Bwrsariaethau MScRes Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth 2026
Mae Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth (CGFT) yn cynnig dwy fwrsariaeth gwerth £2,000 yr un i fyfyrwyr sy’n dymuno cyflawni projectau MScRes sy’n gwneud defnydd o gyfleusterau ac adnoddau Treborth ac sy’n mynd i’r afael â chwestiynau ymchwil sy’n berthnasol i gymuned academaidd Prifysgol Bangor a chenhadaeth Gardd Treborth. Byddai'r bwrsariaethau'n cael eu credydu i wrthbwyso ffioedd dysgu a mainc.