Modiwl WXC-2232:
Cerddorfaeth Heddiw
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Guto Puw
Amcanion cyffredinol
Bwriad y modiwl hwn yw dysgu'r sylfeini ar gyfer cerddorfaeth gyfoes. Bydd pob enghraifft cerddorol yn deillio o gyfansoddwyr o gyfnodau Clasurol, Rhamantaidd, yr Ugeinfed a'r Unfed Ganrif ar Hugain (e.e. Beethoven, Rachmaninov, Prokofiev, Holst, Britten ac Ades). Bydd y cwrs yn raddol gyflwyno pob adran y gerddorfa yn eu tro gan ddechrau gyda'r llinynnau, chwythbrennau, pres a'r offerynnau taro, ynghyd a'r gerddorfa lawn. Bydd hanfodion paratoi a chreu rhannau yn cael eu trafod. O gwblhau'r modiwl bydd y myfyriwr/myfyrwraig wedi cael eu harfogi gyda'r sgiliau anghenrheidiol i gerddorfaethu cerddoriaeth ar gyfer sawl cyfrwng a genres.
Cynnwys cwrs
Wth. Cynnwys: 1. Cyflwyniad i'r modiwl ac i Nodiant 2. Cyflwyniad i'r offerynnau llinynnol 3. Cyflwyniad i'r chwythbrennau 4. Cyflwyniad i'r Offerynnau Pres I 5. Adnabod llinellau melodig & Cerddorfaethu sgorau piano 6. -- 7. Cyflwyniad i'r offerynnau taro I 8. Vaughan Williams - Fantasia on a Theme by Thomas Tallis 9. Offerynnau chwyth ychwanegol & Offerynnau Pres II 10. Sgorio crescendo & Effeithiau antiffonaidd 11. Cyflwyniad i'r offerynnau taro II 12. Tueddiadau cyfoes & Creu Sgor a Rhannau
Meini Prawf
trothwy
Mae'r gwaith yn arddangos dealltwriaeth sylfaenol ond cyfyngedig o sgorio ar gyfer cerddorfa, gan wneud defnydd cywir ac addas o farciau bwa i'r llinynnau, aseinio synhwyrol o'r llinynnau, chwythbrennau a'r offerynnau pres, a gwybodaeth ymarferol o drawsgyweirio perthnasol yn y chwyth a phres.
da
Mae'r gwaith yn arddangos dealltwriaeth fanwl o sgorio ar gyfer y gerddorfa, nid yn unig yn arddangos gwybodaeth o'r defnydd o farciau bwa, ac aseinio addas o'r llinynnau, chwybrennau a'r pres, ond hefyd yn arddangos dychymyg a chreadigrwydd ymarferol yn y defnydd o offerynnau.
ardderchog
Mae'r gwaith yn arddangos dealltwriaeth fanwl o sgorio ar gyfer y gerddorfa, gan wneud defnydd lawn o dechnegau cerddorfaethu, ac yn dangos gwreiddioldeb mewn wrth gyfuno y timbre offerynnol.
Canlyniad dysgu
-
O gwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn medru sgorio mewn arddull addas ar gyfer cerddorfa, gan ysgrifennu yn idiomatig i'r offerynnau a ddefnyddir.
-
O gwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr wedi datblygu sgiliau ar gyfer adolygu, beirniadu a thrafod technegau cerddorfaethu.
-
O gwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn medru arddangos lefel o greadigrwydd, dyfeisgarwch a dychymyg tra'n cerddorfaethu ar gyfer cerddorfa lawn.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Gwaith Cwrs 1 | 20.00 | ||
Gwaith Cwrs 2 | 30.00 | ||
Prif Aseiniad | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 22 | |
Private study | 178 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Re-creative skills – interpretation, innovation, versatility, and other skills relating to performance
- Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)