modiwl CXC-3026:
Llên a Chymdeithas 1500 - 1740
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Jerry Hunter
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaith datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, y llawysgrif a’r llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i’r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymry. Trwy drafod mudiadau megis Dyneiddiaeth a Phrotestaniaeth ceir archwilio’r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol, gan gynnwys Morgan Llwyd ac Ellis Wynne..
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaith datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, y llawysgrif a’r llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i’r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymry. Trwy drafod mudiadau megis Dyneiddiaeth a Phrotestaniaeth ceir archwilio’r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol, gan gynnwys Morgan Llwyd ac Ellis Wynne.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+
Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol Cymraeg Modern Cynnar Dangos gwybodaeth am rychwant o feirdd a llenorion a'u testunau a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu i ddadansoddi testunau Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
da
B- i B+
Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol Cymraeg Modern Cynnar Dangos gwybodaeth dda am rychwant o feirdd a llenorion a'u testunau a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu da i ddadansoddi testunau Dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
ardderchog
A- i A*
Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol Cymraeg Modern Cynnar Dangos gwybodaeth sicr am rychwant o feirdd a llenorion a'u testunau a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu sicr i ddadansoddi testunau Dangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Bwrw trawsolwg eang ar yr hyn a drafodir gan ddwyn i mewn ystyriaethau cymharol lle y bo hynny'n briodol.
-
Mynegi eu hatebion mewn iaith ac arddull dderbyniol.
-
Adnabod rhai o'r gwahanol ffurfiau, arddulliau a thechnegau sy'n nodweddu llên y cyfnod.
-
Gwybod sut i ymateb yn feirniadol i wahanol destunau o'r cyfnod hwn.
-
Amgyffred rhai o brif dueddiadau a datblygiadau llenyddiaeth Gymraeg yn ystod y cyfnod 1500-1740
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Aseiniad | 50 | ||
Arholiad | 50 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | 170 | |
Lecture | 20 | |
Seminar | 10 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 3 (BA/ABCH)
- QW5H: Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd year 3 (BA/CCYCB)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 4 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 3 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 3 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 3 (BA/CYM)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 3 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 4 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 3 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 3 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 4 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 3 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 3 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 3 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 3 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 4 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 4 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 3 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 3 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 3 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 3 (BA/WS)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 3 (LLB/LW)