Holl rym y Gyfraith – gradd dosbarth cyntaf i Sioned ar ôl cofleidio profiadau newydd

Sioned WilliamsSioned WilliamsGyda'i golygon wedi eu gosod ar yrfa yn y maes cyfreithiol ers yr oedd yn ifanc iawn, mae myfyrwraig Prifysgol Bangor wedi dod gam yn nes at gyflawni ei breuddwyd.

Graddiodd Sioned Williams, 21, o Fodorgan, Ynys Môn yr wythnos hon gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith. Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Llangefni, Sioned yw'r gyntaf yn ei theulu i fynychu prifysgol, a hynny wedi iddi ddewis astudio ym Mangor drwy'r broses glirio.

Drwy gyfuno swyddi rhan-amser a’i hastudiaethau, achubodd Sioned ar bob cyfle a oedd ar gael i gael iddi i ennill profiadau defnyddiol a buddiol.

Fel yr eglura Sioned: "Pan ddechreuais i ar fy astudiaethau, roeddwn yn ymwybodol fy mod â diffyg hyder, ac felly addewais y byddwn yn cymryd rhan mewn cynifer o weithgareddau ag y gallwn yn ystod yr wythnos groeso, ac yna ymuno â chynifer o gymdeithasau ag y gallwn. Yn ystod y misoedd cyntaf, fe wnes i gymryd rhan mewn gweithgaredd cynnal ffug-lysoedd barn am y tro cyntaf yn Saesneg. Roedd hyn yn rhywbeth y meddyliais na fyddwn i erioed wedi'i wneud, a minnau ond newydd ddechrau yn y brifysgol. Yn bendant, helpodd hyn fi i fagu fy hyder, gan i mi gymryd rhan mewn mwy o gystadlaethau wedi hyn.

"Roeddwn yn ffodus i gael ennill ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a dyfarnwyd tystysgrif i mi am gwblhau arholiad llafar ac ysgrifenedig. Mae hyn yn tystio fy mod i’n gallu siarad ac ysgrifennu'n hyderus yn y Gymraeg a'r Saesneg. Roeddwn hefyd yn Gynrychiolydd Cymru ar ran y Gymdeithas Eiriolaeth Gyfreithiol, oedd yn gyfle gwych i sefydlu cysylltiadau yn ogystal â hyrwyddo'r Gymraeg."

Yn ystod ei hail flwyddyn, cafodd Sioned wythnos o brofiad gwaith yn y Cynulliad Cenedlaethol gyda'i Haelod Cynulliad lleol, Rhun ap Iorwerth. Yn brofiad diddorol dros ben, cafodd Sioned gyfle i gysgodi cynghorydd cyfreithiol a chwrdd â'r staff a oedd yn gweithio i Aelodau Cynulliad eraill ac i'r Prif Weinidog.

Yn fuan ar ôl y refferendwm Ewropeaidd, aeth Sioned gydag Ysgol y Gyfraith i amryw o sefydliadau Undeb Ewropeaidd, gan ymweld â Brwsel, Lwcsembwrg a Strasbwrg. Dywedodd: "Roedd hyn yn ddiddorol iawn wrth i ni glywed gan bobl sy'n gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd am eu profiadau hwy mewn perthynas â BREXIT. Cawsom hefyd gyfle i siarad â Gweinidog yn y Senedd a eglurodd wrthym am oblygiadau BREXIT a sut y byddai'n effeithio arnom ni."

Ymgymerodd Sioned â swyddogaethau gyda chymdeithasau amrywiol a chafodd fewnwelediad cyfreithiol gwerthfawr ar sawl achlysur. Meddai:

"Roeddwn yn aelod o Gymdeithas y Gyfraith fel Cynrychiolydd Myfyrwyr Cymreig am 2 flynedd, ac ar y Gymdeithas Eiriolaeth Gyfreithiol fel Cynrychiolydd Cymru a'r Trysorydd am 2 flynedd. Roeddwn hefyd yn rhan o’r Street Law Society lle y dysgon ni am wahanol rannau o'r gyfraith a oedd yn berthnasol i unrhywun, ac aethom i ysgolion a llochesau i roi cyflwyniadau ar yr hyn yr oedden ni wedi'i ddysgu.

"Cefais fy ethol i fod ar banel staff a myfyrwyr Ysgol y Gyfraith fel cynrychiolydd Cymreig ar gyfer myfyrwyr yr ail flwyddyn.

"Yn ystod fy nhrydedd blwyddyn, unwaith eto fel Cynrychiolydd Cymreig, cefais y cyfle i fod ar banel gyda'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ynghyd â chyn-Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas, i drafod addysg gyfreithiol yng Nghymru. Buom hefyd yn trafod effaith addysg gyfreithiol yng Nghymru pe bai awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr yn gwahanu’n ddwy.

"Bûm hefyd ar banel gydag Awdurdod Cyllid Cymru fel Cynrychiolydd Cymreig i glywed am y system newydd a sefydlwyd yng Nghymru ym mis Ebrill 2018, i rannu fy marn ar sut y gallent wneud pethau'n wahanol a sut y gallent ddefnyddio'r iaith Gymraeg."

Yn ei thrydedd flwyddyn, aeth Sioned ar brofiad gwaith i gwmni gyfreithwyr Guthrie Jones & Jones yn Ninbych ac fe gynigwyd iddi swydd fel paragyfreithydd, a oedd yn berthnasol i'r hyn yr oedd hi'n ei ddysgu ar y pryd, ac a oedd yn ei helpu i roi theori ar waith.

Bu traethawd hir Sioned yn trafod maes cyfraith gyhoeddus a sut mae setliad datganoli'r Alban yn effeithio ar sofraniaeth seneddol San Steffan. Meddai: "Roeddwn i'n falch iawn o fod wedi cael dyfarniad A+ am y gwaith hwn, ac rwy'n gweithio gyda fy ngoruchwyliwr i wella rhai elfennau o’r gwaith fel y gellir ei gyhoeddi.

"Fy mhrif uchafbwynt wrth astudio ym Mangor oedd gallu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n teimlo drwy wneud hynny fy mod wedi gallu gwneud mwy nag astudio'n rhannol yn fy mamiaith, ond fy mod hefyd wedi gallu paratoi fy hun ar gyfer y dyfodol gan fy mod yn dymuno aros a gweithio yng Nghymru. Rwy'n falch hefyd o fod wedi cael fy enwebu fel y Myfyriwr Cyfraith Gymreig Fwyaf Haeddiannol ar gyfer Gwobr Dr John Robert Jones.”

"Mae'n teimlo'n swreal i raddio gyda gradd o'r radd flaenaf. Mae tair blynedd ym Mhrifysgol Bangor wedi hedfan yn llwyr gan fy mod i'n gweithio fel paragyfreithydd llawn amser ar hyn o bryd. Ym mis Medi bydda i'n mynd i Gaer i astudio cwrs Ymarferwyr Cyfreithiol. Yn ystod y cyfnod hwn, byddaf hefyd yn gweithio'n rhan-amser fel cynorthwyydd gwerthu ac am un diwrnod yr wythnos fel paragyfreithydd - i gadw fy nhroed yn y drws, fel petai!"

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018