Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Myfyriwr PhD yn ennill y prif wobr yng Nghynhadledd ‘Legal Wales’

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi curo myfyrwyr y Gyfraith ledled Cymru i ennill prif wobr yng Nghynhadledd ‘Legal Wales 2012’.

Dyfynnir y brif wobr i Huw Pritchard, sydd yn flwyddyn olaf ei astudiaethau PhD yn Ysgol y Gyfraith, ar y cyd â myfyriwr o Brifysgol Caerdydd. Gofynnir i ymgeiswyr ysgrifennu traethawd yn ymateb y cwestiwn canlynol: ‘Gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arfer grymoedd deddfu primaidd, onid yw datblygiad awdurdodaeth ar wahân i Gymru yn anorfod?’.Enillodd Huw Pritchard, myfyriwr PhD, y brif wobr ar y cyd gyda myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yng ngornest traethawd Cynhadledd ‘Legal Wales’.Enillodd Huw Pritchard, myfyriwr PhD, y brif wobr ar y cyd gyda myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yng ngornest traethawd Cynhadledd ‘Legal Wales’.

“Yn dilyn refferendwm y Cynulliad ym Mawrth 2011 mae gan y Cynulliad rymoedd deddfu sylfaenol. Yn sgil hynny mae trafodaeth wedi bod ynglŷn â datblygu awdurdodaeth i Gymru sydd ar wahân i awdurdodaeth unedig Cymru a Lloegr sy’n bodoli ar hyn o bryd”, eglura Huw, 26, wrth drafod ei ymateb personol i’r cwestiwn. “Ni chafwyd unrhyw newid i’r awdurdodaeth drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 na drwy statud arall. Er hynny, mae datblygiadau gweinyddol yn y llysoedd, y proffesiwn a’r farnwriaeth yn golygu bod rhai newidiadau a datblygiadau Cymreig yn yr awdurdodaeth sy’n cyd-fynd â datblygiadau cyfansoddiadol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad yn ymgynghori ar y cwestiwn yma ar y funud ac felly bydd yn drafodaeth ddiddorol dros y misoedd nesaf.”

Arweiniwyd y panel beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth traethawd gan Syr John Thomas, Llywydd Adran Mainc y Frenhines, tra cyflwynwyd y wobr gan Farwnes Hale, Ustus y Goruchaf Lys. “Roeddwn i'n hynod o falch a diolchgar fy mod yn un o enillwyr y wobr”, meddai Huw, sy’n derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol tuag at ei astudiaethau doethurol. Cyfraith gyhoeddus Cymru yw fy maes ymchwil ac felly roedd cymryd rhan ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth hon yn brofiad gwerthfawr iawn. Rwy'n gobeithio y bydd y gystadleuaeth a'r wobr yn mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd nesaf gan ei fod yn cyfle ardderchog i fyfyrwyr fel fi.”

Fel aelod o Grŵp Ymchwil Cyfraith Gyhoeddus yr Ysgol, ac wrthi’n cwblhau ei draethawd hir ar Ddatganoli ym Mhrydain ac Ewrop, mae gan Huw arbenigedd helaeth yn y maes hwn. Yn ystod y Gynhadledd, fe gafodd o – gyda’i gyd-ymchwilwyr a darlithwyr Ysgol y Gyfraith Dr Osian Rees a Dr Alison Mawhinney – cyfle i gyflwyno eu gwaith ymchwil diweddar. “Rydym wedi bod yn edrych ar elfennau cyfreithiol ac ymarferol yr awdurdodaeth yng Ngogledd Iwerddon er mwyn gweld beth ellir ei ddysgu o’r profiad hwnnw ar gyfer Cymru”, meddai Huw, sy’n dod o Fethesda. “Drwy nawdd gan Gymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol (Society of Legal Scholars) buom yn ymweld ag unigolion a sefydliadau cyfreithiol ym Mhelffast. Yn dilyn ymateb a diddordeb yn y gynhadledd byddwn yn paratoi adroddiad llawn o gasgliadau'r ymchwil dros y misoedd nesaf.”

Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2012