Myfyrwyr Nyrsio sy'n astudio yn Wrecsam
Mae Wrecsam yn ddewis delfrydol i fyfyrwyr sy'n dymuno cael y profiad gorau o fyw'n fodern mewn tref groesawgar, gyda sawl parc, oriel ac amgueddfa.

Mae gan y Brifysgol nifer o ystafelloedd yn Neuadd Snowdon yn Wrecsam. Mae'r llety o fewn pellter cerdded o ganol y dref a'r prif adeiladau'r Brifysgol.
Mae'r ystafelloedd yn cael eu trefnu mewn fflatiau o 6 ystafell gyda chegin i'w rannu. Mae'r holl ystafelloedd yn cynnwys ystafell gawod en-suite. Dylai myfyrwyr ddarparu eu dillad gwely, tywelion, potiau, sosbenni, cyllyll a ffyrc a llestri eu hunain. I gysylltu gyda'r rhyngrwyd gall wneud hyn drwy drefnu gyda'r Rheolwr Neuaddau.
Yn anffodus, oherwydd nifer cyfyngedig o ystafelloedd, ni allwn warantu lle mewn llety ar gampws Wrecsam.
Ymgeiswyr sydd wedi dewis Bangor fel eu dewis pendant, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost. Ar ôl i chi dderbyn e-bost, gallwch wneud cais ar-lein.