Modiwl CXD-3024:
Y Theatr Gymraeg Fodern
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Angharad Price
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad y theatr Gymraeg fodern, o'i dechreuadau ar ddiwedd Oes Fictoria hyd at yr unfed ganrif ar hugain. Trwy astudio amrywiaeth o destunau dramatig, rhoddir pwyslais arbennig ar berthynas y ddrama â chymdeithas yng Nghymru. Pa ofynion arbennig sy'n codi wrth lunio a pherfformio gweithiau theatrig mewn iaith leiafrifol? Beth oedd dylanwad crefydd, gwleidyddiaeth, ffeministiaeth, rhyfel, protestiadau iaith a'r diwylliant poblogaidd ar dwf y ddrama Gymraeg hyd at y presennol? Dyna'r math o faterion a drafodir yn y modiwl hwn.
Cynnwys cwrs
Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf y Gymraeg. Byddwn yn astudio rhai o ddramâu pwysicaf a mwyaf adnabyddus Cymru, ond hefyd destunau sydd heb gael y sylw beirniadol dyledus hyd yn hyn. Astudir mudiadau fel naturiolaeth, moderniaeth a Theatr yr Abswrd, a rhoddir sylw arbennig i'r ddrama Gymraeg hyd at y presennol.
Meini Prawf
da
B- i B+
- Dangos gallu i ddeall cefndir a chyd-destun y theatr Gymraeg fodern
- Dangos gallu i gloriannu dramâu yn feirniadol
- Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
- Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
- Dangos gafael ar gystrawen a theithi¿r Gymaeg.
ardderchog
A- i A*
- Dangos gallu i ddeall cefndir a chyd-destun y theatr Gymraeg fodern
- Dangos gallu i gloriannu dramâu yn feirniadol
- Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
- Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
- Dangos gafael ar gystrawen a theithi¿r Gymaeg.
trothwy
D- i D+
- Dangos gallu i ddeall cefndir a chyd-destun y theatr Gymraeg fodern
- Dangos gallu i gloriannu dramâu yn feirniadol
- Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
- Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
- Dangos gafael ar gystrawen a theithi¿r Gymaeg.
Canlyniad dysgu
-
Trafod yn ddadansoddol ac mewn dyfnder wahanol gyfraniadau y prif ddramodwyr dan sylw
-
Deall mewn dyfnder natur gyffredinol a phrif nodweddion y theatr Gymraeg ers dechrau'r ugeinfed ganrif a hyd at y presennol
-
Trin a thrafod yn hyderus amryw gysyniadau a genres perthnasol, a'u haddasu i drafodaeth ar y theatr Gymraeg yn benodol
-
Arddangos gwybodaeth ddofn ac eang am gefndir y theatr Gymraeg fodern
-
Bwrw trawsolwg eang ar yr hyn a drafodir a magu dealltwriaeth dda o leoliad dramau unigol oddi mewn i'r cyd-destun hwnnw
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd | 50.00 | ||
Arholiad | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 24 | |
Seminar | 12 | |
Private study | 164 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- Q562: BA Cymraeg year 3 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 4 (BA/CYM4)