Modiwl UXC-3401:
Newyddiaduraeth Ymarferol: MCD
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Ifan Jones
Amcanion cyffredinol
Yn y modiwl hwn bydd disgwyl i fyfyrwyr feithrin y sgiliau ysgrifennu, darlledu a chasglu newyddion a ddysgwyd ganddynt yn y modiwl Cyflwyniad i Newyddiaduraeth.
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio'n fwy penodol ar gasglu newyddion mewn cyfarfodydd cyngor, mewn achosion llys a chwestau. Dysgir cyfraith newyddiaduraeth a gweithdrefnau llywodraeth leol, llywodraeth genedlaethol a llywodraeth ddatganoledig i fyfyrwyr ac yna bydd rhaid iddynt ddefnyddio'r hyn maent wedi ei ddysgu i ysgrifennu erthyglau am y meysydd hyn.
Byddant hefyd yn datblygu ymhellach y sgiliau ysgrifennu a chasglu newyddion a ddysgwyd ganddynt eisoes.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl yn dysgu myfyrwyr am gyfraith y cyfryngau a sut i ohebu am brosesau'r llywodraeth. Byddant yn cael profiad ymarferol o ohebu am achosion llys, cwestau a chyfarfodydd cyngor. Byddant hefyd yn dysgu sut i ymchwilio ac ysgrifennu erthyglau newyddion ac erthyglau nodwedd, technegau cyfweld a sut i ymdrin â straeon parhaol ac etholiadau.
Meini Prawf
ardderchog
Rhagorol A- to A*)
- Dealltwriaeth ragorol o hanfodion y gyfraith i newyddiadurwyr
- Dealltwriaeth ragorol o foeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol
- Dealltwriaeth ragorol o ymarferoldeb gohebu yn wrthrychol
da
Da (C- to B+)
- Dealltwriaeth dda o hanfodion y gyfraith i newyddiadurwyr
- Dealltwriaeth gadarn o foeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol
- Dealltwriaeth dda o ymarferoldeb gohebu yn wrthrychol
trothwy
Trothwy (D- to D+)
- Dealltwriaeth o hanfodion y gyfraith i newyddiadurwyr
- Dealltwriaeth o foeseg a chyfrifoldebau newyddiadurol
- Dealltwriaeth o ymarferoldeb gohebu yn wrthrychol
Canlyniad dysgu
- Dangos dealltwriaeth beirniadol o gyfraith y cyfryngau a phrosesau llywodraeth leol a'r llywodraeth genedlaethol, etc.
- Meistroli gofynion cyfathrebu personol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd newyddiadurol
- Arddangos sgiliau cyfryngol technegol sylweddol sy'n addas i faes newyddiaduraeth
- Creu a dadansoddi’n feirniadol amrywiaeth o gynnwys gwreiddiol ar gyfer y wasg
- Dangos meistriolaeth o sgiliau ysgrifennu newyddiadurol
- ymarfer sgiliau casglu a gwerthuso newyddion o safon uwch
- Erbyn diwedd y modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu i
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Darlith 1 awr pob wythnos x 10 wythnos |
10 |
Seminar | Sesiwn o waith ymarferol 1 awr pob wythnos x 10 wythnos |
10 |
Fieldwork | Taith maes 5 awr x 1 wythnos |
5 |
Private study | 175 |