
Modiwl LCS-2020:
Iaith Sbaeneg 1 (3 Iaith)
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Languages, Literatures, Linguistics and Media
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr David Miranda-Barreiro Dr David Miranda-Barreiro
Amcanion cyffredinol
- Atgyfnerthu ac ehangu gwybodaeth myfyrwyr am ramadeg a geirfa Sbaeneg.
- Datblygu sgiliau cyfieithu i'r iaith darged ac ohoni, a sgiliau i drin Sbaeneg ysgrifenedig.
- Datblygu sgiliau llafar a gwrando.
- Ymgyfarwyddo â geirfa sy'n berthnasol i'w cyfnod preswyl dramor, a chyd-destunau cymdeithasol-ddiwylliannol eraill. Bydd myfyrwyr ar y modiwl hwn yn gweithio tuag at ennill B2/C1 ar y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd.
Cynnwys cwrs
Bwriad y cwrs semester cyntaf hwn yw atgyfnerthu ac ehangu gwybodaeth y myfyrwyr am ramadeg a geirfa trwy roi amrywiaeth o destunau iddynt, o erthyglau papur newydd i ddarnau o lenyddiaeth, mewn amryw o gyweiriau ac arddulliau (gan gynnwys enghreifftiau hynod lafar a hynod ffurfiol). Rhoddir pwyslais hefyd ar sgiliau llafar a gwrando trwy ddosbarthiadau arbennig lle bydd myfyrwyr yn gwylio/gwrando ar bytiau o ffilmiau/teledu ac fe'u hanogir i ddadansoddi a thrafod eu cynnwys.
Meini Prawf
ardderchog
70+%: Gwybodaeth ragorol o eirfa a gramadeg, a gallu ardderchog i gyfieithu a thrin testunau, gyda dealltwriaeth gadarn o gywair. Gallu rhagorol ar lafar ac wrth wrando.
da
50-69%: Gwybodaeth dda o eirfa a gramadeg, a gallu da i gyfieithu a thrin amrywiaeth o ddeunyddiau testunol. Gallu da ar lafar ac wrth wrando.
trothwy
40-49%: Gwybodaeth gyfyngedig o eirfa a gramadeg, a gallu cyfyngedig i gyfieithu ac aralleirio ystod o destunau penodedig.
Canlyniad dysgu
-
- Trafod pynciau o ddiddordeb cyffredinol a pharatoi a rhoi cyflwyniadau hirach yn yr iaith darged.
-
- Byddwch yn dysgu eich mynegi eich hun yn fwy cywir yn yr iaith darged mewn amrywiaeth ehangach o fathau o destun, gan wneud defnydd priodol o gyweiriau ffurfiol ac anffurfiol.
-
- Cael gwybodaeth, safbwyntiau a syniadau o rychwant o gyweiriau llafar syml a chymhleth, gan gynnwys y cyfryngau darlledu.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Crynodeb a Ysgrifennu | 25.00 | ||
Gwrando a deall | 20.00 | ||
Arholiad | 30.00 | ||
Arholiad llafar | 25.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Extra tutorials for beginners |
11 |
Tutorial | 1 hour x writing skills per week for 11 weeks |
11 |
Tutorial | 1 hour x conversation class per week for 11 weeks |
11 |
Tutorial | 1 hour x grammer per week for 11 weeks |
11 |
Private study | 156 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- R912: BA French, German & Spanish year 2 (BA/FGS4#)
- R91F: BA French, German & Spanish [with Foundation Year] year 2 (BA/FGS4#F)
- R917: BA French, Italian & Spanish year 2 (BA/FIS4#)
- R925: BA German, Italian & Spanish year 2 (BA/GIS4#)