Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Academydd yn y gyfraith o Fangor yn annerch Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig

Fis Gorffennaf aeth Dr Alison Mawhinney, Darllenydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Bangor, i Genefa i annerch Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig ar fater rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd. Pwyllgor Hawliau Dynol y CU yw corff hawliau dynol uchaf y CU ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod gwledydd yn cyflawni eu hymrwymiadau dan Gyfamod Rhyngwladol y CU ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol. Rhaid i bob gwlad sy'n llofnodi'r cytundeb allweddol hwn ar hawliau dynol ymddangos o flaen y Pwyllgor bob pum mlynedd i gael ei holi ar agweddau ar ei record hawliau dynol.  Dr Alison Mawhinney yn annerch Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig Dr Alison Mawhinney yn annerch Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig

Tro Iwerddon oedd ymddangos eleni. Fe wnaeth Dr Mawhinney, sydd wedi ysgrifennu'n helaeth ar faterion yn ymwneud â rhyddid i feddwl, gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i'r Pwyllgor. Dadleuodd bod Iwerddon wedi torri ei hymrwymiadau mewn dau faes allweddol yn ymwneud ag Erthygl 18 y Cyfamod - yr hawl sy'n gwarchod rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd. Yn gyntaf roedd methiant Iwerddon i ddarparu ysgolion heblaw rhai crefyddol yn golygu bod plant nad oeddent o gefndir Cristnogol yn cael eu gorfodi i fynd i ysgolion Cristnogol lle roedd rhaid i ethos grefyddol 'dreiddio' drwy'r holl bynciau yn ogystal â'r diwrnod ysgol ei hun. Yn ail, roedd yr ymrwymiad cyfansoddiadol ar farnwyr a'r Arlywydd i dyngu llw Cristnogol cyn dechrau yn eu swyddi yn mynd yn groes i hawliau rhai nad ydynt yn Gristnogion o ran rhyddid crefyddol neu gred.

Yn ei gwestiynau i Weinidog Iwerddon dros Gyfiawnder a Chydraddoldeb, pwysodd Pwyllgor Hawliau Dynol y CU yn sylweddol ar ddadleuon a thystiolaeth Dr Mawhinney. Mynnodd 'Sylwadau Casgliadol' hollbwysig y Pwyllgor fod Iwerddon yn 'cymryd camau pendant' i ddiwygio ei darpariaethau cyfansoddiadol sy'n mynnu bod rhaid i rai sy'n cymryd swyddi cyhoeddus uchel dyngu llwon crefyddol. O ran y sefyllfa mewn ysgolion, fe wnaeth y Pwyllgor orchymyn Iwerddon i gyflwyno deddfwriaeth yn gwahardd gwahaniaethu gyda mynediad i ysgolion ar sail crefydd, cred neu statws arall, ac i 'sicrhau bod yna fathau amrywiol o ysgolion ac opsiynau cwricwlwm ar gael drwy'r holl wlad i gyflawni anghenion plant o grefyddau lleiafrifol neu ddim crefydd o gwbl.' Mae gan Iwerddon bum mlynedd yn awr i weithredu'r argymhellion hyn.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2014