Cyrsiau Israddedig
Gyda’r twf yn statws y Gymraeg fel iaith swyddogol ac fel iaith busnes a chyfraith, mae galw cynyddol am swyddogion a chyfreithwyr a all weithredu yn y byd cyfreithiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Mewn ymateb i’r galw hwn, mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi datblygu cyrsiau dwyieithog i alluogi myfyrwyr i ennill cymwysterau addas a datblygu’r sgiliau a’r hyder i ddiwallu anghenion cyfreithiol newydd Cymru. Gallwch ddewis cael tiwtorialau ym mhob un o’r pynciau craidd naill ai yn Gymraeg neu Saesneg (lle caiff tiwtorialau eu cynnig fel rhan o’r cwricwlwm). Yn ogystal â’r tiwtorialau cyfrwng Cymraeg, gellir cyflwyno pob aseiniad, gan gynnwys y modiwl traethawd hir, a sefyll pob arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
- Y Gyfraith LLB (3 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda’r Gymraeg LLB (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
Cyrsiau cyfrwng Saesneg
- Law with Politics LLB (3 blwyddyn)
- Cyfraith Lloegr a Chyfraith Ffrainc LLB (4 blwyddyn)
- Rheoli Busnes ac Y Gyfraith BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Y Gyfraith (rhaglen 2 flynedd) LLB (Anrhydedd) (2 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda Almaeneg (Profiad Ewropeaidd) LLB (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda Astudiaethau Busnes LLB (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda Chyfrifeg a Chyllid LLB (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda Eidaleg (Profiad Ewropeaidd) LLB (4 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda Ffrangeg (Profiad Ewropeaidd) LLB (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda Hanes LLB (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda Pholisi Cymdeithasol LLB (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda Sbaeneg (Profiad Ewropeaidd) LLB (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda Throseddeg LLB (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda Tsieineaidd (Profiad Rhygwladol) LLB (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Y Gyfraith gydag Astudiaethau’r Cyfryngau LLB (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Y Gyfraith gydag Athroniaeth a Chrefydd LLB (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Y Gyfraith gydag Ysgrifennu Creadigol i’r Cyfryngau LLB (Anrhydedd) (3 blwyddyn)