Newyddion: Mai 2019
Ysgolheigion Bangor yn cyfrannu at The Cambridge History of Welsh Literature
Mae cyfrol newydd swmpus ar lenyddiaeth Cymru, o'i tharddiadau cynnar hyd at y cyfnod presennol, yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o arbenigwyr o Brifysgol Bangor a bydd yn cael ei lansio'n swyddogol yng Ngŵyl y Gelli ar 24 Mai. Disgrifir The Cambridge History of Welsh Literature (Cambridge University Press, 2019) gan y cyhoeddwr fel “the biggest history of Welsh literature ever published” ac mae'n ganllaw cronolegol i bymtheg canrif o lên Gymraeg a Chymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2019
Gradd plismona newydd gan Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn dechrau yn 2019/20
O fis Medi 2019, bydd Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai (GLlM), yn cynnig gradd israddedig mewn Plismona Proffesiynol sydd wedi ei thrwyddedu gan y Coleg Plismona. Bydd hyn yn cyflwyno sgiliau i'r myfyrwyr y byddant eu hangen i weithio fel swyddogion heddlu ac mae'n adeiladu ar y Radd Sylfaen lwyddiannus iawn mewn Plismona a fu’n cael ei chynnig ers rhai blynyddoedd gan GLlM.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2019
Is there such thing as a ‘European identity’?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Nikolaos Papadogiannis , Darlithydd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail-gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2019