Newyddion: Hydref 2019

Pryd daeth pobl Cymru'n Gymry?

Mae Cwpan Rygbi'r Byd ymlaen, a gwelwn ddarlledu hunaniaeth Gymreig ar y sgrin fawr ledled y byd. Ond, yng nghanol miri canu’r anthem, y dreigiau a’r cennin Pedr, a ydych chi erioed wedi pendroni pryd y dechreuodd pobl eu hystyried eu hunain yn Gymry, ac mai Cymru oedd eu gwlad?

Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno bod ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn bodoli erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond nid ydym yn gwybod eto pryd yn union y datblygodd hynny a pham. Mae'r hanesydd canoloesol Dr Rebecca Thomas o'r farn bod modd dirnad awgrymiadau o hunaniaeth Gymreig mor gynnar â'r nawfed ganrif.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019

Gallai adleoli diwydiant moch Tsieina arwain at ganlyniadau anfwriadol

Mewn erthygl yn y cyfnodolyn Nature Sustainability (30/9/19) mae grŵp rhyngwladol o wyddonwyr amaethyddiaeth ac amgylcheddol yn rhybuddio y gallai awydd Llywodraeth Tsiena i adleoli ei diwydiant moch o'r De, er mwyn amddiffyn ansawdd dŵr, arwain at ganlyniadau niweidiol anfwriadol.

Yn 2015 gwaharddodd Llywodraeth Tsiena gynhyrchu da byw mewn rhai rhanbarthau i reoli llygredd dŵr wyneb yn agos at afonydd, llynnoedd neu gronfeydd dŵr.  Mae hyn wedi lleihau'r porc sydd ar gael a hynny mewn cyfnod pan ragwelir y bydd ei fwyta'n cynyddu o 690 i 1,000 miliwn o bennau y flwyddyn rhwng 2018-50.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2019

Ymchwil U-boats y Brifysgol yn cael sylw ar raglen Drain the Oceans

Bydd ymchwil gan Brifysgol Bangor yn cael sylw mewn rhaglen sy’n rhan o gyfres Drain the Oceans ar sianel y National Geographic nos Lun 7 Hydref rhwng 8 a 9pm.

Bydd rhaglen nos Lun yn sôn am ddatblygiad llongau tanfor yn yr Almaen, a sut y bu i hynny newid rhyfela ar y môr am byth. Cafodd y Cynghreiriaid eu gorfodi i newid eu tactegau.

Mae gwaith y Prince Madog, llong ymchwil Ysgol Gwyddorau’r Eigion, Prifysgol Bangor yn cael sylw ar y rhaglen. Mae’r llong wedi bod yn mapio nifer o longddrylliadau o amgylch Môr Iwerddon fel rhan o broject ymchwil ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Noddir y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a’i fwriad yw coffau’r rhyfel yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru rhwng 1914 ac 1918.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019