
Cyswllt allweddol
Enw cyswllt: Katie Thomas
Cyfeiriad e-bost: katie.thomas@bangor.ac.uk
Rhif ffôn: 01248 388575
Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
Mae Eiddo Deallusol yn deillio o weithgareddau ymchwil, addysgu a throsglwyddo gwybodaeth academyddion y Brifysgol a myfyrwyr ymchwil ôl-radd. Mae hefyd yn deillio o gydweithio â sefydliadau sy'n bartneriaid megis busnesau, prifysgolion a sefydliadau'r sector cyhoeddus.
Drwy weithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau hyn, mae Prifysgol Bangor yn nodi eiddo deallusol, gwybodaeth a thechnoleg newydd o weithgareddau ymchwil, addysgu a throsglwyddo gwybodaeth y Brifysgol ac yn ei droi'n realiti masnachol. Gwneir y defnydd llwyddiannus hwn o eiddo deallusol, a elwir yn fasnacheiddio, naill ai trwy drwyddedu neu greu cwmni deillio.
Trwyddedu |
Mae Prifysgol Bangor yn mynd ati i hyrwyddo’r defnydd o’i gwaith ymchwil. Gwneir hyn yn aml drwy drwyddedu ei heiddo deallusol i fusnesau a sefydliadau: Am ragor o wybodaeth, cysylltwch Gareth Mayhead, gmayhead@bangor.ac.uk. |
Cwmnïau deillio |
Mewn rhai achosion, gellir sefydlu cwmni newydd i fanteisio ar weithgareddau ymchwil, addysgu a throsglwyddo gwybodaeth y Brifysgol ac yn yr achos hwn mae'r eiddo deallusol wedi ei drwyddedu i'r cwmni newydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r Brifysgol wedi ysgogi sawl cwmni sydd ar wahanol lefelau o ddatblygu. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch Gareth Mayhead, gmayhead@bangor.ac.uk. |