Graddau er Anrhydedd 2023

Am Wasanaeth Cyhoeddus (gan gynnwys Iechyd)

Dr Pauline Cutting yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Mae Dr Pauline Cutting OBE, cyn-lawfeddyg mewn ardaloedd rhyfela, yn byw yng ngogledd Cymru ers 40 mlynedd. Yng nghanol y 1980au, roedd yn llawfeddyg gwirfoddol gyda Chymorth Meddygol i Balestina (MAP). Pan oedd yng ngwersyll ffoaduriaid Bourj al Bourajneh, bu’n brwydro i achub bywydau yng nghanol bomio cyson. Nid oedd gan Dr Cutting unrhyw gysylltiad â gweddill y byd ond llwyddodd i gyfleu’r sefyllfa i newyddiadurwyr yn y diwedd trwy ryw lun o antena radio ac atseiniodd ei haddewid i 'fyw neu farw' gyda phobl y gwersyll ledled y byd. 

Er ei bod wedi ymddeol, mae'n parhau i weithio un diwrnod yr wythnos fel meddyg brys yn adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Gwynedd, yn yr adran y bu’n feddyg arbenigol meddygaeth frys cyntaf yr ysbyty.

Llun o Dr Tina Barsby yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

 Genetegydd planhigion a chyn fyfyrwraig Prifysgol Bangor yw Dr Tina Barsby OBE ac mae'n enwog am ei llwyddiannau gwyddonol a'i phrofiad yn y sector cnydau amaethyddol. Hi yw Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol, a’r ddynes gyntaf i fod yn brif weithredwr yn hanes y sefydliad dros 90 mlynedd. Graddiodd mewn botaneg amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor, cafodd OBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 am wasanaethau i’r gwyddorau amaethyddol a biotechnoleg.

Yr Athro Iwan Davies yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

 Bu’r Athro Iwan Davies yn Is-ganghellor Prifysgol Bangor rhwng 2019 a 2022. Arweiniodd y brifysgol trwy heriau nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen yn ystod y pandemig. Ymhlith ei lwyddiannau arwyddocaol oedd cyhoeddi Ysgol Feddygol annibynnol yng ngogledd Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae’n awdurdod blaenllaw ar gyfraith fasnachol ryngwladol ac mae ganddo ddiddordeb penodol ym maes cyllid asedau, eiddo deallusol a chyfraith eiddo personol. Mae ganddo raddau o brifysgolion Aberystwyth, Caergrawnt a Chaerdydd ac mae’n fargyfreithiwr. Cafodd ei wahodd a'i alw i'r Bar am ysgolheictod academaidd o fri ym maes y gyfraith.

Am Wasanaeth i Fusnes ac Entrepreneuriaeth

Llun o Mr Richard Broyd yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Mae Richard Broyd OBE yn ddyn busnes, yn gadwraethwr ac yn ddyngarwr. Gwelodd Richard gyflwr gwael plastai gwledig hardd a oedd yn mynd yn adfeilion, a sefydlodd Historic House Hotels. Y plasty cyntaf a brynodd oedd Neuadd Bodysgallen yn Llandudno, a adeiladwyd yn y 17eg ganrif, a chadarnhaodd hyn ei gariad at Gymru. Rhoddodd Richard ei gwmni cyfan a’i asedau i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y rhodd unigol fwyaf i’r elusen ei derbyn erioed. Mae ganddo gysylltiadau cryf â gogledd Cymru ac mae'n gefnogwr selog i  elusennau Cymru, yn arbennig Rheilffordd Ffestiniog a’r gwaith o ailadeiladu Rheilffordd Ucheldir Cymru. 

Am Gyfraniad i Ddiwylliant, Iaith, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau yng Nghymru

Mr Dafydd Iwan yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

 Canwr a gwleidydd yw Dafydd Iwan a ddaeth yn enwog am ysgrifennu a pherfformio caneuon a cherddoriaeth werin Gymraeg.  Rhwng 2003 a 2010, ef oedd llywydd Plaid Cymru. Dafydd yw llysgennad diwylliannol Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac arweiniodd gân swyddogol yr ymgyrch Yma o Hyd mewn gwahanol fannau i gefnogi’r tîm cenedlaethol yng Nghwpan y Byd 2022 ac i godi proffil Cymru a’r Gymraeg.

Am Wasanaeth i Addysg

Steve Backshall yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

 Mae Steve Backshall MBE yn un o gyflwynwyr, naturiaethwyr, awduron ac anturiaethwyr byd natur mwyaf adnabyddus y byd teledu. Mae’n ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn dysgu myfyrwyr Bangor am gadwraeth, sŵoleg a’r diwydiant ffilmio bywyd gwyllt. Mae darlithoedd Steve ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd ac mae cynlluniau ar y gweill i wneud ffrydiau byw o leoliadau ffilmio a theithiau maes Steve.

Llun o Dr Salamatu Jidda-Fada yn Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Gwyddonydd cadwraeth ac addysgwr a aned yn Nigeria yw Dr Salamatu Jidda-Fada. Bu’n gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Cadwraeth ar Sail Tystiolaeth rhwng 2016 a 2018, ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilydd gwadd yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Salamatu’n dal i fyw ym Mangor, ac mae hi’n gweithio fel ymgynghorydd cadwraeth yn hyrwyddo Cymru wyrddach ac ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig a'r gymdeithas ehangach yng Nghymru. Oherwydd ei gwaith fel sylfaenydd Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica, mae Salamatu wedi cyfrannu at Grŵp Cynghorol Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) Llywodraeth Cymru ac mae hi’n aelod ac yn Is-gadeirydd Dysgu Oedolion Cymru. Mae hi hefyd yn aelod ymgynghorol o’r RSPB Cymru a hi yw’r person du cyntaf i gael ei hethol yn gynghorydd ar Gyngor Dinas Bangor. 

Am Lwyddiant mewn Chwaraeon

Llun o Caradoc Jones yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Caradog 'Crag' Jones oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest ym mis Mai 1995 yn 33 oed.  Graddiodd gyda gradd BSc ym Mioleg y Môr ac Eigioneg ym Mhrifysgol Bangor ym 1982. Ar ôl y ddringfa fawr, daeth yn boblogaidd fel cyflwynydd rhaglenni teledu i ddringwyr ifanc ac wrth gefnogi grwpiau dringo a cherdded yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Crag yn gweithio fel ymgynghorydd pysgodfeydd. Mae’n parhau i ddringo a theithio ac mae hefyd yn mwynhau rasio beiciau mynydd i lawr allt. 

Am Cyfraniad Rhanbarthol i Gerddoriaeth

Llun o Mr Gwyn Evans yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Gwyn Evans yw cyn-arweinydd Seindorf Biwmares. Mae wedi dysgu miloedd o blant o’r ardal i chwarae offerynnau pres ers dros 25 mlynedd. Mae wedi arwain Seindorf Biwmares i ennill prif gystadlaethau Prydain a chodi safon a sgiliau pobl ifanc a’u hysgogi i ymddiddori mewn bandiau pres. Tra’n ysgrifennu ac yn addasu trefniadau cerddorol i Seindorf Biwmares, mae Gwyn yn awyddus bob amser i hybu Cymreictod a diwylliant cerddorol Cymru ac mae wedi gwneud hynny ledled y byd. 

Am Gwasanaeth i Addysg Uwch a/neu Llywodraethu

Yr Athro Gareth Ffowc Roberts yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Mae’r Athro Gareth Ffowc Roberts, yn gyn Ddirprwy Ganghellor ac yn gyn aelod o Gyngor Prifysgol Bangor. Graddiodd mewn Mathemateg o Brifysgol Rhydychen, a bu Gareth yn gweithio'n helaeth ym myd addysg yng Nghymru cyn dod yn bennaeth y Coleg Normal, Bangor. Ar ôl i'r coleg uno â Phrifysgol Cymru, Bangor, daeth Gareth yn Ddirprwy Is-ganghellor ac yn Athro Addysg. Chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bu’n goruchwylio darpariaeth cyfrwng Cymraeg y brifysgol. 

Am Ysgolheictod ac Arloesedd Rhagorol

Llun o Dr Dafydd Owen yn Llyfrgell Prifysgol Bangor mewn gwn graddio

Dr Dafydd Owen arweiniodd y tîm cyn-glinigol amlddisgyblaethol a ddarganfu PAXLOVID, y driniaeth eneuol gyntaf i Covid-19 a gymeradwywyd gan yr FDA. Mae ganddo bum mlynedd ar hugain o brofiad fel fferyllydd meddyginiaethol yn dylunio ac yn syntheseiddio moleciwlau tebyg i gyffuriau i Pfizer Research & Development yn eu canolfannau ymchwil yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?