Amcanion yr Ŵyl Wyddoniaeth
- Ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli pobl ifanc ynglŷn â gwyddoniaeth; eu grymuso fel dinasyddion, a chreu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr.
- Nodi meysydd o ddiddordeb i’r cyhoedd a hefyd y rheiny sy’n achosi pryder, lle gall gwyddonwyr gyfrannu at drafodaethau er mwyn cyfnewid syniadau ac arbenigedd
- Gwella mynediad y cyhoedd at ymchwil, a symbylu trafodaeth ar ddulliau a chanlyniadau gwyddonol, eu perthnasedd a’r goblygiadau ehangach ar gymdeithas.
- Cynnal ymchwilwyr yn eu hymdrechion i adfyfyrio ar faterion a godir gan eu hymchwil.
Bellach, mae Prifysgolion Bangor wrthi’n datblygu cynllun gweithredu i gydlynu ein gweithgareddau ac i wireddu ein huchelgeisiau.