Newyddion: Gorffennaf 2018

Athro o Brifysgol Bangor yn darganfod sgript ffilm ‘golledig’ Kubrick

Mae'r Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigwr ar Stanley Kubrick, wedi ailddarganfod sgript ffilm a luniwyd gan y cyfarwyddwr yn 1956 ac y credid oedd wedi mynd ar goll.

Ei theitl oedd Burning Secret, sef addasiad o nofel fer o’r un enw a gyhoeddwyd yn 1913 gan Stefan Zweig, y nofelydd o Fienna.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018