Holl Newyddion A–Y
2018 must be the year that we reimagine judicial diversity
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2018
AS Cymru yn trafod ‘Brexit Prydain’ gyda myfyrwyr y Gyfraith
Bu Mr Hywel Williams, AS dros Etholaeth Arfon, yn ymweld ag Ysgol y Gyfraith Bangor yn ddiweddar fel rhan o Wythnos Senedd y DU i gyflwyno darlith gwadd, 'Rôl AS Cymru yn Brexit Prydain'.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017
Aaron, pencampwr ffug lysoedd barn, yn ennill ysgoloriaeth o £3,000 i hyfforddi'n fargyfreithiwr
Ar sail ei sgiliau gwych mewn llys barn, mae un o raddedigion y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth o £3,000 i hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr. Roedd Aaron Clegg, o Oldham, sy'n graddio'r wythnos hon gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, yn un o ddim ond pedwar ymgeisydd i dderbyn Gwobr Adfocatiaeth y BPP Law School.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Academydd yn y gyfraith o Fangor yn annerch Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig
Fis Gorffennaf aeth Dr Alison Mawhinney, Darllenydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Bangor, i Genefa i annerch Pwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig ar fater rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2014
Academyddion Bangor yn mynd â thoriadau S4C i'r Cenhedloedd Unedig
Gall toriadau i gyllideb S4C ddiystyru hawliau plant, yn ôl dau ddarlithydd y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Mae Dr Alison Mawhinney a Ms Carys Aaron o Ysgol y Gyfraith Bangor yn dadlau y gall y cwtogi a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyllideb S4C dros y pum mlynedd diwethaf fod yn groes i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy'n cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan gyfryngau torfol o ran caniatáu i blant fwynhau eu hawliau ac o ran datblygu parch at 'hunaniaeth ddiwylliannol, iaith a diwylliant' y plentyn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2016
Academyddion y Coleg yn derbyn grantiau Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC
Mae'n bleser mawr gan y Cyfarwyddwr Ymchwil gyhoeddi llwyddiant nifer o gydweithwyr ar draws y Coleg Busnes, Y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas sydd wedi ennill grantiau Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2016
Addysg Gyfreithiol Glinigol
Diolch i bartneriaeth newydd cyffrous gyda gwasanaethau Cyngor ar Bopeth a 30 o gwmnïau cyfreithiol, mae gan fyfyrwyr y Gyfraith Bangor gyfle gwerthfawr i ddatblygu a defnyddio eu gwybodaeth gyfreithiol mewn sefyllfa bywyd go iawn, gan wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2021
Administrative justice can make countries fairer and more equal – if it is implemented properly
Dyma erthygl yn Saesneg gan Sarah Nason o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018
Adroddiad yn annog llywodraethau i adolygu'r ddyletswydd o addoli ar y cyd mewn ysgolion
Yn ôl y gyfraith mae angen i'r mwyafrif llethol o ysgolion gwladol yn y DU gynnal addoliad ar y cyd dyddiol (Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon) neu ddefod grefyddol (Yr Alban) i'w disgyblion. Rhaid i’r mwyafrif o’r addoliadau hyn yn ystod unrhyw dymor ysgol fod ‘yn gyfan gwbl neu’n bennaf Gristnogol eu natur’, ymwneud â ‘moli neu addoli bod neu rym dwyfol’ a 'rhoi statws arbennig i Iesu Grist'. Mae tîm ymchwil amlddisgyblaethol dan arweiniad Dr Alison Mawhinney (Ysgol y Gyfraith Bangor) wedi edrych ar y ddyletswydd hon ac, mewn cynhadledd ryngwladol a gynhaliwyd y mis hwn, lansiwyd adroddiad sy'n argymell i lywodraethau'r DU edrych drachefn ar y rheidrwydd hwn rhag blaen.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2015
Aelod o Staff Ysgol y Gyfraith, Bangor, wedi ennill Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Mawreddog
Mae Gary Clifford, Cyfarwyddwr Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael ym Mhrifysgol Bangor wedi ei ddyfarnu â Bwrsariaeth Arweinyddiaeth gan Academi Cymru, y Ganolfan Gwasanaeth Cyhoeddus ar gyfer Rhagoriaeth Arweinyddiaeth. Cafodd ei ddewis ar ôl proses hynod ddetholiadol, a dros y chwe mis nesaf, fe fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen byd-arweiniol datblygu sgiliau.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2013
Ail enwebiad am wobr i Ysgol y Gyfraith Bangor
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor wedi ei rhoi ar y rhestr fer am Wobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn. Mae Dr Ama Eyo yn un o ddim ond chwech o athrawon y gyfraith mewn sefydliadau ledled y DU a roddwyd ar y rhestr fer am y wobr. Noddir y Wobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn gan Wasg Prifysgol Rhydychen, a dyma'r unig un o'i bath yn y DU a sefydlwyd yn benodol i wobrwyo dysgu da ym maes y gyfraith mewn addysg uwch ac addysg bellach.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2014
Andra'n troi'n ymchwilydd i droseddau yn ystod interniaeth haf
Fe wnaeth myfyriwr ail flwyddyn yn Y Gyfraith ym Mangor fynd ar leoliad pur wahanol ei natur dros yr haf. Dychwelodd Andra Filimon i'w gwlad enedigol, Romania, ar interniaeth chwe wythnos gydag Adran Lofruddiaethau Pencadlys yr Heddlu yn Bucharest.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2013
Andra: "Roeddwn bob amser yn falch – pa wlad bynnag yr oeddwn ynddi – o ddweud fy mod yn astudio ym Mhrifysgol Bangor"
Mae llawer o fyfyrwyr y Gyfraith yn ymgymryd â lleoliadau mewn swyddfeydd yn ystod eu cyrsiau gradd ond, yn achos un fyfyrwraig o Fangor, nid oedd hynny’n ddigon o her. Cwblhaodd Andra Filimon ddwy interniaeth gydag Adran Ddynladdianau Heddlu Rwmania, lle bu’n ail-greu safle trosedd, yn holi diffynnydd ac yn hwyluso’r gwaith o gyfathrebu â Heddlu Metropolitan Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Ar frig y dosbarth: Cydnabod Annabelle yn un o’r myfyrwyr gorau yn y gyfraith yn y DU
Mae myfyrwraig yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn cystadleuaeth genedlaethol i ganfod y myfyriwr israddedig gorau yn y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2015
Arbenigwr mewn Ieithyddiaeth Fforensig yn graddio o Ysgol y Gyfraith
Mae’r myfyrwyr a raddiodd eleni yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn cynnwys arbenigwr byd-enwog mewn ieithyddiaeth fforensig.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012
Arddangos gwisgoedd o Tsieina
Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae’r Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd. Bydd gwisgoedd cenedlaethol Tsieineaidd yn cael eu harddangos yn Ystafell Ddysgu 5 Rathbone, Adeilad Rathbone, Ffordd y Coleg ddydd Iau 29 Tachwedd am 6.00.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2012
Arddangosfa yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth trethi hanesyddol
Mae arddangosfa sy’n amlinellu hanes trethi yng Nghymru ac yn annog ymwelwyr i roi eu barn ar ddeddfwriaeth drethi gyntaf y wlad yn y cyfnod modern i’w gweld yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor tan 28 Tachwedd. Bu’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn lansio’r arddangosfa yn y Brifysgol cyn ymuno â’r cyfarfod Fforwm Trethi cyntaf yn y Gogledd. Grŵp o randdeiliaid yw’r Fforwm sy’n cynghori ar gyfraith trethi, gweinyddu a’r ffordd y caiff polisi a deddfwriaeth trethi Cymru eu datblygu. Mae’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol y Gyfraith hefyd yn aelod.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014
Arddangosfa: Astudiaethau Celtaidd ym Mangor
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019
Are the Amazon fires a crime against humanity?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Tara Smith o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019
Argymhellion i gryfhau System Cyfiawnder Gweinyddol Cymru
Lansiwyd adroddiad sy’n codi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at yr heriau a'r cyfleoedd i system cyfiawnder gweinyddol Cymru heddiw (17 Tachwedd). Mae cyfiawnder gweinyddol yn ymdrin â'r berthynas rhwng yr unigolyn a'r wladwriaeth ac mae'n cynnwys egwyddorion gwneud penderfyniadau da i gyrff cyhoeddus, sut mae pobl yn cwyno i'r cyrff hynny, yn ogystal â dulliau allanol o unioni cam fel y llysoedd, tribiwnlysoedd, ombwdsmyn a chomisiynwyr sydd â chyfrifoldebau mewn gwahanol feysydd o fywyd cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015
Ashley ar ei ffordd i wireddu ei breuddwyd o ddod yn fargyfreithiwr ar ôl goresgyn anhwylder gorbryder
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor a fu’n dioddef oddi wrth anhwylder gorbryder am flynyddoedd wedi dod dros ei chyflwr i raddio gyda gradd yn y Gyfraith a Throseddeg . Mae'r gorbryder yn aml yn gwneud i Ashley Covill o Fanceinion deimlo'n ansicr ohoni ei hun a phrin o hunanhyder; gall tasgau syml hyd yn oed, fel cymdeithasu, ei llethu.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Athro o Fangor yn ymweld â China i arwain creadigaeth a dysgu cwrs newydd mewn Cyfraith Droseddol Ryngwladol
Bu'r Athro Suzannah Linton, Athro Cyfraith Ryngwladol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Cyfraith Ryngwladol ym Mangor , yn China'n ddiweddar ar gyfer cyfres ddwys o ddysgu, darlithoedd cyhoeddus a beirniadu mewn achosion llys ffug.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2013
Bangor drwodd i ail rownd OUP Moot
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi llwyddo i fynd drwodd i rownd nesaf yr Oxford University Press Moot, un o'r cystadlaethau ffug lys barn pwysicaf a mwyaf poblogaidd yng ngwledydd Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2015
Bangor i gynnal y Gystadleuaeth Ffug Lys Barn Genedlaethol Gymreig
Bydd Prifysgol Bangor yn croesawu myfyrwyr y gyfraith o ledled Cymru dros y penwythnos wrth iddi gynnal y Gystadleuaeth Ffug Lys Barn Genedlaethol Gymreig. Bydd timau o Aberystwyth, Caerdydd, Abertawe, Prifysgol De Cymru a’r Brifysgol Agored yn teithio i Fangor i frwydro am y wobr fawreddog ar Ddydd Sul, 29 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2015
Bangor yn arwain prosiect arloesol i drawsnewid addysg cyfraith cyfrwng Cymraeg
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi llwyddo i ennill grant strategol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i arwain prosiect traws-sefydliad cyffrous. Y bwriad yw paratoi cyfres o werslyfrau pynciol Cymraeg eu hiaith ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio’r Gyfraith ym mhrifysgolion Cymru, a hynny gan arbenigwyr cydnabyddedig yn y meysydd perthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014
Bangor yn croesawu Llywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr
Cafodd Ysgol y Gyfraith Bangor gyfle unigryw i arddangos ei harbenigedd ymchwil a darpariaeth cyflogadwyedd i Lywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2012
Bangor yn croesawu arbenigwyr cyfreithiol o ar draws y byd ar gyfer Ysgol Haf blynyddol
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi croesawu gweithwyr a myfyrwyr cyfreithiol o ar draws y byd ar gyfer ei Ysgol Haf blynyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2012
Bangor yn croesawu enillydd ysgoloriaeth Chevening
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi croesawu myfyriwr Chevening i’r ysgol am y tro cyntaf, Damian Etone o Gamerŵn.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2012
Bangor yn uwch na Manceinion, Lerpwl a phrifysgolion eraill o ran profiad myfyrwyr
Rhoddwyd Prifysgol Bangor yn 18fed allan o 111 o brifysgolion y Deyrnas Unedig o ran profiad myfyrwyr mewn arolwg gan grŵp 'Times Higher Education'.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2014
Benjamin, sy'n fyfyriwr flwyddyn olaf yn y Gyfraith, yn mynd ymlaen i gystadlu yn nhriathlon Ewrop
Mae myfyriwr israddedig yn y Gyfraith yn paratoi i gystadlu mewn triathlon sbrint heriol iawn yn Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2013
Beth mae dinasyddiaeth yn ei olygu yn Ewrop?
Mewn cydweithrediad cyffrous rhwng Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor ac Ysgol Ewropeaidd y Gyfraith (ym Mhrifysgol Toulouse), cynhelir gweithdy PhD ar thema eang 'Dinasyddiaeth' ym Mangor ddydd Iau a dydd Gwener, 3 a 4 Mai 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2018
Beth sy’n ein rhwystro rhag sefyll i gael ein ethol i’r Cynulliad?
Mae ymchwilwyr yng Ngholeg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor wedi ennill cytundeb ymchwil pwysig gan Fwrdd Taliadau Annibynnol Cymru y Cynulliad Cenedlaethol i nodi ac ymchwilio i rwystrau a all atal unigolion rhag cyflwyno eu henwau i gael eu hethol i'r Cynulliad.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2014
Blwyddyn brysur i Xavier, y dyn haearn
Llongyfarchiadau i Xavier Laurent, aelod staff yn Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael Ysgol y Gyfraith, a raddiodd gyda PhD mewn Seicoleg Gymhwysol bythefnos yn ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2014
Boris Johnson is planning radical changes to the UK constitution – here are the ones you need to know about
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2019
Brexit uncertainty boosts support for Welsh independence from the UK
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2019
Bwrsariaethau Dathlu PhD ar gael
Mae Ysgol y Gyfraith yn cynnig 2 Bwrsariaeth Ymchwil Ddathlu PhD gwerth £7,000 y flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2012
Bwyd Da Bangor
Mynychodd Dr Hefin Gwilym o'r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ddigwyddiad agoriadol Bwyd Da Bangor ddydd Llun, 1af Tachwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2021
CAHB Graduate Research Induction Event (MRes, MPhil, PhD)
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2019
CYNHADLEDD YMCHWIL ÔL-RADD Y GWANWYN
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2022
Caffael dinasoedd y dyfodol, heddiw: paratoadau terfynol yn cael eu gwneud at Wythnos Gaffael Prifysgol Bangor
Disgwylir i gynadleddwyr o dros 30 o wledydd ddod i gynhadledd ryngwladol fawr a drefnir gan Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael (ICPS) Prifysgol Bangor y mis hwn. Bydd Wythnos Gaffael 2015, a drefnir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn dod ag ymarferwyr, rheoleiddwyr ac academyddion ym maes caffael cyhoeddus at ei gilydd am wythnos o drafod bywiog ac ysgogol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2015
Canlyniadau cynnar ymchwil yn datgelu barn pobl ifanc am iechyd meddwl
Nid yw gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobol ifanc yng Nghymru yn cyrraedd y safonau yn ôl canfyddiadau ymchwil gynnar (17 Tachwedd). Adroddwyd ar y canfyddiadau yn ystod lansiad Arsyllfa@Bangor, cangen gogledd Cymru Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi ei leoli yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015
Cara i ddilyn bargyfreithwyr wrth eu gwaith
Fis Ionawr nesaf bydd Cara Jones, myfyriwr Y Gyfraith ym Mangor, yn treulio wythnos yn dilyn bargyfreithwyr wrth eu gwaith yn un o brif siambrau Cyfraith Trosedd yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2017
Child victim or brutal warlord? ICC weighs the fate of Dominic Ongwen
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Yvonne McDermott o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2017
Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor
Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Coroni Bangor yn bencampwyr Cymru mewn Cystadleuaeth Llys Barn Ffug
Am y tro cyntaf mae tîm o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi ennill y Gystadleuaeth Llys Barn Ffug flynyddol Gymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2014
Croesawu’r flwyddyn newydd Tsieineaidd gyda rhaglen gyffroes o gelfyddydau Tsieineaidd
Gall trigolion a myfyrwyr Bangor baratoi at groesawu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd mewn ffordd unigryw eleni. Cynhelir rhaglen lawn o weithgareddau diwylliannol Tsieineaidd i’w paratoi at gyfnod dathlu’r flwyddyn newydd Tsieineaidd rhwng 10-21 Chwefror.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013
Cwmni cyfreithiol lleol yn dathlu ei flwyddyn gyntaf o weithredu
Mae dau gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn dathlu pen-blwydd cyntaf sefydlu eu cwmni cyfreithiol eu hunain y mis hwn. Mae Nelson Myatt Solicitors LLP , o Gyffordd Llandudno, yn delio â phob agwedd ar gyfraith sifil ac maent yn gwmni modern sy’n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf er budd eu cleientiaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2015
Cyfiawnder Gweinyddol yng Nghymru a Safbwyntiau Cymharol
O gyfraith cynllunio i ofal cymdeithasol a thu hwnt mae’r gyfraith yn effeithio ar ein bywydau ni pob dydd. Gyda newid pellach i ddatganoli ac i’r gyfraith yn y meysydd hyn yng Nghymru mae’n bleser gan Ysgol y Gyfraith Bangor gyhoeddi cynhadledd ar ‘ Gyfiawnder Gweinyddol yng Nghymru a Safbwyntiau Cymharol ’ ym Mhrifysgol Bangor ar 10fed Medi 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2015
Cyfle i gael Tystysgrif Ymwybyddiaeth Fasnachol am ddim
Unwaith yn rhagor mae israddedigion Y Gyfraith ym Mangor yn cael cyfle i fynd am ddim i raglen a fydd yn cryfhau a gwella eu rhagolygon gyrfa. Mae tystysgrif ymwybyddiaeth fasnachol Ysgol y Gyfraith BPP yn tynnu sylw at yr angen i fyfyrwyr Y Gyfraith roi sylw i faterion masnachol a magu ymwybyddiaeth busnes; mae hefyd yn rhoi blas o’r hyn y gellir ei ddisgwyl ar Gwrs Ymarfer Cyfreithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2011
Cyfoethogi’r profiad addysgol: myfyrwyr y Gyfraith Bangor yn cael profiad o waith Heddlu Gogledd Cymru
Bob blwyddyn mae myfyrwyr ôl-radd ar gwrs Cyfraith Hawliau Dynol Rhyngwladol yr Athro Suzannah Linton, a myfyrwyr eraill ar y rhaglen Meistr Cyfraith Ryngwladol, yn mynd ar ymweliad maes lle maent yn cael cyfle i weld gweithwyr proffesiynol ym maes gweithredu'r gyfraith yn cyflawni eu dyletswyddau, a gweld y theori'n dod 'yn fyw'. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, er enghraifft, maent wedi ymweld â Chanolfan Hyfforddi'r Heddlu ger Wrecsam.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2013
Cyfraith y Stryd yn cipio dwy o wobrau’r Uchel Siryf am waith cymunedol
Mae project gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd â'r nod o addysgu pobl leol am eu hawliau cyfreithiol wedi cael ei gydnabod gan Uchel Siryf Gwynedd am ei gyfraniad i'r gymuned.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2016
Cyfres Gyntaf ‘Legal World’ yn Llwyddiant Ysgubol
Yn ystod ail semester blwyddyn academaidd 2014-15, lansiodd tîm o fyfyrwyr y Gyfraith Gyfres ‘Legal World’ am y tro cyntaf. Dan oruchwyliaeth Cyd-Gyfarwyddwyr y Rhaglen, sef Stephen Clear a Dr Marie Parker, mae Cyfres ‘Legal World’ yn gofyn am i fyfyrwyr drefnu, o’u gwirfodd, gynadleddau a digwyddiadau cymdeithasol ar bynciau cyfreithiol yng nghyswllt gwahanol gyfandiroedd a rhanbarthau.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2014
Cyhoeddi'r rhestr fer am Wobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn
Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer am Wobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn. Mae Sarah Marie Nason o Ysgol y Gyfraith yn un o chwech o athrawon y gyfraith o sefydliadau ar draws gwledydd Prydain sydd wedi'u rhoi ar y rhestr fer am y wobr bwysig hon.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2013
Cyhoeddiad Busnes Mawr yng Nghynhadledd Caffael Ysgol y Gyfraith
Heddiw, cafwyd cyfres o gyhoeddiadau economaidd enfawr gan Alun Cairns AS, Is-Weinidog Seneddol Swyddfa Cymru, a draddododd anerchiad bwysig yn “Wythnos Caffael”, cynhadledd fawr flynyddol sydd yn cael ei threfnu yng Nghaerdydd gan Sefydliad ar gyfer Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael, Prifysgol Bangor (SCAC, Ysgol y Gyfraith Bangor).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2015
Cymdeithas y Gyfraith yn Ymweld â Llundain a Chaerdydd
Bu aelodau o Gymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith Bangor yn dathlu diwedd y flwyddyn academaidd gydag ymweliadau i Lundain a Chaerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2011
Cymrodyr ymchwil newydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Prifysgol Bangor yn darparu tri allan o’r saith cymrawd ymchwil newydd a fydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o raglen sy’n rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau addysg uwch a senedd Cymru. Bydd yr academyddion o Ysgolion y Gyfraith, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Naturiol yn rhannu eu harbenigedd ar faterion o bwys mawr a fydd yn bwydo’n uniongyrchol i waith y Cynulliad a’i bwyllgorau. Mae hyn yn arwain o gyfraniad Prifysgol Bangor i’r peilot llwyddiannus .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019
Cymru - prynu ei ffordd i economi gref
Mae cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynglŷn â Datganiad Polisi ar Gaffael yng Nghymru wrth i’r Wythnos Gaffael Flynyddol agosáu, a hwnnw’n ddigwyddiad rhyngwladol o bwys, yn sicr o achosi cynnwrf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2013
Cymru – prynu ei ffordd i economi gref
Mae cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynglŷn â Datganiad Polisi ar Gaffael yng Nghymru wrth i’r Wythnos Gaffael Flynyddol agosáu, a hwnnw’n ddigwyddiad rhyngwladol o bwys, yn sicr o achosi cynnwrf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2013
Cyn-fyfyrwraig Kate yn ennill tymor prawf mewn Siambrau Bargyfreithwyr
Mae cyn-fyfyrwraig o Ysgol y Gyfraith wedi cael cynnig tymor prawf mewn Siambrau Bargyfreithwyr sydd wedi’u lleoli yn Swydd Nottingham.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2013
Cynhadledd Cyfraith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mis diwethaf, fe cafodd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg y gyfraith o brifysgolion ar draws Cymru cyfle i fynychu cynhadledd cyfraith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd. Trefnwyd y gynhadledd gan ddau o ddarlithwyr Ysgol y Gyfraith Bangor, Dr Hayley Roberts a Huw Pritchard, gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2015
Cynhadledd Ethnograffeg a Ffiniau Symudol Plismona
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2019
Cynhadledd i drafod cyfraith hawlfraint a cherddoriaeth mewn iaith leiafrifol
Cynhelir cynhadledd ddwyieithog arbennig ym Mangor i drafod datblygiadau diweddar ym maes cyfraith hawlfraint ac effaith y gyfraith ar gerddoriaeth mewn iaith leiafrifol. Trefnir y gynhadledd ‘Casglu a Gwarchod: Hawlfraint yn yr 21ain Ganrif a Cherddoriaeth Mewn Ieithoedd Lleiafrifol’ gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor ac fe’i cynhelir yn Neuadd Reichel ar Ddydd Iau 13eg Chwefror, 9.30am-4.00pm.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2014
Cynllun Newydd i Hybu Cyflogadwyedd Myfyrwyr y Gyfraith ym Mangor
Mae Ysgol y Gyfraith, Bangor yn un o Ysgolion academaidd cyntaf y Brifysgol i dreialu menter newydd sy’n anelu at wneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy. Bwriad Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yw ceisio gwella rhagolygon gyrfaol myfyrwyr Bangor trwy eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y cyd â’u cyrsiau a rhai allgyrsiol, megis lleoliadau gwaith, gwirfoddoli, gwaith rhan-amser a dysgu medrau newydd. Mae’r cynllun yn gwahodd myfyrwyr i ddatblygu’r math o fedrau trosglwyddadwy a fydd yn profi’n werthfawr mewn marchnad swyddi i raddedigion sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ionawr 2012
Cynllun Rheoli Ariannol i Raddedigion 2019 - GIG Cymru
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2018
Cytundeb Newydd yn dod â Bargyfreithwyr i Ogledd Cymru ac Ysgol y Gyfraith, Bangor
O ganlyniad i gytundeb rhwng Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Linenhall Chambers, un o Siambrau Bargyfreithwyr amlycaf Cymru, bydd yn haws i gymunedau yng Ngogledd Cymru gael mynediad at y cyngor cyfreithiol gorau. O ganlyniad i’r bartneriaeth hanesyddol â Phrifysgol Bangor, bydd y Siambrau Bargyfreithwyr yn gweithredu o fewn Ysgol y Gyfraith, gyda myfyrwyr yn cael cyfle i brofi bywyd gydag un o’r brif gwmnïau bargyfreithwyr ym Mhrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2013
Cytundeb Newydd yn dod â Bargyfreithwyr i ogledd Cymru
O ganlyniad i gytundeb rhwng Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Linenhall Chambers, un o Siambrau Bargyfreithwyr amlycaf Cymru, bydd yn haws i gyfreithwyr yng Ngogledd Cymru gael mynediad at y cyngor cyfreithiol gorau. O ganlyniad i’r bartneriaeth hanesyddol â Phrifysgol Bangor, bydd y Siambrau Bargyfreithwyr yn gweithredu o fewn Ysgol y Gyfraith, gyda myfyrwyr yn cael cyfle i brofi bywyd gydag un o brif gwmnïau bargyfreithwyr gwledydd Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2013
DIGWYDDIAD WEDI EI GANSLO: A ydych wedi penderfynu ar sut y byddwch yn pleidleisio yn y refferendwm eto?
Yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd yn Ngorllewin Swydd Efrog ddoe a'r ffaith fod yr ymgyrchoedd dros Aros a thros Adael wedi gohirio eu gweithgareddau am y tro, mae'r ddadl a oedd wedi ei threfnu ar y cyd ag Ysgol y Gyfraith ar gyfer heno, nos Wener 17 Mehefin, wedi ei chanslo fel arwydd o barch at Jo Cox AS.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2016
Darlith Cyhoeddus 07/10/11 – Paul Harris S.C.
Ddydd Gwener, 7 Hydref bydd Ysgol y Gyfraith ym Mangor yn croesawu Paul Harris S.C., arbenigwr ym maes hawliau dynol ac un o’r sidanwyr mwyaf blaenllaw yn Hong Kong. Bydd Mr Harris yn rhoi darlith am yrfaoedd yn y Bar, yn arbennig ym maes cyfraith ryngwladol a hawliau dynol. Bu Mr Harris yn fyfyriwr i’r Athro Suzannah Linton yn ystod ei chyfnod yn Hong Kong. Mae’n ymarfer yn y Bar yn y DU ac yn Hong Kong, ac mae ei siambrau yn Llundain ar Doughty Street, lle mae siambrau'r goreuon sy'n arbenigo yn y math hwn o waith.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2011
Darlith gan Westai Nodedig - Dr Gillian Davies
Mae’n bleser o’r mwyaf gan Ysgol y Gyfraith Bangor gyhoeddi y traddodir darlith wadd gan Dr Gillian Davies, Bargyfreithiwr yn Siambrau Hogarth yn Llundain, ddydd Iau 24 Tachwedd 2011. Bwriad darlith Dr Davies, sy’n dwyn y teitl “The European Patent Office (EPO) in the Global Patent System – European Patent Convention (EPC) Law and Practice”, yw dangos sut mae Cytundeb Patentau Ewrop yn cyd-fynd â’r system patentau fyd-eang (Cytundeb Paris, Cytundeb Cydweithio Patentau etc.) yn ogystal â’i berthynas â chyfreithiau cartref a phatent yr UE. Bydd yr anerchiad o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr sy’n astudio’r modiwl ‘Cyfraith Eiddo Deallusol’ ar hyn o bryd neu’n bwriadu gwneud hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2011
Darlithoedd difyr ym Methesda
O zombies y Mabinogi i’r Gymraeg ar Facebook; o faes seicoleg plant i lên Cymry Llundain ac o sinema’r Eidal i ddyfnderoedd y Titanic, bydd rhai o darlithwyr mwyaf dawnus Prifysgol Bangor yn ymweld â Neuadd Ogwen, Bethesda, yn ystod y chwech wythnos nesaf i drafod ystod eang o bynciau.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2014
Darlithydd Ysgol y Gyfraith yn derbyn Cymrodoriaeth Dysgu
Bu rhagor o ddathlu yn ystod seremoni raddio Ysgol y Gyfraith eleni, wrth i Ann McLaren, darlithydd yn yr Ysgol, cael ei gwobrwyo gyda Chymrodoriaeth Dysgu am ragoriaeth yn dysgu a gofal bugeiliol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2011
Darlithydd o Fangor yn cael ei enwebu am wobr genedlaethol ‘Athro’r Gyfraith y Flwyddyn’
Mae uwch darlithydd o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael ei enwebu am wobr genedlaethol gan ei fyfyrwyr. Rhoddwyd enw Mr Aled Griffiths, Dirprwy Pennaeth Ysgol y Gyfraith, ymlaen ar gyfer gwobr flynyddol ‘Athro’r Gyfraith y Flwyddyn’ Oxford University Press.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2012
Darlithydd y Gyfraith yn ennill gwobr ymchwil bwysig
Dyfarnwyd gwobr ymchwil bwysig yr ‘Academic Platform Switzerland UN’ i Evelyne Schmid, darlithydd yn Ysgol y Gyfraith Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2011
Darlithydd yn cario’r Ffagl Olympaidd ar Ddydd 11 y Ras Gyfnewid
Bu Sarah Nason, Darlithydd yn y Gyfraith, yn cario’r Ffagl Olympaidd heibio Castell Conwy ar Ddydd Mawrth, 29ain o Fai – Dydd 11 Ras Gyfnewid y Ffagl – wrth i’r fflam teithio o Fiwmares i Gaer.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2012
Darlithydd yn ennill gwobr genedlaethol am ymchwil i ffug lysoedd barn
Yng nghynhadledd flynyddol yr Association of Law Teachers, a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn ym Mhrifysgol Portsmouth, fe wnaeth Stephen Clear, Darlithydd yn y Gyfraith a Chydlynydd Ffug Lysoedd Barn Ysgol y Gyfraith Bangor, ennill gwobr bwysig Stan Marsh. Cipiodd Stephen y wobr am ei gyflwyniad poster gyda'r teitl: "Is This the Real Life, Is This Just Fantasy? Mooting, Employability and Expectations."
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2017
Darlithydd yn y Gyfraith o Fangor yn cael ei phenodi'n Gymrawd Academaidd yn yr Inner Temple
Mae Dr Yvonne McDermott Rees, Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei phenodi i swydd dair blynedd bwysig fel Cymrawd Academaidd Cymdeithas Anrhydeddus yr Inner Temple . Mae Dr McDermott Rees yn un o ddim ond pedwar o academyddion blaenllaw a ddewiswyd gan Gymdeithas Anrhydeddus yr Inner Temple, un o bedwar Ysbyty'r Brawdlys yng Nghymru a Lloegr. Ysbytai'r Brawdlys yn unig sydd â'r hawl i alw ymgeiswyr i weithredu wrth Far Cymru a Lloegr. Mae Cynllun Cymrodyr Academaidd yr Inner Temple yn cydnabod cyfraniad nodedig academyddion ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa ym maes dysgu ac ymchwil yn y gyfraith. Ei nod hefyd yw cefnogi eu hymchwil a meithrin cysylltiad cryfach rhwng y Bar, y farnwriaeth a'r gyfraith yn y byd academaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014
Darlithydd ‘ysbrydoledig’ ym Mangor i gario’r Fflam Olympaidd
Mae darlithydd yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor wedi cael ei dewis i gario’r Fflam Olympaidd ar ôl cael ei henwebu ar gyfer yr anrhydedd gan ei myfyrwyr. Enwebwyd Sarah Nason, darlithydd yn y gyfraith, i’r categori ‘Ysbrydoli Eraill trwy Addysg’ a bydd yn cario’r fflam pan fydd yn teithio drwy Gonwy – 15 milltir o Fangor – ddydd Mawrth, 29 Mai 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2012
Darllenwch rifyn diweddaraf cylchlythyr Ysgol y Gyfraith, Bangor
Daliwch i fyny ar y newyddion a datblygiadau yn Ysgol y Gyfraith, Bangor, yn rhifyn diweddaraf ein cylchlythyr . Am fewnwelediad mwy trylwyr i mewn i staff academaidd newydd ac ein cyfres newydd o raglenni LLM ar gyfer 2011, darllenwch y rhifyn gyntaf o Siwrnal Ysgol y Gyfraith Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2011
Dathlu 10 mlynedd
Eleni, mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed, ac rydym yn falch i wahodd graddedigion a chyn-fyfyrwyr am benwythnos o ddathliadau ar y campws.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2015
Dathlu cyfraniadau eithriadol i addysgu a dysgu
Cyflwynwyd Gymrodoriaethau Addysgu yng Ngholeg Celfyddydau, Dynoliaethau a Busnes eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2021
Dathlu rhagoriaeth ymysg myfyrwyr y flwyddyn gyntaf
Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A. Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor yn cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014
Digartrefedd - cymharu dulliau
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2020
Digwyddiad hanesyddol wrth i Ysgol y Gyfraith Bangor fod y gyntaf yng Nghymru i gynnal achos llys ffug yn y Goruchaf Lys
Llwyddodd myfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor i greu hanes y mis diwethaf wrth iddynt fod y tîm cyntaf o Ysgol y Gyfraith yng Nghymru i gael eu gwahodd i gynnal achos ffug o flaen y Goruchaf Lys yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2013
Digwyddiad pwrcasu yn llwyddiant
Mae digwyddiad gafodd ei gynnal er mwyn darganfod sut y gall cynghorau wella eu hymarfer da o ran pwrcasu wedi derbyn adborth bositif gan fusnesau lleol, llywodraeth leol ac academyddion.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2012
Dosbarth 2012 Ysgol y Gyfraith Bangor yn dathlu Graddio
Fe wnaeth myfyrwyr y Gyfraith ym Mangor ddathlu eu llwyddiannau academaidd ddydd Llun, 16 Gorffennaf 2012, wrth i’r Ysgol gynnal ei seremoni i’r garfan a oedd yn graddio eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2012
Dr Yvonne McDermott Rees yn cyrraedd rhestr fer gwobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn 2016
Mae Dr Yvonne McDermott Rees , Uwch Ddarlithydd y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei henwi ymhlith y chwech sydd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn 2016 . Noddir Gwobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn gan Wasg Prifysgol Rhydychen a'i bwriad yw dathlu addysgu ardderchog ym maes y Gyfraith a chydnabod y gwaith hanfodol y mae athrawon yn ei wneud yn meithrin cyfreithwyr y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2016
Dr. Suzannah Linton: ei Phenodi’n Athro Cyfraith Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith Bangor
Dr. Suzannah Linton yw Athro Cyfraith Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith Bangor ac mae’n arwain y tîm Cyfraith Ryngwladol. Ymunodd yn ddiweddar ag Ysgol y Gyfraith Bangor o Brifysgol Hong Kong ac mae’n dod â llawer o brofiad ymarferol ac academaidd ym maes Cyfraith Ryngwladol i Fangor.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2011
Dychweliad buddugoliaethus i gystadleuaeth Telders i Fangor
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Ysgol y Gyfraith, Bangor yn dathlu llwyddiant mewn cystadleuaeth ffug-lys fyd-enwog. Y llynedd, daeth tîm o Fangor y cyntaf erioed i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Ffug-Lys Cyfraith Ryngwladol Telders, gan orffen yn safle 17 yn gyffredinol. Bu i dîm eleni lwyddo i fynd un cam ymhellach gan orffen yn safle 16.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2014
Dyfarnu Aur i Fangor
Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon. Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017
Dyfarnu Medal Cwmni’r Brethynwyr i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor
Cafodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor eu cyflwyno gyda Medalau’r Brethynwyr yn ddiweddar. Mae Cwmni’r Brethynwyr yn un o Gwmnïau Lifrai hanesyddol dinas Llundain, sydd bellach yn gweithredu fel mudiad dyngarol. Mae dwy fedal yn cael ei chyfrannu bob blwyddyn gan Gwmni’r Brethynwyr i fyfyrwyr ôl-radd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015
Dynodi Statws Athro ar Ymweliad i Academydd o Ysgol Hanes, y Gyfraith, a Gwyddorau Cymdeithas
Mae’r Athro Lucy Huskinson wedi derbyn swydd Athro ar Ymweliad yn y Pontificia Universidad Católica De Chile, y Brifysgol uchaf ei statws yn America Ladin.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2021
Dysgu am galigraffeg
Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae’r Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012
Ehangwch eich sgiliau
Fel y bydd mwy a mwy o bobl yn graddio bob blwyddyn gyda graddau, ydych chi erioed wedi meddwl beth fyddai’n gwneud i’ch cais chi am swydd sefyll allan yng nghanol pentwr o ffurflenni cais?
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2011
Eich cadw yn y ddolen gyfreithiol: graddedigion yn y gyfraith yn lansio gwefan newyddion
Mae dau gyn-fyfyriwr a raddiodd ym Mhrifysgol Bangor wedi lansio gwefan newyddion cyfreithiol a chymorth i astudio’r gyfraith sydd yn targedu'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr. Lansiwyd Legal Loop ar 1 Hydref, ac fe'i disgrifiwyd fel adnodd ar-lein cynhwysfawr sy'n rhoi gwybodaeth am y datblygiadau cyfreithiol diweddaraf yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015
Eisiau Gwybod Mwy am Yrfaoedd Mewn Cyfraith Ryngwladol?
Petai chi’n fyfyrwyr blwyddyn gyntaf neu yn astudio tuag at radd Meistr, nid yw byth rhy gynnar i feddwl am y cam nesaf yn eich gyrfa gyfreithiol. Mis yma, bydd Dr Suzannah Linton, a phenodwyd fel Athro Cyfraith Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith Bangor yn ddiweddar, yn rhoi mewnwelediad i’r fath o yrfaoedd sydd ar gael yn y sectorau Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus a Chyfraith Hawliau Dynol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2011
Entrepreneuriaid Santander Bangor
Bydd Carley Williams, myfyrwraig sy’n astudio Dylunio Cynnyrch, gyda statws Athro cymwysedig yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn rownd y DU gwobrau Entrepreneuriaeth Santander, wedi iddi ennill cystadleuaeth yn y Brifysgol. Yn ymuno a hi hefyd fydd Hernan Diazgranados, myfyriwr ôl-radd, yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015
Enwi darlithydd o Fangor yn un o’r goreuon ym Mhrydain
Llongyfarchiadau i Sarah Nason, Darlithydd yn y Gyfraith, am gyrraedd rownd derfynol yng nghystadleuaeth OUP ar gyfer Athro Cyfraith y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2014
Eurliw ar ei ffordd i wireddu ei breuddwyd
Mae Eurliw Hydref Lloyd Williams, 21, yn graddio o Brifysgol Bangor wythnos yma gyda gradd yn y Gyfraith gyda’r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Fe fydd Ombwdsman Caffael Canada ymysg y Siaradwyr o 16 o wahanol wledydd sy’n mynychu Cynhadledd Gaffael enfawr Ysgol y Gyfraith.
Rhwng 18-22 Mawrth, bydd Ysgol y Gyfraith Bangor yn croesawu dros 250 o fusnesau a chyrff cyhoeddus pan fydd nifer o arbenigwyr rhyngwladol ym maes caffael yn ymgynnull yn Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013
Ffair Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018
Ffair y Gyfraith Prifysgol Bangor, 20 Tachwedd 2019
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2019
Ffair y Gyfraith ym Mangor yn amlygu cyfleoedd cyflogaeth i raddedigion
Fel rhan o’i dathliadau deng mlynedd mewn bodolaeth, fe fydd Ysgol y Gyfraith Bangor (Gwynedd) yn cynnal Ffair y Gyfraith ar ddydd Mercher, 19 Tachwedd 2014, rhwng 9.45am tan 3.30pm. Bwriad y Ffair yw i ddod â myfyrwyr y Gyfraith ym Mangor a chyflogwyr ynghyd mewn amgylchedd fydd yn creu canlyniadau cyd-fanteisiol. Mae’r Ffair y Gyfraith yn gyfle i unrhyw un, o fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith, i ddisgyblion ysgolion uwchradd, i rai sy’n cynnig cyfleodd gyrfa, ac unrhyw un arall fyddai â diddordeb mewn gweld pa fath o yrfaoedd yn y Gyfraith sydd ar gael i’r rhai hynny sydd â gradd yn y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2014
Five things you need to know about the Radovan Karadžić case
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yvonne McDermott Rees o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2016
From Geoffrey Chaucer to Jeff Sessions, misspeaking is when you lie about lying
Dyma erthygl yn Saesneg gan John Olsson o’r Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2017
Gall caffael preifat a chyhoeddus da gyfrannu at greu buddion lluosog
Gall polisïau caffael wedi eu hysgrifennu’n ofalus fod yn gymorth i awdurdodau lleol gyflawni amcanion megis sicrhau arbedion a chefnogi busnesau lleol, yn ôl yr Athro Dermot Cahill, Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael a Phennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2012
Galwad am Bapurau Gweithdy Hanes Pobl Ddu ym Mhrydain
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2021
Gary Clifford o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi ei roi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol arweinyddiaeth
Mae Gary Clifford, Rheolwr Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael, sydd wedi ei leoli yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor, wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ngwobrau hir-sefydledig, a’r unig gystadleuaeth wedi ei neilltuo ar gyfer arweinyddiaeth. Rhoddwyd Gary ar y rhestr fer yng nghategori Arweinyddiaeth Cymru am y Dyfodol, am ei rôl arweinyddiaeth uchelgeisiol wrth lywio’r Sefydliad drwy gyfnod o dyfiant cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae’n un o bedwar yn y categori yma.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2016
Gradd ddwbl yn derbyn gwobr bwysig gan y Gymdeithas Cyfreithwyr Ffrengig-Brydeinig
Mae'r Prifysgol Bangor a Université Toulouse-Capitole wedi derbyn Gwobr Robertson-Horsington 2017 gan y Franco-British Lawyers Society (FBLS) am eu rhaglen gradd ddwbl: y Drwydded/Meistr 1 mewn Cyfraith Ryngwladol / LLB Cyfraith Lloegr a Chyfraith Ffrainc. Mae'r cwrs arloesol, rhyngwladol hwn sy'n rhoi gradd ddwbl yn y gyfraith yn cael ei gynnig mewn partneriaeth gan Toulouse-Capitole, Ffrainc a Phrifysgol Bangor. Caiff myfyrwyr gyfle i dreulio dwy flynedd yn astudio'r gyfraith yn y ddwy wlad, gan arwain at dderbyn gradd LLB Brydeinig a gradd Meistr I Ffrengig ar ôl pedair blynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2017
Graddedig o Fangor yn cael swydd fel paragyfreithwraig yn Swydd Gaer
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn hapus iawn i raddio ar ôl tair blynedd anhygoel yn y Brifysgol. Bydd y cyn-fyfyrwraig Coleg Iâl, Keira Jayne Hand, 21, o Rhosllannerchrugog, Wrecsam, yn graddio gyda gradd LLB dosbarth cyntaf yn y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016
Grant Ewropeaidd sylweddol i Ysgol y Gyfraith
Mae'r Athro Dermot Cahill o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Ceri Evans newydd sicrhau grant ymchwil gwerth 4 miliwn ewro (project WIT) ar y cyd gydag Uned Caffael Strategol Prifysgol Dinas Dulyn.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2011
Grant Ewropeaidd sylweddol i Ysgol y Gyfraith
Mae'r Athro Dermot Cahill o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Ceri Evans newydd sicrhau grant ymchwil gwerth 4 miliwn ewro (project WIT) ar y cyd gydag Uned Caffael Strategol Prifysgol Dinas Dulyn. Sicrhawyd y grant yn wyneb cystadleuaeth lem ryngwladol. Ac fe gaiff ei ariannu tan ddiwedd 2013 gan raglen Arloesedd a Chystadlu INTERREG Iwerddon/Cymru yr Undeb Ewropeaidd. Ysgol y Gyfraith Bangor fydd yn arwain y bartneriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2010
Gwahoddiad i gyfarfod ymgynghori ar Gyfraith Ewyllysiau
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2017
Gwasanaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor
Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2019 yn Neuadd Prichard-Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor rhwng 10.30 ac 11.30 o'r gloch y bore, ddydd Llun 28 Ionawr. Thema gwasanaeth eleni yw 'Torn from Home' a bydd yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o'r gymuned leol a'r cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, y Tîm Caplaniaeth, a staff y brifysgol. Cynhelir y gwasanaeth, sydd am ddim ac yn agored i'r cyhoedd, yn Neuadd Prichard-Jones ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau a bydd lluniaeth ysgafn ar gael wedi'r gwasanaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2019
Gweithdy Cwblhau llwyddiannus arall i fyfyrwyr PhD Bangor
Yn dilyn llwyddiant y Gweithdy Cwblhau PhD cyntaf ym Medi 2011, cynhaliodd Ysgol y Gyfraith Bangor yr ail Weithdy Cwblhau i fyfyrwyr PhD ddydd Gwener, 23 Mawrth 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2012
Gweithdy Drama i fagu hyder a medrau cyflwyno mewn Llys
Cafodd israddedigion Blwyddyn 1 mewn Medrau Cyfreithiol ddarlith ychydig yn wahanol i’r arfer, wrth i Gwmni Theatr ‘Just Some’ ymweld ag Ysgol y Gyfraith, Bangor, er mwyn cyflwyno rhai gweithdai arbenigol mewn magu hyder a medrau cyflwyno.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2013
Gwerthiant a defnydd o Brydlesau yng Nghymru
Er mwyn cefnogi polisïau Llywodraeth Cymru ar brydles yng Nghymru, mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl sydd â phrydles preswyl hir, fel rhan o'u perchentyaeth neu forgais, i gwblhau holiadur ar-lein ynglŷn â’u profiadau a'u dealltwriaeth o brydlesi.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2019
Gwobr Anrhydeddus i Marian Gwyn
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2021
Gwobrau Caffael Cenedlaethol 2016: Cyngor Gwynedd yn ennill gwobr am Fuddion Cymunedol
Yn ystod y Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru 2016 a chafwyd eu cynnal gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a’i Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael yn ddiweddar, fe enillodd Cyngor Gwynedd y Wobr Genedlaethol am Fuddion Cymunedol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2016
Gwobrau Caffael Cenedlaethol 2016: Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ennill gwobr am gaffael electroneg
Yng Ngwobrau Caffael Cenedlaethol 2016, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar gan Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor, fe dderbyniodd RCT Homes y wobr am Gaffael Electroneg.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2016
Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2015
Cynhaliwyd y seremoni flynyddol yn dyfarnu Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â gwobrwyo Cynrychiolwyr Cwrs am y bedwaredd tro yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015
Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016
Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i’w chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Gwobrau. Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i’w chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016
Holl rym y Gyfraith – gradd dosbarth cyntaf i Sioned ar ôl cofleidio profiadau newydd
Gyda'i golygon wedi eu gosod ar yrfa yn y maes cyfreithiol ers yr oedd yn ifanc iawn, mae myfyrwraig Prifysgol Bangor wedi dod gam yn nes at gyflawni ei breuddwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
How Libya became the International Criminal Court’s latest failure
Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2015
Hwb i Brifysgol Bangor ar ddechrau tymor newydd
Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor wedi derbyn hwb sylweddol yn sgil buddsoddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol . Mae’r brifysgol wedi penodi pum darlithydd trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg i weithio ym meysydd Seicoleg , y Gyfraith , Cyfrifiadureg , Nyrsio a Gofal Iechyd a Chyfrifeg .
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013
Hwyluso'r ffordd o wneud ewyllys
Ddydd Llun, 9 Hydref, bydd Comisiwn y Gyfraith Lloegr a Chymru yn ymweld â Phrifysgol Bangor i ymgynghori â'r cyhoedd yng Ngogledd Cymru sut orau y dylid mynd ati i ddiwygio'r gyfraith ar wneud ewyllys.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2017
ICC expands definition of war crimes to cover combatants in the same armed forces
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Yvonne McDermot o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017
Investigation gets underway over Carl Sargeant tragedy and Welsh first minister
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2018
Lansio Future Legal Mind 2017 yn cynnig hwb gyrfa sylweddol a gwobrau ariannol i fyfyrwyr
Mae trydedd wobr flynyddol Future Legal Mind yn cael ei lansio'r wythnos hon, gan gynnig y cyfle i israddedigion y Gyfraith ennill lleoliad gwaith gwerthfawr a gwobrau ariannol werth cyfanswm o dros £7,000.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2016
Law School Signs Major MOUs with Leading Malaysian Universities
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2015
Law School staff sweep Student Led Teaching Awards nominations
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi derbyn 14 enwebiad yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, sy'n adlewyrchiad o ymrwymiad yr ysgol i ofal bugeiliol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2017
Leah yn ennill gwobr
Pan darodd Leah Jones o’r Rhyl ar draws wefan Llyfrgell Farddoniaeth y DU, sylweddolodd ei bod yn cynnig y cyfle perffaith i gyflwyno cerdd yr oedd hi’n arbennig o falch ohoni.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2014
Llunio cais i Fangor yn Benderfyniad dosbarth-cyntaf i Rebecca
Wrth ddarllen drwy ei negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, gwelodd Rebecca Holian gyfle a newidiodd gwrs ei bywyd a'i galluogi i wireddu breuddwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019
Llwyddiant Dwbl i Xavier
Wrth i 2013 dynnu at y terfyn, gall un aelod o staff Ysgol y Gyfraith ei hystyried fel blwyddyn arbennig o lwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2013
Llwyddiant Seremoni Raddio’r gaeaf
Llongyfarchiadau i bawb a raddiodd yr wythnos diwethaf, yn enwedig i enillwyr gwobrau Ysgol y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2017
Llwyddiant cyflogaeth i gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr blwyddyn derfynol
Llongyfarchiadau i ddau o’n cyn-fyfyrwyr a ddwy myfyrwraig trydedd flwyddyn sydd wedi cael cynigion cyflogaeth yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2014
Llwyddiant i Fangor mewn cystadleuaeth adfocatiaeth genedlaethol
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi llwyddo yn rownd gyntaf Cystadleuaeth Adfocatiaeth Droseddol Genedlaethol Blackstone. Roedd y myfyrwyr israddedig Leah Jones a Scott Williams yn wynebu cystadleuaeth ffyrnig oddi wrth Brifysgol Fetropolitan Manceinion a oedd â mantais o dri phwynt dros Fangor wrth gychwyn yn y ffug lys o ganlyniad i'w ceisiadau cyn treial.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2016
Llwyddiant i fyfyrwyr Bangor mewn cystadleuaeth ryngwladol y Gyfraith
Mae pedwar myfyriwr o Brifysgol Bangor yn dathlu perfformiad syfrdanol mewn cystadleuaeth ryngwladol y Gyfraith. Roedd Ayaz Saboor, Bianca Rowson, Miriam Mbah a Catherine-Anne Higham yn un o 90 tîm o brifysgolion o bob cwr o’r byd i gystadlu yng nghystadleuaeth Llys Barn Ffug Coffa KK Luthra a gynhaliwyd yn Delhi, India, fis diwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2015
Llwyddiant i staff y Gyfraith yn seremoni Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Roedd llwyddiant i staff Ysgol y Gyfraith Bangor yn gynharach mis yma wrth i ddau aelod derbyn gwobr yn seremoni Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2013
Llwyddiant wrth ddelweddu cyfiawnder gweinyddol
Mae academyddion o Ysgol y Gyfraith ac Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith ym maes delweddu data.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2021
Llwyddiant y Siop Bwydydd Hyll
Mae'r 'Siop Bwydydd Hyll' sydd wedi cael ei rheoli a'i rhedeg gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor am y pedair wythnos ddiwethaf wedi bod yn llwyddiant mawr.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2015
Llwyddiant ymryson cenedlaethol i Catherine-Anne
Er bod myfyrwyr ar eu gwyliau haf erbyn hyn, nid yw hynny’n golygu bod un fyfyrwraig y Gyfraith o Brifysgol Bangor wedi treulio’i holl amser ar y traeth.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2014
Llys y Goron yn Cynnal Rownd Derfynol y Ffug Lys Cymraeg
Cynhelir rownd derfynol cystadleuaeth Ffug Lys gyfrwng Cymraeg Ysgol y Gyfraith yn Llys y Goron, Caernarfon, yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2011
Lucy Owen yn cyflwyno Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru
Cymerodd le yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar Fawrth 20, 2015. Wedi ei drefnu gan Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffel, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, cafodd y Gwobrau eu cyflwyno gan Lucy Owen, BBC, gydag anerchiad gan Weinidog Cyllid & Busnes Llywodraeth, Jane Hutt AC. Yn cadeirio y Panel Beirniaid Rhyngwladol roedd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2015
Mae ar broject gan fyfyrwyr y Gyfraith Bangor angen eich pleidlais CHI
Mae project a sefydlwyd ac a gynhelir gan israddedigion Ysgol Y Gyfraith Bangor yn ymgiprys am wobr ariannol fawr. Mae Cyfraith Stryd yn cymryd rhan yn y cynllun NatWest Community Force lle mae elusennau a phrojectau ar draws Prydain yn cystadlu am wobr o £6,000 i’w helpu i ddatblygu eu cynlluniau ymhellach.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2011
Mae cyfiawnder gweinyddol yn effeithio arnom i gyd - nawr yw'r amser i roi mwy o ystyriaeth iddo
Efallai nad ydych erioed wedi ystyried cyfiawnder gweinyddol, ond mae'n effeithio ar bob un ohonom - ac mae llawer ohono wedi'i ddatganoli yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y gallwn fynd at gyrff penodol i geisio iawn os ydym yn anhapus gyda'r gwasanaeth a gawsom mewn ystod eang o sefyllfaoedd. Mae Sarah Nason, Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, newydd gyhoeddi adroddiad sy'n adolygu beth yw'r sefyllfa bresennol a'r camau nesaf i gyfiawnder gweinyddol yng Nghymru drwy dynnu ynghyd y penderfyniadau gweinyddol a ddatganolwyd i Gymru a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018
Mae dwy ochr y Tŷ yn ceisio arbenigedd Bangor ym maes caffael cyhoeddus
Mae Plaid Geidwadol y DU wedi gwahodd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor, i fod yn Aelod o Ymchwiliad Seneddol Tŷ’r Cyffredin i gaffael electronig, a hynny er mwyn cloriannu’r achos dros ddichonoldeb cyflwyno anfonebau electronig i’r DU fel arfer cyffredin gan y Llywodraeth ar gyfer prynu.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2014
Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr ( Times Higher Education Student Experience Survey 2015 ).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016
Mae'n bosib bod helyntion priodasol Harri VIII wedi dylanwadu ar gyplau eraill, yn ôl dogfennau sydd newydd ddod i'r fei
Darganfuwyd dogfennau sy'n dangos o bosib bod helyntion priodasol enwog Harri VIII wedi peri i gyplau eraill ledled y wlad wahanu fel y gwnaeth yntau. Mae stori ryfeddol hogyn yn ei arddegau a fu'n ymbalfalu rhwng dwy wraig mewn ffordd debyg - ac ar yr un pryd - i ymdrechion y brenin i geisio newid ei gymar yn awgrymu bod cyplau eraill yn gwylio a bod dylanwad achos y brenin yntau ar y gyfraith wedi dylanwadu arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019
Mae’r Brifysgol yn lansio Project £3.2 miliwn i Hybu Twf Economaidd
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi cynnal lansiad swyddogol project £3.2 miliwn i hybu twf economaidd yng Nghymru ac Iwerddon. Mae'r Project Ennill wrth Dendro wedi ei gyllido'n rhannol gan Raglen Drawsffiniol Iwerddon/Cymru'r Undeb Ewropeaidd a’i nod yw trawsnewid gallu cyflenwyr bach i ennill contractau a sicrhau bod sefydliadau lleol yn ennill mwy o siâr o fusnes y sector cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2011
Mae’r sioe-ar-daith ledled y wlad ar Hawliau Dynol yn dod i Fangor – gwnewch gais am le YN AWR.
Mae Canolfan Bangor ar Gyfraith Ryngwladol yn Ysol y Gyfraith, Bangor wrthi’n cydweithredu â’r Sefydliad Prydeinig dros Hawliau Dynol wrth gynnal sioe-ar-daith ym Mangor ddydd Mercher 14 Tachwedd 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2012
Mam o Abersoch yn jyglo gwaith ac astudiaethau i ennill gradd dosbarth cyntaf
Mae Natasha Roberts o Abersoch, wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ar ôl goresgyn llawer o rwystrau yn ystod ei hastudiaethau
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016
Marie Stein (11 April 1929 - 16 July 2016) - gan Gabriel Stein
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2021
Meistr y Ffug Lys yn cipio gwobr Gwasg Prifysgol Rhydychen
Mae un o raddedigion y Gyfraith ym Mangor wedi cael hwb cyn dechrau astudio am radd Meistr yn dilyn ennill Gwobr y Gyfraith, Gwasg Prifysgol Rhydychen.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2016
Merched yn y byd Cyhoeddi: Cynhadledd undydd.
Merched yn y byd Cyhoeddi: Ar 15 Chwefror 2020, bydd Prifysgol Bangor yn croesawu merched dylanwadol o bob cwr o'r byd cyhoeddi i gynhadledd undydd.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2020
Mr Gwilym Owen yn cael ei benodi'r Is Siryf Gwynedd
Mae Mr Gwilym Owen, Darlithydd yn Y Gyfraith, wedi cael ei benodi'n Is Siryf nesaf Gwynedd - swydd lle bydd yn gweithredu fel cyswllt allweddol rhwng Uchel Siryf newydd y sir a chlercod y Barnwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017
Mr Gwilym Owen yn cael ei enwebu am wobr 'Darlithydd y Gyfraith y Flwyddyn'
Mae aelod staff arall o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael ei enwebu am wobr addysgu bwysig. Mae Gwilym Owen, Darlithydd yn y Gyfraith, wedi cael ei roi ar y rhestr fer am wobr 'Darlithydd y Gyfraith y Flwyddyn' yng Ngwobrau Hyfforddi a Recriwtio blynyddol LawCareers.Net. Datgelir yr enillydd mewn seremoni yn Llundain ddydd Iau, 22 Mai.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2014
Mudes a Mwy: Ail-ymweld â theithiau iaith siaradwyr newydd y Gymraeg yng Nghwm Rhymni
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2021
Myfyriwr PhD yn ennill y prif wobr yng Nghynhadledd ‘Legal Wales’
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi curo myfyrwyr y Gyfraith ledled Cymru i ennill prif wobr yng Nghynhadledd ‘Legal Wales 2012’.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2012
Myfyriwr israddedig yn ennill ysgoloriaeth o £15,000 i gael hyfforddiant bargyfreithiwr
Mae'r myfyriwr trydedd flwyddyn Kate Longson wedi ennill ysgoloriaeth o fri gwerth £15,000 i ddilyn ei huchelgais i fod yn fargyfreithiwr. Bydd Kate, sy’n fyfyriwr LLB yn y Gyfraith, yn dechrau ar y cwrs Bar Professional Training Course (BPTC) ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ym mis Medi. Enillodd Ysgoloriaeth Lord Denning o £15,000 gan Ysbyty Lincoln ar ôl cael cyfweliad llwyddiannus yn gynharach y mis hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2012
Myfyriwr y Gyfraith i gynrychioli Prifysgol Bangor mewn Ysgol Haf yn Shanghai
Mae myfyriwr PhD yn Ysgol y Gyfraith, Bangor wedi cael ei ddewis i fynd i ysgol haf o fri yn Shanghai. Llwyddodd Stephen Clear, sydd wedi ennill gradd ddosbarth gyntaf a newydd gwblhau LLM Meistr y Gyfraith trwy Ymchwil yn Ysgol y Gyfraith, Bangor, i ennill lle ar y cwrs profiad diwylliannol, busnes ac iaith dwys ym Mhrifysgol Shanghai gan guro ymgeiswyr eraill o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2012
Myfyriwr y Gyfraith o Fangor yw’r gorau yng Nghymru
Mae myfyriwr Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael ei henwi fel y myfyriwr Cyfraith gorau mewn unrhyw brifysgol Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2012
Myfyriwr y Gyfraith yn cael ei dewis ar gyfer cwrs gwerthfawr
Mae myfyrwraig sydd yn astudio’r Gyfraith ym Mangor wedi derbyn cyfle unigryw i ennill sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfa gyfreithiol broffesiynol ar ôl cael ei dewis i fynychu ysgol breswyl o fri ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf y gyfraith yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2011
Myfyriwr y gyfraith am feicio ar draws yr Iseldiroedd i gasglu arian at elusen
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor sy'n dioddef oddi wrth gyflwr genetig prin am wneud taith feicio galed 182 milltir at elusen. Mae Christian Bolton-Edenborough, o Potters Bar yn Swydd Hertford, yn dioddef oddi wrth Lawrence Moon Bardet Biedl Syndrome, sy'n effeithio ar ei olwg ac a fydd yn ei wneud yn ddall yn y diwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2015
Myfyriwr y gyfraith yn cipio gwobr chwaraeon
Mae Adran Hamdden a Chwaraeon Prifysgol Bangor wedi dyfarnu Gwobr Goffa Llew Rees eleni i Benjamin Pritchard, myfyriwr sy’n astudio’r Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyriwr y gyfraith yn ennill ei hachos llys gyntaf CYN graddio
Aeth myfyriwr o Brifysgol Bangor, a ddioddefodd gwahaniaethu yn y gwaith, â'i chyn-gyflogwr i'r llys ac ennill yr achos - cyn gorffen ei gradd yn y gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2013
Myfyrwraig y Gyfraith ym Mangor yn cwblhau interniaeth gyda Chwmni Cyfreithiol yn Washington D.C.
Myfyrwraig yn ei blwyddyn olaf yn astudio Cyfraith Lloegr gyda Chyfraith Ffrainc yw Ms Haude Bergeon-Hennebois. Disgrifiodd ei hinterniaeth ym mis Medi 2016 gyda'r cwmni cyfreithiol Jezic & Moyse yn Washington D.C. fel un o'r profiadau gwaith mwyaf gwerthfawr yn ei bywyd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2016
Myfyrwraig y Gyfraith ym Mangor yn ennill ysgoloriaeth bwysig gan Lincoln's Inn
Mae myfyrwraig y Gyfraith ym Mangor wedi ennill ysgoloriaeth bwysig i wireddu ei huchelgais i fod yn fargyfreithiwr.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2012
Myfyrwyr Bangor yn dathlu llwyddiant yng nghystadleuaeth enwog Ffug Lys Barn Telders
Mae tîm o fyfyrwyr y Gyfraith o Brifysgol Bangor yn dathlu llwyddiant mewn cystadleuaeth fyd-enwog i fyfyrwyr y gyfraith. Y mis yma bu Cathal McCabe, Adam Gulliver, Damian Etone ac Andrew Jones yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Ffug Lys Barn Ryngwladol Telders - y tîm cyntaf erioed i wneud hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2013
Myfyrwyr Bangor yn dechrau busnes y gyfraith yn Canary Wharf
Mae Kawa, Guimaraes and Associates Solicitors, cwmni o gyfreithwyr a sefydlwyd yn ddiweddar yng Nghaergybi, wedi agor chwaer gwmni mewn adeilad adnabyddus yn One Canada Square, Canary Wharf, Llundain. Sefydlwyd y cwmni gan yr entrepreneuriaid, Mehedi Rahim a Kate Kawa. Mae Mehedi Rahim yn fyfyriwr PhD yn ei flwyddyn olaf yn ymchwilio i gyfraith Islamaidd ac Yswiriant Morol y DU yn Ysgol y Gyfraith ac mae Kate wedi graddio gyda MBA o Ysgol Busnes Bangor .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2014
Myfyrwyr Busnes a'r Gyfraith yn ymweld â chalon yr Undeb Ewropeaidd
Mae myfyrwyr o Ysgol Busnes ac Ysgol y Gyfraith, Bangor wedi ymweld â rhai o sefydliadau allweddol yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop, diolch i nawdd gan Jill Evans, Aelod Cymreig o Senedd Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2013
Myfyrwyr Cyfraith Bangor yn Ennill Tystysgrifau BPP
Bu wythdeg tri o fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith, Bangor, yn teithio i Fanceinion yn ddiweddar er mwyn cwblhau cwrs Ymwybyddiaeth Fasnachol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2011
Myfyrwyr Menter yn cael eu gwobrwyo gan Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi Ysgoloriaethau Entrepreneuriaeth newydd, gwerth cyfanswm o £5,000, i'w myfyrwyr i nodi diwedd y flwyddyn academaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2013
Myfyrwyr PhD o Iraq yn cwblhau rhaglen unigryw o hyfforddiant helaethach
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael yr anrhydedd o groesawu carfan fawr o fyfyrwyr PhD o Iraq. Er mwyn cefnogi ein myfyrwyr yn fwy effeithiol, trefnodd yr Ysgol ddigwyddiad arbennig i fyfyrwyr PhD o Iraq fel y gallent gyflwyno eu gwaith o flaen cynulleidfa o gyd-fyfyrwyr o Iraq, staff academaidd ac arbenigwr gwadd, sef yr Athro Haider Ala Hamoudi, o Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Pittsburgh.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2012
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn Arddangos eu Cyflogadwyedd
Cynhaliwyd y Dathliad Cyflogadwyedd blynyddol yn ddiweddar i longyfarch myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor ac wedi arddangos ymrwymiad arbennig i ddatblygu eu Cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol a chyd-gyrsiol tra yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2015
Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru. Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017
Myfyrwyr y Gyfraith a Busnes yn Mentro i’r Wyddfa i Godi Arian ar gyfer Elusen
Bu’n rhaid i ddau fyfyriwr o’r Ysgol Busnes ac Ysgol y Gyfraith Bangor godi’n blygeiniol iawn ddydd Sadwrn, 3 Tachwedd, wrth iddynt ymuno â thîm o chwe Warden arall yn neuaddau’r brifysgol i herio’r Wyddfa yn y tywyllwch, gyda’r nod o gyrraedd y copa erbyn i’r haul godi.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2012
Myfyrwyr y Gyfraith a Busnes Bangor yn dychwelyd i Frwsel
Ar ôl taith lwyddiannus i rai o brif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd ym mis Rhagfyr, mae myfyrwyr y Gyfraith a Busnes o Brifysgol Bangor wedi dychwelyd i Frwsel i ymweld â rhai o’r adeiladau pwysicaf yn Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2012
Myfyrwyr y Gyfraith a Throseddeg yn ymweld â chanolfan hyfforddi drylliau’r heddlu
Ar Ddydd Mercher, 7 Rhagfyr 2011, arweiniodd yr Athro Suzannah Linton, cadeirydd Cyfraith Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith Bangor, grŵp o fyfyrwyr o’r adran Gyfraith a Throseddeg ar daith maes lwyddiannus i Ganolfan Hyfforddi Drylliau Heddlu Gogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2012
Myfyrwyr y Gyfraith yn cychwyn ar 6 mis o hyfforddiant wedi’i drefnu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Yn dilyn cystadleuaeth a drefnwyd gan Ganolfan Bangor ar Gyfraith Ryngwladol, dewiswyd naw myfyriwr o Ysgol y Gyfraith, Bangor i gymryd rhan mewn chwe mis o hyfforddiant ar fedrau ym meysydd tribiwnlysoedd cyflogaeth a’r gyfraith ar wahaniaethu.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2012
Myfyrwyr y Gyfraith yn dathlu parhad yn y nawdd gan BPP
Estynnwyd croeso gan gynrychiolwyr amrywiol brojectau a mentrau Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor i westai arbennig wrth iddynt ddathlu blwyddyn arall o nawdd gan BPP. Daeth Dave Fallon, swyddog cyswllt addysg prifysgolion BPP, i Fangor i nodi dechrau blwyddyn academaidd newydd sy’n gweld mwy o fentrau myfyrwyr y gyfraith ym Mangor nac erioed o’r blaen yn cael cyllid gan BPP.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2011
Myfyrwyr yn Cymryd eu Harbenigaeth i Strydoedd Gogledd Cymru
Mae myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith, Bangor, wedi sefydlu menter gymunedol er mwyn gwella dealltwriaeth a chyngor cyfreithiol ymysg y bobl leol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2011
Myfyrwyr yn creu cysylltiadau hollbwysig â chyflogwyr yn Ffair Yrfaoedd y Gyfraith
A chanran syfrdanol o 90% o’i graddedigion mewn gwaith chwe mis ar ôl graddio, a chydag ymrwymiad i wella rhagolygon gyrfaol ei myfyrwyr, mae’n hawdd gweld pam y mae Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor ar frig Ysgolion y Gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf o bapur y Guardian . Un o’r ffyrdd y mae’r Ysgol yn anelu at wella cyflogadwyedd ei myfyrwyr yw ei Ffair Gyfraith flynyddol, lle caiff darpar-gyfreithwyr ifainc gyfle amhrisiadwy i gyfarfod a rhwydweithio â rhai o gyflogwyr mwyaf blaenllaw’r rhanbarth, yn cynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr, yn ogystal â rhai o du allan i’r sector gyfreithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2015
Ni Hao Shanghai!
Mae myfyriwr PhD o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi dychwelyd o ysgol haf hynod bwysig yn China, ac ef oedd yr unig un o Brydain a ddewiswyd i fynd yno. Cynigwyd y cyfle gan Swyddfa Cyfnewidiadau Rhyngwladol y Brifysgol, sydd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gweithio ac astudio tramor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012
O Draeth Bondi i Fangor: “fy mhenderfyniad gorau erioed!”
Mae merch o Kilkenny a deithiodd o Awstralia i Gymru er mwyn dilyn ei breuddwyd o astudio’r Gyfraith yn dathlu ar ôl gwireddu uchelgais oes. Roedd Belinda Bambrick, cyn-ddisgybl o Yates College, Waterford, yn byw a gweithio yn Sydney pan benderfynodd fod yr amser wedi dod iddi ddilyn cwrs gradd yn y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
O Fangor i Frwsel: Myfyrwyr y Gyfraith a Busnes yn uno ar daith i Ewrop
Unodd myfyrwyr o Ysgol Busnes Bangor ac Ysgol y Gyfraith, Bangor ar gyfer taith astudio i sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop, dan nawdd Jill Evans, ASE, a brofodd yn agoriad llygaid iddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2012
Opportunity knocks for UK's Supreme Court to become more diverse
Dyma erthygl yn Saesneg ganStephen Clear o Ysgol Y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2017
Pa sgiliau y mae cyfreithwyr yn edrych amdanynt gan fyfyrwyr y gyfraith?
Mae myfyrwyr y gyfraith wedi gweld drostynt eu hunain pa sgiliau sydd eu hangen i fynd i mewn i'r proffesiwn cyfreithiol, diolch i'r ddau gyfreithiwr dan hyfforddiant.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2016
Paratoi i Lansio Project £3.2m yn Ymwneud â Thendro
Bydd busnesau bach ac elusennau yng Nghymru ac yn yr Iwerddon yn gallu cystadlu yn well am gontractau'r sector cyhoeddus, diolch i brosiect gwerth £3.2 miliwn a arweinwyd gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2011
Partneriaeth Linenhall yn creu’r cyfnodau disgybledd byr cyntaf
Mae dau fyfyriwr israddedig ymysg y cyntaf i gael budd o’r bartneriaeth sy’n datblygu rhwng Ysgol y Gyfraith, Bangor a Siambrau Linenhall, a hwythau wedi sicrhau cyfnodau disgybledd byr gyda’r Siambrau Bargyfreithwyr o fri.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2014
Pennaeth Ysgol y Gyfraith yn arwain trafodaeth yng nghynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig ar wella caffael cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â'r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt AC, Llywodraeth Cymru, Caerdydd, 5 Tachwedd 2012.
Trafododd yr Athro Cahill adroddiad John McClelland ar wneud y defnydd gorau posib o arian ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru yn y Sefydliad Materion Cymreig ar 5 Tachwedd 2012. Prif gasgliadau adroddiad rhagorol John McClelland yw nad yw polisïau caffael Llywodraeth Cymru yn cael eu derbyn na'u gweithredu'n llawn gan nifer sylweddol o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisïau ardderchog ym maes caffael cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2012
Penodi Dr Hayley Roberts yn Gomisiynydd Brenhinol
Pleser o'r mwyaf gan Ysgol y Gyfraith Bangor yw cyhoeddi bod Dr Hayley Roberts wedi'i phenodi'n Gomisiynydd Brenhinol i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Penodir comisiynwyr gan Y Frenhines, ar gyngor Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, o dan Warant Frenhinol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2019
Plans for ministers who aren’t in parliament raise concerns for UK democracy – constitutional expert
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2021
Plant Cymru’n cyflwyno’r adroddiad cyntaf gan blant i’r Cenhedloedd Unedig
Gwahoddwyd disgyblion o dair ysgol leol (Ysgol Gynradd Biwmares, Ysgol Gynradd Sowthdown, Bwcle ac Ysgol Hiraddug, Dyserth) i ddigwyddiad a drefnwyd gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor (17 Tachwedd) er mwyn lansio’n ffurfiol adroddiad “ Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out ”. Dyma’r tro cyntaf erioed i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn dderbyn adroddiad a luniwyd gan blant 7-11 yn seiliedig ar eu hymchwil eu hunain.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015
Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017
Prifysgol Bangor yn arwain prifysgolion Cymru o ran boddhad myfyrwyr
Prifysgol Bangor yw'r gorau yng Nghymru, yn ôl y dull diweddaraf o fesur boddhad myfyrwyr, ac mae yn y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol y DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy'n cynnig ystod eang o bynciau. Daw'r canlyniadau o'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sef arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy'n graddio o bob prifysgol yn y DU ac sy'n rhoi'r adborth mwyaf cynhwysfawr am brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2014
Prifysgol Bangor yn cael ei derbyn i Rwydwaith Ysgol y Gyfraith Ewrop
Mae Prifysgol Bangor wedi ymaelodi ag Ysgol y Gyfraith Ewrop uchel ei pharch, sef rhwydwaith o ddim ond 16 o brifysgolion ledled y byd. Mae'n ymuno â phrifysgolion blaenllaw o naw gwlad, yn cynnwys yr Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen, Sbaen, yr Eidal, Groeg ac Iwerddon, mewn menter ar y cyd sy'n ceisio gwella dealltwriaeth myfyrwyr o systemau cyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd a'r gwahanol draddodiadau cyfreithiol yn Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2016
Prifysgol Bangor yn dod â chyflogwyr a myfyrwyr ynghyd mewn ffair yrfaoedd unigryw ym maes y gyfraith
Cafodd myfyrwyr yn yr unig Ysgol y Gyfraith yng ngogledd Cymru gyfle unigryw i gyfarfod a rhwydweithio â rhai o gyflogwyr mwyaf blaenllaw’r rhanbarth mewn digwyddiad arbennig ar gyfer gyrfaoedd ym maes y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2016
Prifysgol Bangor yn dod â chyflogwyr a myfyrwyr ynghyd mewn ffair yrfaoedd y gyfraith unigryw
 chanran syfrdanol o 91% o’i graddedigion gradd cyntaf mewn gwaith neu astudiaethau chwe mis ar ôl graddio , a chydag ymrwymiad i wella rhagolygon gyrfaol ei myfyrwyr, mae’n hawdd gweld pam fod Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor ar frig Ysgolion y Gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf o bapur y Guardian . Un o’r ffyrdd y mae’r Ysgol yn anelu at wella cyflogadwyedd ei myfyrwyr yw ei Ffair Gyfraith flynyddol, lle caiff darpar gyfreithwyr ifainc gyfle amhrisiadwy i gyfarfod a rhwydweithio â rhai o gyflogwyr mwyaf blaenllaw’r rhanbarth, yn cynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr ac aelodau o sectorau ar wahân i'r gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2015
Prifysgol Bangor yn lansio Sefydliad Confucius unigryw
Mae’r Sefydliad Confucius cyntaf yn unlle yn y byd i ganolbwyntio ar y Gyfraith i’w agor yn swyddogol ym Mhrifysgol Bangor. Lensir Sefydliad Confucius gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yng ngŵydd Mr SHEN Yang, Gweinidog-Cwnselydd Llysgenhadaeth Tsieina.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2012
Prifysgol Bangor yn lawnsio Cynllun Interniaeth Is-raddedig
Mae Prifysgol Bangor wedi lawnsio Cynllun Interniaeth Is-raddedig er mwyn cynnig cyfleoedd a gwella cyflogadwyedd myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2012
Prifysgol Bangor yn sefydlu Sefydliad Confucius
Ar 17 Ebrill 2012 yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad yn Llundain llofnodwyd Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Hanban (Pencadlys Sefydliad Confucius) i sefydlu Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Phrifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith China, Beijing.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2012
Prifysgol Bangor yn ymuno ag Amnest Rhyngwladol i gynnal gweithdy ar wrthdaro arfog
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn ymuno ag Amnest Rhyngwladol i gynnig hyfforddiant arbenigol ar amddiffyn merched a phlant yn ystod gwrthdaro arfog.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2012
Prifysgol Bangor: Sut i gadw myfyrwyr y Gyfraith yn hapus!
Mae’n swyddogol – mae Prifysgol Bangor â rhai o’r myfyrwyr mwyaf bodlon yn graddio yn y Gyfraith, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd ar draws y DU! Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf, enillodd Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor y safle gorau yng Nghymru a daeth yn gydradd 5ed yn y cyfan o’r DU am foddhad cyffredinol myfyrwyr. Un agwedd y mae’r myfyrwyr yn arbennig o hapus yn ei chylch yw addysgu: yn y categori ‘staff yn esbonio pethau’n dda’, enillodd Bangor gyfradd foddhad ryfeddol o 100% gan ei fyfyrwyr LLB sydd ar y cwrs 3-blynedd, gan ei rhoi ar safle cyntaf yr Ysgolion Cyfraith ar draws y DU am hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2014
Prince Charles: the conventions that will stop him from meddling as King
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2018
Proffil Graddio: Teleri Wyn Davies - Y Gyfraith LLB
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
Profiadau dysgu creadigol ar y rhaglen LLM Cyfraith Ryngwladol
Un o'r dewisiadau sydd ar gael i fyfyrwyr ar y rhaglen LLM mewn Cyfraith Ryngwladol a'r LLM mewn Cyfraith Droseddol Ryngwladol a Chyfraith Ryngwladol Hawliau Dynol, yw Cyfraith Ryngwladol Hawliau Dynol, a ddysgir gan Yr Athro Suzannah Linton , Cadeirydd Cyfraith Ryngwladol Ysgol y Gyfraith Bangor. Ychydig cyn gwyliau Nadolig 2012, bu i fyfyrwyr Hawliau Dynol Rhyngwladol gael cyfle i gymryd rhan mewn ymarfer grŵp a oedd yn dod â phopeth yr oeddent wedi'i ddysgu ynghyd mewn ffordd unigryw ac ystyrlon.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2013
Project Plant yn cyrraedd rhestr fer gwobr ymgysylltu cyhoeddus
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor wedi cyrraedd rhestr fer gwobr genedlaethol am waith ymgysylltu cyhoeddus eu project Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out. Cyrhaeddodd y project restr fer y wobr Engaging with Young People yn y gystadleuaeth genedlaethol Engage a gynhelir gan y National Coordinating Centre for Public Engagement (NCCPE), sy'n dathlu ymchwilwyr prifysgol sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd mewn ffyrdd arloesol ac effeithiol. Mae Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out yn broject Loteri Fawr sy'n cael ei gynnal gan Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2016
Project sy’n cynorthwyo cwmnïau bach ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr yn y DU
Mae project sydd wedi gwella llwyddiant cwmnïau a chontractwyr bach lleol wrth gynnig am dendrau gan awdurdodau lleol yng Nghymru wedi’i roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr “Project Caffael Gorau’r Flwyddyn” gan y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi yn Seremoni Wobrwyo Flynyddol y DU sydd i’w chynnal cyn hir.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2013
REF 2014: canlyniadau'n cadarnhau effaith ymchwil Ysgol y Gyfraith
Roedd Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mangor yn croesawu canlyniadau REF yr ysgol, yn dilyn y cyflwyniad cyntaf gan Ysgol y Gyfraith, sy'n ddeg oed, i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Rhagfyr 2014
Rheolwr Project Ennill Wrth Dendro yn cael Cyfweliad ar Wales at Work BBC Radio Wales
Ar 8 Tachwedd 2012, cafodd Rheolwr Project Ennill wrth Dendro, Gary Clifford, wahoddiad gan raglen Wales at Work ar BBC Radio Wales i drafod y ffigurau diweddaraf ynglŷn â gwariant cyhoeddus yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2012
Rhifyn 2012 Cylchgrawn Ysgol y Gyfraith Bangor nawr ar gael arlein
Mae rhifyn 2012 o gylchgrawn Ysgol y Gyfraith Bangor nawr ar-lein, yn llawn o’r newyddion mwyaf o sesiwn 2011-2012.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2012
Rhifyn newydd o ‘Cyfraith a Threfn’ arlein NAWR
Mae rhifyn diweddaraf newyddlen yr Ysgol, ‘Cyfraith a Threfn’, ar gael arlein nawr.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2012
Rhwydwaith Academaidd ar Gyd-addoli mewn Ysgolion
Mae ysgol y Gyfraith Bangor yn arwain project rhyngddisgyblaethol ar draws Prydain i edrych ar fater cyd-addoli mewn ysgolion.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2014
SCAC yn cynorthwyo’r Undeb Ewropeaidd i weithredu y Ddeddf Busnesau Bach yn dilyn llwyddiant grant enfawr
Mae Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael (SCAC) Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael gwybod yn ddiweddar ei bod wedi llwyddo i gael grant enfawr dan gronfa COSME yr Undeb Ewropeaidd. Cronfa yw hon i godi’r awydd i gystadlu ymysg mentrau busnes bach a chanolig yn yr Undeb Ewropeaidd, ac i gynorthwyo’r UE i weithredu anghenion y Ddeddf Busnesau Bach (mae hwn yn fframwaith ar gyfer polisi’r UE i fusnesau bach a chanolig).
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2017
Saran yn dathlu derbyn ei gradd yn y Gyfraith
Mae Saran Enfys Jones , 25, o Llanfair PG , Ynys Môn, wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda 2:1 yn y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Scotland’s Brexit Bill rejection could be the start of a new constitutional crisis
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear, o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2018
Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor wedi ei henwebu am ddwy wobr effaith glodwiw
Unwaith eto, mae Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer o'r rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Effaith ac Arloesi pwysig Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2014
Sefydliad Confucius yn dod a dysgu iaith Tsieinëeg i Fangor
Mae’r iaith Tsieinëeg ymysg y pum iaith fwyaf poblogaidd i’w dysgu, yn ôl erthygl yn Newyddlen Sefydliad Confucius yma . Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae’r Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd. Mae'r rhain yn cynnwys ystod o ddosbarthiadau iaith Tseineaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2012
Sefydliad Confucius yn ymuno â Choleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
Yr haf hwn bydd sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn dod yn rhan o Goleg Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019
Seminar ar lwyddiant gyrfa a gwella ymwybyddiaeth fasnachol myfyrwyr y flwyddyn gyntaf
Yn y gweithle cynyddol gystadleuol heddiw, mae gweithwyr proffesiynol a chyrff rheoliadol ym maes y gyfraith yn rhoi pwysau cynyddol ar raddedigion yn y gyfraith i fod yn 'ymwybodol yn fasnachol'. Ond beth yw ymwybyddiaeth fasnachol? Roedd y cwestiwn hwn yn ffocws gweithdy a gynhaliwyd i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf y gyfraith fis diwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2016
Seremoni Wobrwyo Gyntaf am Ragoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus yng Nghymru
Mae’r cadarnhad diweddar gan y Gweinidog Jane Hutt AC, fod gwerth contractau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a enillwyd gan fusnesau o Gymru wedi cynyddu ers ychydig flynyddoedd, o 37% i 51%, yn gefndir gwych i’r seremoni wobrwyo gyntaf erioed, sydd i’w chynnal yn Llandudno y mis nesaf, am Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2013
Spartacus @ 60: Cynhadledd Ar-lein
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2020
Staff ICPS yn mynychu derbyniad yn Nhŷ’r Arglwyddi
Ar 16 Mai, gwahoddwyd Gary Clifford a Stephen Clear o Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael yn Ysgol y Gyfraith, Bangor i fynd i dderbyniad partneriaid blynyddol Tŷ’r Arglwyddi gan yr Arglwydd Evans o Watford a'r Arglwydd Tony Berkeley.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2012
Staff Ysgol y Gyfraith yn cael cydnabyddiaeth am eu cefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol
Yn ddiweddar, mae Ysgol y Gyfraith, Bangor wedi dathlu noson arall o lwyddiant o ran gwobrau dysgu yn y seremoni Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr a gynhaliwyd eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2015
Steffie'n dod draws sawl rhwystr i gael gradd dosbarth cyntaf
Mae Steffie Williams Roberts o Fangor wedi ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn Y Gyfraith o Brifysgol Bangor er gwaethaf dod dros lawer o rwystrau yn ystod ei hastudiaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Swydd gyda’r Cyngor i Sian cyn iddi raddio
Graddiodd merch ifanc o Lŷn sydd wedi cael swydd lawn-amser gyda Chyngor Gwynedd cyn iddi ddarfod ei chwrs ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2014
TED x
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2019
Taith astudio i galon yr Undeb Ewropeaidd
Ymwelodd myfyrwyr o Ysgolion Busnes a Chyfraith Prifysgol Bangor â rhai o sefydliadau allweddol yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop ym Mrwsel (Gwlad Belg), Lwcsembwrg a Strasbwrg (Ffrainc) yr wythnos diwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2017
Taith maes i'r Hâg - Ionawr 2014
Gwahoddir myfyrwyr i ddod ar daith maes i'r Hâg yn yr Iseldiroedd i ymweld ag amryw o lysoedd a thribiwnlysoedd rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2013
The 'necessity defence'– should climate activists be allowed to break the law?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Tara Smith o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddio l
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2016
Theresa May was right to reimpose collective ministerial responsibility – it's the only way to govern
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018
Tri yn ennill bwrsariaethau Ehangu Mynediad
Mae cwrs academaidd tri myfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael dechrau da wrth iddynt ennill bwrsariaeth Ehangu Mynediad gwerth £5,000 yr un tuag at eu hastudiaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2015
Troseddau'n erbyn yr unigolyn - moderneiddio'r gyfraith sy'n ymwneud â thrais
Yn ôl Comisiwn y Gyfraith mae angen rheolau newydd i fynd i'r afael â throseddau treisgar a gwneud gwell defnydd o amser y llysoedd. Ddydd Mawrth, 3 Tachwedd, cafodd adroddiad newydd gan Gomisiwn y Gyfraith ei lansio mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Bangor, gyda'r Athro Ormerod, Comisiynydd y Gyfraith dros gyfraith droseddol, yn traddodi darlith ar 'Reforming Offences Against the Person', i fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor a gwahoddedigion.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2015
Turning back migrant boats: what does the international law of the sea say?
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2021
Tîm Bangor yn Ennill Grant Covid-19 Sylweddol
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2021
Tîm Bangor yw'r cyntaf erioed i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Telders
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi llwyddo i fod y tîm cyntaf erioed i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ffug lys sy'n adnabyddus ledled y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013
Tîm Bangor yw'r cyntaf erioed i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Telders
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi llwyddo i fod y tîm cyntaf erioed i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ffug lys sy'n adnabyddus ledled y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2013
Tîm Ysgol y Gyfraith yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ryngwladol
Mae Tîm o fyfyrwyr y gyfraith o Brifysgol Bangor wedi curo cyn-bencampwyr wrth gyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth ‘ffug lys barn’ ryngwladol ar gyfer myfyrwyr y gyfraith. Dyma oedd ymgais gyntaf y Brifysgol yng nghystadleuaeth ‘Moot’ rhyngwladol y Llys Troseddol Rhyngwladol ( ICC ). Y ‘Moot’, sydd yn cael ei gynnal yn Yr Hâg a’i threfnu gan Ganolfan Astudiaethau Troseddol Rhyngwladol Grotius Prifysgol Leiden, gyda chefnogaeth y Llys Troseddol Rhyngwladol, yr ICC, yw un o’r prif gystadlaethau rhyngwladol o’i bath, lle mae myfyrwyr y gyfraith yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn achos cyfreithiol ffug.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2016
UK Human Rights Act is at risk of repeal – here's why it should be protected
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019
UK criminal justice is at breaking point after years of unstable leadership
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018
Victoria, mam i dri, yn cael marciau uchaf - ac ysgoloriaeth
Yr wythnos yma mae myfyriwr hŷn a lwyddodd i gael gradd ragorol yn y Gyfraith, cael babi a gofalu am ferch anabl, yn graddio o Brifysgol Bangor. Mae hefyd wedi ennill ysgoloriaeth £8,000 i hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017
Wedi drysu dros eich hawliau cyfreithiol? Mae myfyrwyr y Gyfraith Bangor yma i helpu...
Mae myfyrwyr y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyflwyniadau am ddim i sefydliadau lleol i helpu i wella dealltwriaeth pobl o'u hawliau cyfreithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2011
Why Wales was right to say yes to the UK's Brexit Bill
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2018
Why the International Criminal Court is right to focus on the environment
Dyma erthygl yn Saesneg gan Tara Smith o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2016
Xavier yn paratoi ar gyfer her Ironman Cymru
Mae aelod o staff Ysgol y Gyfraith Bangor yn paratoi i gymryd rhan mewn un o'r heriau athletaidd anoddaf yn y byd, y triathlon Ironman.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2013
Y Ddraig Amryliw: LHDTC+ a Chymru
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2022
Y Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn penodi Cymrodyr newydd
Mae pedwar aelod o staff Prifysgol Bangor wedi’u hethol yn Gymrodyr o’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn dilyn canlyniad Etholiad 2013 am Gymrodyr newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2013
Y dewis gwyrdd
Mae nifer gynyddol o bobl ifanc yn awyddus i leihau eu hôl troed amgylcheddol, a gall y fyfyrwyr hynny sy’n chwilio am brifysgol werdd fod yn sicr eu bod yn astudio mewn prifysgol sydd ar y brig yn fyd eang yn ei hymrwymiad i ailgylchu a chynaladwyedd , drwy ddewis astudio ym Mhrifysgol Bangor. Mae Prifysgol Bangor yn seithfed yn y byd am ailgylchu a chynaliadwyedd, yn ôl llinyn mesur Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac mae’r coleg ar y bryn yn 10fed yn fyd eang am ei gwaith yn ôl y Green Metric World University Rankings .
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2020
Ymchwil yn helpu i sicrhau £90 miliwn i ysgolion
Mae ymchwil o Brifysgol Bangor, sy'n dangos effeithiolrwydd cyllid ychwanegol i ysgolion, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau cyllido i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Fe wnaeth yr ymchwil gydweithredol, a gomisiynwyd gan GWE ac ERW (dau ddarparwr gwasanaethau gwella ysgolion), roi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gynyddu cyllid i ysgolion o £90 miliwn pellach yn 2018-19 dan y Grant Datblygu Disgyblion. Fe wnaeth addysgwyr , seicolegwyr , gwyddonwyr cymdeithasol ac arbenigwyr yn y gyfraith - sydd wedi casglu ynghyd brofiad enfawr o weithio gydag ysgolion, disgyblion a phlant - ddod at ei gilydd i wneud arolwg cynhwysfawr o'r modd y gall tlodi fod yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018
Ymwelydd o Dŷ'r Cyffredin yn dysgu mwy am Ymchwil Bangor
On Friday 15 February Dr Rhinannon Williams, Wales Affairs Specialist for the House of Commons, visited Bangor University and addressed a packed audience of academics and researchers. Dr Williams’ role is to co-ordinate the collection and submission of evidence to the Welsh Affairs Select Committee.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2019
Yn ôl i'r ysgol i Kerry sydd a'i bryd ar fod yn athrawes
Yn ôl i'r ysgol fydd hanes un o raddedigion Prifysgol Bangor wrth iddi anelu am Lundain i weithio mewn ysgol haf ryngwladol. Dim ond dyddiau ar ôl graddio gydag anrhydedd 2:1 mewn y Gyfraith a Ffrangeg , bydd Kerry Westgate yn dechrau fel Arweinydd Gweithgaredd gydag Embassy Summer, sef cynllun ysgol haf ym Mhrydain i fyfyrwyr rhyngwladol sydd eisiau dysgu Saesneg neu ei wella.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Yr Arglwydd Brif Ustus yn agor Ffug Lys Barn newydd ym Mhrifysgol Bangor
A state-of-the-art Moot Court facility was officially opened at Bangor University by the Lord Chief Justice of England and Wales, Lord Thomas of Cwmgiedd, on Thursday 9th October, which is set to further underpin Bangor’s position as a leading example of a UK university Law School that places employability and student skills development at the core of its LLB Law Degree curriculum.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2014
Yr Athro Dermot Cahill yn siarad am Wythnos Caffael gyda BBC Radio Cymru
Cyfwelwyd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, gan BBC Radio Cymru Dydd Iau diwethaf, 22ain Mawrth 2012. Trafododd Wythnos Caffael Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael – y cyntaf erioed – sydd yn cymryd lle ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon (27-30 Mawrth).
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2012
Ysgol Y Gyfraith Bangor yn dathlu 10 mlynedd o ragoriaeth
Yr wythnos nesaf bydd dros 150 o gyn-fyfyrwyr a chyn staff Prifysgol Bangor yn dod i ddathliad arbennig i nodi deng mlynedd ers sefydlu Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2015
Ysgol y Gyfraith Bangor yn chweched ar y cyd drwy Brydain o ran boddhad myfyrwyr
Cafodd Ysgol y Gyfraith Bangor sgôr anhygoel o 94% am 'foddhad cyffredinol' yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr eleni, gan ein rhoi yn chweched ar y cyd ymhlith ysgolion y gyfraith ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2013
Ysgol y Gyfraith Bangor yn codi'i safle yn nhablau The Guardian
Ysgol y Gyfraith, Bangor bellach yw ysgol orau'r gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf a gyhoeddwyd gan The Guardian . Mae'r Ysgol hefyd wedi codi i safle 32 yn y DU, o blith 98 o sefydliadau a gynhwysir yn y tablau.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2015
Ysgol y Gyfraith Bangor yn croesawu Ysgol y Gyfraith o'r UD i Academi Haf
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2011
Ysgol y Gyfraith Bangor yn croesawu ysgolheigion nodedig fel darlithwyr gwadd
Bydd Ysgol y Gyfraith Bangor yn croesawu dau ddarlithydd gwadd nodedig i Fangor ym mis Tachwedd 2011. Bydd yr Athro Jason Chuah, Pennaeth Cyfraith Academaidd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol y Ddinas Llundain, yn cyflwyno seminar ar "Letters of Credit - Reconciling legal rules with commercial realities” ar ddydd Llun, 14 Tachwedd. Bydd yr Athro Z Wang o Brifysgol Astudiaethau Tramor Beijing hefyd yn cyflwyno seminar ar 14 Tachwedd. Bydd yn rhoi seminar o’r enw "The Evolving Nature of EU Power and Sino-EU Relations in the 21st century".
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2011
Ysgol y Gyfraith Bangor yn cynnal Ffair Gyrfaoedd
Bydd Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor yn cynnal ei ffair gyrfaoedd gyntaf erioed er budd y myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr. Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Reichel ddydd Mercher, 27 Tachwedd, a bydd yn rhoi cyfle prin i fyfyrwyr o ddeuddeg ysgol leol i drafod eu hopsiynau gyrfaol gyda bargyfreithwyr a chyfreithwyr gweithredol a chyfreithwyr mewnol. Y gŵr gwadd fydd Syr Roderick Evans, barnwr yr Uchel Lys sydd wedi ymddeol a chyn Farnwr Llywyddol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2013
Ysgol y Gyfraith Bangor yn paratoi ar gyfer Cynhadledd Ryngwladol Fawr
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn paratoi tuag at gynnal cynhadledd fawr ym maes Cyfraith Cystadleuaeth ym mis Gorffennaf, a fydd yn croesawu siaradwyr gwadd o bob cwr o’r byd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2011
Ysgol y Gyfraith Bangor yn rhoi Cymrodoriaeth er Anrhydedd i’r Athro Malcolm Evans
Mae’r Athro Malcolm Evans o Brifysgol Bryste i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor am ei gyfraniad i fyd y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2012
Ysgol y Gyfraith Bangor yn ymuno â'r Ysgol Peirianneg Electronig i gydweithio gyda 5 gwlad Ewropeaidd arall mewn rhaglen ymchwil Ewropeaidd drawswladol fawr
Bydd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn ymuno â grŵp elitaidd o brifysgolion a sefydliadau ar raglen ymchwil gydweithredol draws wladol drwy Ewrop i gefnogi cwmnïau gwybodaeth ddwys â’r potensial o dwf uchel. Bydd Prifysgol Bangor, yr unig bartner o’r Deyrnas Unedig a wahoddwyd i ymuno â’r consortiwm, yn gweithio ar y cyd gyda Phrifysgol Tilburg, yr Iseldiroedd, i ymchwilio i sut gall busnesau newydd â’r potensial o dwf uchel gael budd o gymryd rhan mewn caffael cyhoeddus, a’r heriau maent yn eu hwynebu wrth wneud hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2012
Ysgol y Gyfraith Bangor: uchaf yng Nghymru
Ysgol y Gyfraith, Bangor bellach yw ysgol orau'r gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf a gyhoeddwyd yn y Guardian University Guide ar gyfer 2018. Mae'r Ysgol wedi codi i safle 23 yn y DU, o blith 98 o sefydliadau a gynhwysir yn y tablau, ac yn ymddangos yn uwch nag ysgolion y gyfraith eraill yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017
Ysgol y Gyfraith Bangor: ymysg y 10 o ddadleuwyr gorau yn Ewrop!
Yn dilyn eu perfformiad ysgubol mewn cystadleuaeth bwysig, mae myfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor ymysg y 10 tîm uchaf yn Ewrop am gymryd rhan mewn ffug lysoedd barn.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015
Ysgol y Gyfraith i Gynnal Sgwrs We Byw ar gyfer Darpar Fyfyrwyr Ôl-raddedig
Mi fydd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn cynnal sgwrs we byw ar gyfer darpar fyfyrwyr Ôl-raddedig o 11.00am ar Ddydd Mercher, 3ydd o Awst 2011 , gydag arweinyddion y rhaglenni LLM yng Nghyfraith Ryngwladol a Chyfraith a Strategaeth Caffael Cyhoeddus yma ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2011
Ysgol y Gyfraith yn croesawu 200 o Gynrychiolwyr o Gymru’r Gyfraith
Ddydd Gwener, 7 Hydref, bydd Ysgol y Gyfraith Bangor yn croesawu Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, i roi’r prif anerchiad yng Nghynhadledd Flynyddol Cymru’r Gyfraith 2016, ynghyd â dros 200 o aelodau o uwch Farnwriaeth Cymru a Lloegr. Bydd arbenigwyr blaenllaw ym maes y Gyfraith Gyfansoddiadol yn ogystal â phobl ar frig y proffesiwn cyfreithiol ac athrawon prifysgol o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, yn dod at ei gilydd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau arbenigol llawn a grŵp ar y thema "Cydgyfeiriant neu Ddargyfeiriant rhwng Cyfraith Lloegr a Chyfraith Cymru."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2016
Ysgol y Gyfraith yn croesawu Martijn Quinn o'r Comisiwn Ewropeaidd fel darlithydd gwadd
Bydd darlithydd gwadd o'r Comisiwn Ewropeaidd yn cyfrannu at y modiwl cyfraith amgylcheddol yn Ysgol y Gyfraith Bangor. Bydd Mr Martijn Quinn, aelod o swyddfa breifat Comisiynydd yr Undeb Ewropeaidd dros Gymorth Dyngarol ac Ymateb i Argyfwng, yn cyflwyno seminarau ar bolisïau amgylcheddol ym mis Chwefror a mis Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2013
Ysgol y Gyfraith yn croesawu’r Arglwydd Brif Ustus
Fe fydd y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Thomas o Cwmgiedd, Prif Arglwydd Ustus Lloegr a Chymru, yn traddodi Darlith Flynyddol Public Law mewn cydweithrediad a’r cylchgrawn Public Law (cyhoeddiad Thomson Reuters). Teitl y Ddarlith yw “ The Future of Public Inquiries” . Mae’r Ddarlith, sydd yn cael ei noddi gan Thomson Reuteurs, o bwys cenedlaethol, yn enwedig o ystyried dadleuon diweddar yn amgylchynu Ymchwiliad Chilcot (Irac) ac Ymchwiliad Leveson (rheoliad y wasg), ymysg eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2014
Ysgol y Gyfraith yn cyfrannu at brosiect ‘Big Voice London’ ar hunaniaeth gyfreithiol
Croesawodd Ysgol y Gyfraith grŵp o bobl ifanc o Lundain ar gyfer cynhadledd yn y Brifysgol ym mis Tachwedd 2012. Roedd y myfyrwyr o brosiect ‘Big Voice London’ yn ymchwilio i agweddau o hunaniaeth gyfreithiol ac â diddordeb arbennig yn y traddodiad cyfreithiol yng Nghymru a’r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2013
Ysgol y Gyfraith yn ymuno ag Amnesty International i gynnal hyfforddiant ar wrthdaro arfog
Ar Ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf 2012, cynhaliodd Ysgol y Gyfraith Bangor ac Amnesty International (Bae Colwyn) weithdy hyfforddi llwyddiannus ar ddiogelu merched a phlant yn ystod gwrthdaro arfog. Cynhaliwyd y digwyddiad yng nghanolfan gynadledda Reichel ym Mhrifysgol Bangor gan ddenu pobl o gyffiniau Bangor a thu hwnt, yn cynnwys Bae Colwyn, Lerpwl a Sir Gaerhirfryn.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2012
Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor yn cael eu gwobrwyo gan yr Access to Justice Foundation
Ar 12 Mai, fel rhan o'r Gwobrau Law Works and Attorney General Student Pro Bono Awards cipiodd Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor yr Access to Justice Foundation Award sy'n cydnabod cyrff addysgiadol neu fyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i hyrwyddo mynediad i gyfiawnder.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2021
Ysgolion lleol yn dod ynghyd ar gyfer Cynhadledd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor
Daeth mwy na 100 o ddisgyblion ysgol o leoedd mor bell â Solihull i gynhadledd arbennig a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos ddiwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2013
Ysgoloriaeth Teithio Eric Sunderland ym maes Cyfraith Eiddo Deallusol
Mae'r Cwmni Lifrai Cymru (WLC)[Urdd Lifrai Cymru, gynt] wedi bod mor garedig â chynnig Ysgoloriaeth Teithio ym maes Cyfraith Eiddo Deallusol gwerth £1,000 i Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2016
Ysgoloriaeth i Elin
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2021
Ysgoloriaethau Teithio y Cwmni Lifrai Cymraeg ym maes Cyfraith Eiddo Deallusol
On 8 th May 2014, Bangor Law School welcomed members of the Welsh Livery Company. The Master of the Livery Company, Mr Windsor Coles, and Mr Andrew Richards were here to award Professor Eric Sunderland Scholarships to two of the Law School’s PhD candidates.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2014
‘Life as an Attorney General of British Antarctica’
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2020
‘The Future of Public Law in England and Wales’ – Darlith gan Ms. Sarah Nason
Mae'n bleser gan Ysgol y Gyfraith Bangor gyhoeddi y bydd Ms Sarah Nason, aelod o Grŵp Cyfraith Gyhoeddus yr Ysgol, yn rhoi sgwrs ar ei hymchwil i Adolygiadau Barnwrol yn y Deyrnas Unedig ddydd Mercher, 12 Hydref 2011. Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yw Ms Sarah Nason. Graddiodd o Brifysgol Caergrawnt gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith ac yn ddiweddarach dechreuodd hyfforddi fel twrnai gyda chwmni o gyfreithwyr yn Llundain, Slaughter and May. Penderfynodd Ms Nason ddychwelyd i academia i ddilyn ei diddordebau yn y gyfraith gyhoeddus a mynediad at faterion cyfiawnder. Ochr yn ochr â’r ymchwil a gyllidir ganddi i ddyfodol adolygiadau barnwrol yng Nghymru a Lloegr, mae Ms.Nason yn astudio ar gyfer doethuriaeth yn University College Llundain ac mae’n ysgrifennu ei thraethawd ymchwil ar hyn o bryd ar athroniaeth y gyfraith gyhoeddus a dulliau newydd o sicrhau rhesymoldeb cyfreithiol. Cliciwch ar y linc isod am ddisgrifiad cyffredinol o thema’r ddarlith sy’n dwyn y teitl ‘The Future of Public Law in England and Wales’. Cynhelir y ddarlith yn ystafell A1.01, Adeilad Alun, am 2.00pm ddydd Mercher 12 Hydref 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2011
‘Welsh Women’s response to the First World War’
Eleni, bydd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu Dr Dinah Evans a fydd yn traddodi’r Ddarlith Goffa ar Ymateb Menywod Cymru i'r Rhyfel Byd Cyntaf'. Yn dilyn y ddarlith, bydd sesiwn Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth Dr Elin Royles ac yna derbyniad byr a chyfle i weld arddangosfeydd yn yr Oriel.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2018
‘Yr UE a Chyfraith Ryngwladol’: Bangor yn croesawu'r Athro James Crawford i Ddarlith Flynyddol y Gyfraith 2014
Eleni, trefnwyd Darlith Flynyddol Ysgolion y Gyfraith Cymru 2014 gan yr Athro Suzannah Linton yn Ysgol y Gyfraith Bangor. Roedd yn fraint fawr i Fangor groesawu'r Athro James Crawford, A.C., S.C., F.B.A. Mae'r Athro Crawford wedi bod yn Athro Cyfraith Ryngwladol Whewell ym Mhrifysgol Caergrawnt ers 1992, ac mae'n un o gyfreithwyr rhyngwladol mwyaf nodedig y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2014
“The Creativity of Commercial Law”: Darlith gyhoeddus gan Syr Roy Goode
I ddathlu ei dengmlwyddiant, bydd Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor yn cynnal darlith gyhoeddus o bwys gan yr Athro Syr Roy Goode QC ar y pwnc creadigrwydd cyfraith fasnachol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
“The Regulation of Insurance in China” gan yr Athro Zhen Jing
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2021