Mohamed Ashoor yw Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor/BIBF 2017.
Cafodd Mohamed ei eni a'i fagu ym Mahrain ac enillodd ddiploma mewn bancio a chyllid ac uwch ddiploma mewn cyllid Islamaidd yn 2010 gan y Bahrain Institute of Banking Finance. Daeth i Brifysgol Bangor i gwblhau ei radd BA (Anrh) mewn Astudiaethau Busnes a Chyllid yn y flwyddyn academaidd 2010-11 ac enillodd radd 2i. Gwelodd raglen BIBF gyda Bangor fel cyfle perffaith i adeiladu sylfaen gadarn yn un o'r sefydliadau addysgol mwyaf enwog ym Mahrain a chael profiad o flwyddyn yn y DU. Dywed fod ei radd Baglor o'r DU, o gwrs a oedd yn dod yn gynyddol enwog ymysg cyflogwyr ym Mahrain, wedi ei baratoi at swydd ym Mahrain.
Gofynnom i Mohamed rannu ei atgofion o Fangor gyda ni. Dywedodd bod y ddinas yn hyfryd ac yn gysurlon. Bu'n byw yn Neuadd Willis ac roedd yn mwynhau chwarae pêl-droed ar y glaswellt gwyrdd naturiol yn y tywydd oer, sy'n hollol wahanol i hinsawdd Bahrain. Dywed fod Bangor wedi ei ddysgu i fod yn fwy cyfrifol am mai dyma'r tro cyntaf yn ei fywyd iddo fyw ar ei ben ei hun ac y byddai'n argymell Bangor i eraill am ei enw da ym maes cyllid ac oherwydd bod Bangor yn gyfeillgar a bod bywyd yn llai prysur yma nag mewn dinas fawr fel Llundain.
Wedi dychwelyd i Fahrain, symudodd Mohamed o faes bancio a chyllid i faes cysylltiadau cyhoeddus, gan weithio fel ysgrifennwr copi creadigol a gweithredwr cysylltiadau cyhoeddus i Oglivy & Mather. Symudodd o faes cysylltiadau cyhoeddus i farchnata digidol i weithio i gwmnïau megis Al Hilal Group a Takaud Savings and Pensions. Mae bellach yn weithiwr proffesiynol ym maes marchnata digidol, sydd â chymhwyster Google, mae gan Mohamed brofiad o helpu amrywiol gwmnïau i gyfathrebu â'u cynulleidfaoedd targed.
Un o'i gysylltiadau gwaith amlycaf hyd yma yw gyda Chlwb Pêl-droed Lerpwl. Mae Mohamed wedi bod yn gweithio gyda'r clwb ers 5 mlynedd ar eu gwefan a'u cyfryngau cymdeithasol Arabeg. Mae'n rheoli cymuned o 4.5 miliwn o gefnogwyr Arabaidd a holl waith cyfathrebu'r clwb a'u cefnogwyr yn yr iaith Arabeg. Mae Mohamed yn rhan o dîm digidol rhyngwladol Lerpwl a roddwyd ar restr fer y "British BT Sport Industry Awards" 2014 yn y categori am y defnydd gorau o'r cyfryngau cymdeithasol.
Yn ei waith, mae Mohamed yn llunio strategaethau marchnata digidol ac yn rheoli ymgyrchoedd ar draws Facebook, Google AdWords, Instagram, ymgyrchoedd e-bost a sianelau digidol eraill i gynyddu ymwybyddiaeth brand a dod o hyd i gwsmeriaid posib newydd. Denodd ei waith gyda Takaud Savings and Pensions ac American Express Middle East dros 7,000 o gwsmeriaid posib newydd trwy ymgyrchoedd lluosog ar gyfer y ddau gwmni.
Er nad yw wedi aros ym maes bancio a chyllid, mae Mohamed yn dweud bod y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a enillodd ym maes cyllid a marchnata yn ystod ei astudiaethau wedi rhoi sylfaen gadarn iddo ac wedi cyfrannu at ei ffurfio fel y dyn proffesiynol y mae erbyn heddiw.