Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Prifysgol Bangor: Sut i gadw myfyrwyr y Gyfraith yn hapus!

Mae’n swyddogol – mae Prifysgol Bangor â rhai o’r myfyrwyr mwyaf bodlon yn graddio yn y Gyfraith, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd ar draws y DU!

Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf, enillodd Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor y safle gorau yng Nghymru a daeth yn gydradd 5ed yn y cyfan o’r DU am foddhad cyffredinol myfyrwyr. Un agwedd y mae’r myfyrwyr yn arbennig o hapus yn ei chylch yw addysgu: yn y categori ‘staff yn esbonio pethau’n dda’, enillodd Bangor gyfradd foddhad ryfeddol o 100% gan ei fyfyrwyr LLB sydd ar y cwrs 3-blynedd, gan ei rhoi ar safle cyntaf yr Ysgolion Cyfraith ar draws y DU am hyn. Er bod Ysgol y Gyfraith, Bangor wedi ennill safle uchel yn ACM ers ychydig flynyddoedd, hwn yw’r tro cyntaf iddi gyrraedd y safle cyntaf hwn, a hynny’n nodi uchafbwynt rhaglen 5-mlynedd i wella boddhad ymysg ei myfyrwyr.

Bob blwyddyn, bydd yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn comisiynu IPSOS MORI i gasglu data, yn annibynnol, ar fyfyrwyr sy’n graddio o holl brifysgolion y DU. Mae’r arolwg yn mesur boddhad myfyrwyr mewn meysydd allweddol, megis adborth ar waith, cyfleusterau llyfrgell, perfformiad staff wrth ddarlithio a gofal bugeiliol, ymysg eraill. Yn 2014, enillodd Ysgol y Gyfraith, Bangor sgôr wych o 94% yn gyffredinol, sy’n golygu ei bod bellach yn rhannu’r cydradd 5ed safle am foddhad myfyrwyr ac ar y blaen i lawer o ysgolion cyfraith blaenllaw o fewn prifysgolion y DU, megis Manceinion, LSE, UCL, Coleg y Brenin a Chaerdydd.

Felly beth sy’n gwneud Bangor yn wahanol? Yn ôl Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Dermot Cahill, nid yn unig ymrwymiad Ysgol y Gyfraith, Bangor i gyflogi darlithwyr gwych yn y Gyfraith sydd wedi ymroi i ddysg myfyrwyr yw’r unig ffactor yma, ond hefyd ymyriadau allweddol ym meysydd cefnogaeth myfyrwyr a chyflogadwyedd.

"Mae’n bleser gennyf fod ein myfyrwyr wedi ein canmol i’r fath raddau, felly nid yw’n rhyfedd eu bod yn dangos cymaint o foddhad ynglŷn â’u profiad yn y Brifysgol,” medd yr Athro Cahill. “Yr hyn sy’n gwneud Bangor yn lle arbennig i astudio’r Gyfraith yw ein bod ni, yn wahanol i gymaint o rai eraill, wedi gwrthsefyll yr ysfa i droi’n beiriant cynhyrchu amhersonol. Oherwydd maint rhesymol ein dosbarthiadau, gall y darlithwyr ddefnyddio dull addysgu sy’n canolbwyntio’n wirioneddol ar y myfyrwyr. Wrth inni gyfyngu ein mewnlif i uchafswm o ryw 100 bob blwyddyn, rydym yn dod i adnabod pob myfyriwr yn unigol, a hynny’n ein helpu i feithrin eu profiad unigol a’u helpu i gyrraedd eu nod a gwireddu eu huchelgais. Mae gennyf gydymdeimlad â myfyrwyr Cyfraith mewn prifysgolion eraill, sydd mewn dosbarthiadau o ddau neu dri chant, neu hyd yn oed fwy. Ni all hyn fod yn dda i brofiad y myfyrwyr, yn enwedig i’r rhai yn y flwyddyn gyntaf. Gall myfyrwyr wneud pethau syfrdanol, o gael yr amgylchedd astudio priodol a dosbarthiadau o’r maint priodol, gyda darlithio o ansawdd uchel, gofal bugeiliol a chymorth gyda phrofiad gwaith.  Mae’r cyfan yn rhannau allweddol o’n cenhadaeth yma ym Mangor.”

Ac yna, ceir y ‘ffactor x’: “Mae llawer o brifysgolion yn dweud eu bod yn gwrando ar eu myfyrwyr, ond ydyn nhw mewn gwirionedd?” mae’n gofyn. “Rydym ni’n gwrando’n ofalus ar adborth ein myfyrwyr ac, yn hollbwysig, rydym hefyd yn dweud wrthynt beth rydym yn mynd i’w wneud yn ei gylch; pan fyddwn wedi’i wneud, rydym yn dweud wrthynt beth rydym wedi’i wneud – dyma rydym yn ei alw’n ‘ffactor x’! Mae myfyrwyr yn werthfawrogol iawn o’r dull hwnnw.”

Math arall o gefnogaeth a werthfawrogir gan y myfyrwyr yn yr hinsawdd economaidd heriol sydd ohoni yw gwaith pwyllgor cyflogadwyedd Ysgol y Gyfraith, a drefnir gan y darlithwyr ac a gadeirir gan y darlithydd yn y Gyfraith, Gwilym Owen, a fu gynt yn gyfreithiwr mewn cwmni cyfreithiol blaenllaw. Mae’r pwyllgor wedi creu cysylltiadau gwerthfawr iawn â chwmnïau cyfreithiol a siambrau bargyfreithwyr ar gyfer interniaethau. “Rydym yn cyplysu’r myfyrwyr yn ofalus â’r interniaethau sydd fwyaf addas ar eu cyfer hwy,” eglura’r Athro Cahill, “a gall hynny arwain at bethau eraill. Er enghraifft, mae Rachel Gill, un o’n graddedigion diweddar, wedi sicrhau hyfforddeiaeth gydag Addleshaw Goddard, cwmni o bwys ym maes cyfraith fasnachol, lle roedd hi gynt wedi cymryd rhan mewn cynllun gwyliau. Mae Linenhall Chambers yng Nghaer yn cymryd pedwar o’n myfyrwyr bob blwyddyn ar amrywiaeth o dymhorau prawf byr, ac mae gennym hefyd gysylltiadau cryg â Chyngor Gwynedd, sydd bob blwyddyn mor garedig â chynnig interniaethau i’n myfyrwyr. Eleni, cafodd dwy o’r myfyrwyr hynny, Rebecca Kiely a Siân Roberts, gynnig swyddi gyda’r Cyngor.

“Mae mentrau cyffrous eraill ar droed, ac mae’r Brifysgol yn cefnogi ein hymgeiswyr am interniaethau gan gynnig cynllun bwrsariaethau tuag at gostau teithio. Mae llwyddiannau ein myfyrwyr yn dyst i lwyddiant y mentrau hyn.”

Mae Catherine-Anne Higham, sy’n astudio ar gyfer LLB yn y Gyfraith, yn un o’r rhai a gafodd fudd o fentrau cefnogaeth yr Ysgol. Yn ystod haf 2014, cwblhaodd wythnos o leoliad ar brofiad gwaith gyda Jones Robertson Solicitors yn Runcorn, a sefydlwyd gan y darlithydd Mark Hyland. “Tra oeddwn ar y lleoliad, bûm yn cysgodi un o gyfreithwyr y cwmni a oedd yn ymwneud ag amddiffyn troseddwyr, a threuliais lawer o amser yn Llys yr Ynadon ac yn Llys y Goron, yn ogystal ag yn yr orsaf heddlu leol yn y ddalfa,” medd Catherine, 21 oed. “Cefais gyfle i brofi bywyd cyfreithiwr o ddydd i ddydd ac i ddod i gysylltiad â sawl cleient gwahanol. O ganlyniad uniongyrchol i’r lleoliad hwn, a’r holl gymorth a gefais gan Ysgol y Gyfraith, llwyddais i sicrhau ail leoliad.”

Mae Catherine-Anne hefyd wedi manteisio ar y cyfleoedd niferus a gynigir gan yr Ysgol i gymryd rhan mewn ffug lys barn. “Ym mis Awst, enillais gystadleuaeth ffug lys trwy’r Gymraeg a drefnwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol”, medd. “Ysgol y Gyfraith a roddodd wybod imi am y gystadleuaeth ac a anogodd fi i gymryd rhan ynddi. Yn benodol, cefais lawer iawn o help gan fy narlithwyr, Hayley Roberts a Huw Pritchard, a’r ddau wedi fy helpu i baratoi ac ymarfer. Hebddynt, rwy’n amau a fyddwn wedi gallu llwyddo.”

Bu ffug lysoedd yn rhan hanfodol o brofiad Kgosi Ngwenya yn y Brifysgol hefyd. “Yn gynharach eleni, bûm yn cynrychioli Ysgol y Gyfraith, Bangor – a Chymru – yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Ffug Lysoedd Telders yn yr Hâg, yr Iseldiroedd, lle buom yn cystadlu’n sawl ysgol gyfraith o amryw o wledydd Ewropeaidd eraill.

“Mae astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi rhoi cyfle imi gymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau eraill hefyd sy’n gysylltiedig â’r gyfraith,” medd y myfyriwr Blwyddyn 3 sy’n astudio’r Gyfraith gyda Ffrangeg. “Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, etholwyd fi’n gynrychiolydd cwrs gan fy nghyd-fyfyrwyr, ac enwebwyd fi wedyn ar gyfer un o wobrau’r Brifysgol ar gyfer ‘Cynrychiolwyr Cwrs y Flwyddyn’. Bûm hefyd yn cymryd rhan ym mhroject yr Ysgol ar Gyfraith Stryd, lle mae myfyrwyr yn gweithio i addysgu pobl leol am eu hawliau cyfreithiol.”

Yn sicr, mae ffocws yr Ysgol ar gyflogadwyedd wedi ysbrydoli Keira Hand, myfyrwraig yn y Gyfraith. “Ers imi ymuno ag Ysgol y Gyfraith, Bangor, rwyf wedi cael fy nerbyn ar dair rhaglen wahanol ar gyfer tymhorau prawf byr”, medd y fyfyrwraig 19 oed o Wrecsam. “Yn ystod y Nadolig, byddaf yn cysgodi barnwr yn Llys y Goron, Caer, a’r haf nesaf, byddaf yn ymgymryd ag interniaeth gyda chwmni hawliau dynol, McCue and Partners, yn Llundain.”

“Mae’r Ysgol wedi fy mhenodi’n Arweinydd Darpar Gyfreithwyr dros y Brifysgol - pwrpas hyn yw hyrwyddo amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol,” medd hi. Ac nid dyna’r cyfan: “Mae fy narlithwyr, Yvonne McDermott Rees ac Osian Rees, hefyd wedi fy newis i roi cyflwyniad ar hawliad dynol plant yng nghynhadledd Cymru’r Gyfraith sydd i’w chynnal ym mis Hydref, o flaen yr Arglwydd Brif Ustus dros Gymru a Lloegr (ymysg eraill).

“Mae’r holl ddarlithwyr yn wych wrth ein hannog i’n herio ein hunain i fynd ymhellach. Mae eu cefnogaeth a’u hanogaeth yn ffactor cyson yn y cefndir, sy’n gysur inni.”

Nid peth newydd yw’r math hwn o sêl bendith gan gorff y myfyrwyr. “Ers dwy flynedd, mae sawl cydweithiwr naill ai wedi cyrraedd y brig neu’r rownd derfynol yn y gystadleuaeth am wobrau i’r darlithwyr gorau”, medd yr Athro Cahill. “Cyrhaeddodd Sarah Nason y rownd derfynol yng ngwobrau ‘Law Teacher of the Year’ Gwasg Prifysgol Rhydychen, ar draws y DU, a chyrhaeddodd Gwilym Owen rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol arall, sef ‘Law Lecturer of the Year’ gan LawCareers.Net. Mae hyn yn dangos ein bod ar y blaen.

“Nid ein cydweithwyr allanol yw’r unig rai sy’n dystion i’n medrusrwydd, ond mae ein myfyrwyr hwythau’n gweld hyn”, mae’n parhau. “Er enghraifft, y llynedd, enillodd Pedro Telles bleidlais ‘Darlithydd Mwyaf Arloesol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Dysgu’r Brifysgol dan Arweiniad Myfyrwyr, ac enillodd Stephen Clear bleidlais ‘Athro Ôl-radd Gorau’r Flwyddyn’ – roedd y ddau’n wynebu cystadleuaeth frwd gan ddarlithwyr gwych mewn cyfadrannau eraill. Felly, gan fod ein myfyrwyr yn y Gyfraith â darlithwyr mor ddawnus yn eu haddysgu, rydych yn gwybod y bydd eu profiad yn un da.”

Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2014