Gweithdy II: Defnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud dadansoddiad ansoddol (sesiwn ar-lein)
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad byr i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i gefnogi dadansoddi a dehongli data ansoddol. Sylwer y dylech fod wedi bod yng Ngweithdy I: Sesiwn gyflwyniadol NVivo cyn mynd i Weithdy II. Mae Gweithdy II yn cymryd yn ganiataol bod gennych wybodaeth sylfaenol am NVivo a dealltwriaeth o godio data ansoddol. Byddwn yn trafod rhai o'r arferion, fel codio awtomatig sy'n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial yn NVivo, ac yn edrych ar yr hyn y gallai deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ei gynnig. Bydd ystyriaethau moesegol, sut i ddogfennu'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn modd tryloyw ac arferion gorau wrth integreiddio deallusrwydd artiffisial â dehongliad dynol mewn astudiaethau ansoddol yn rhan bwysig o'r sesiwn hon.
Er mwyn cael y budd mwyaf o'r sesiwn, rhaid i chi lawrlwytho NVivo ar eich gliniadur (cysylltwch â desg gymorth TG), helpdesk@bangor.ac.uk ), fel arall ni fyddwch yn gallu ymuno.