Cynhadledd Ymchwil Ôl-radd YGGCC 2026
Galwad am grynodebau:
Cynhadledd Ymchwil Ôl-radd YGGCC 2026
Clwstwr Economi, Menter, a Chynhyrchiant
Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor,
yr ail o Dachwedd 2026
Mae 6ed Cynhadledd Ymchwil Ôl-radd Cymru yn chwilio am gyfraniadau gan fyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd ym mhob cam o’u gwaith ymchwil, ac ar bob agwedd ar Reolaeth a Busnes, Economeg, a’r Economi Ddigidol a Chymdeithas. Ariennir y Gynhadledd gan YGGCC.
Mae'r gynhadledd yn gyfle gwych i fyfyrwyr ôl-radd ar unrhyw gam o’u gwaith ennill mwy o brofiad cyflwyno a chael sylwadau gan academyddion profiadol y tu allan i'w tîm goruchwylio eu hunain.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cyflwyno poster a phapur neu gyflwyniad.
Cofrestrwch a chyflwynwch eich crynodeb (uchafswm o 200 gair) trwy lenwi'r ffurflen ganlynol:
Cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig YGGCC 2026
Mae presenoldeb am ddim. Darperir cinio a lluniaeth am ddim i bawb sy’n cymryd rhan. Bydd costau teithio a llety yn cael eu talu ar gyfer myfyrwyr Clwstwr EEP a ariennir gan YGGCC sy'n teithio o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd.
Dyddiad olaf cyflwyno crynodebau: y 12fed o Hydref 2026