Cefais fy magu yn Coventry a fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol. Dewisais Fangor yn rhannol ar gyfer y cwrs ac yn rhannol oherwydd fy mod i eisiau rhywle hollol wahanol ac i fod oddi cartref. Y mynyddoedd, y môr, a naws dinas fechan lle gallwn i ddod i adnabod pobl mewn gwirionedd - cefais hynny i gyd, acroeddwn i wedi gwirioni ar Fangor ar ôl y diwrnod agored cyntaf.
Byddaf yn onest, doeddwn i ddim y myfyriwr mwyaf academaidd. Llwyddais i gael 2:2 o drwch blewyn a graddio heb unrhyw syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud. Ond wrth edrych yn ôl, roedd cymaint o'r hyn a ddysgais i ym Mangor - sut i ysgrifennu'n glir, meddwl yn feirniadol, siarad yn hyderus, a dwyn perswâd, yn sylfaenol i bopeth a ddaeth wedyn.
Un peth a wnaeth wahaniaeth gwirioneddol oedd yr hyblygrwydd a gefais gyda fy nhraethawd hir. Gweithiais gyda fy athrawon i ganolbwyntio ar farchnata digidol ar gyfer busnesau bach - pwnc yr oeddwn yn chwilfrydig iawn amdano ac yn ei weld fel gyrfa bosibl yn y dyfodol. Rhoddodd y project hwnnw fy nealltwriaeth gyntaf go iawn imi o'r diwydiant a goblygiadau dechrau gyrfa mewn marchnata. Fe blannodd had, a hyd yn oed os nad oeddwn i'n sylweddoli hynny'n llawn ar y pryd, dyna'n union a roddodd hwb i'm gyrfa yn y diwydiant. Llwyddais i siarad yn fanwl am yr hyn a ddysgais i yn ystod fy mhroject traethawd hir, a sut y gallwn i gymhwyso hynny i'r gwaith.
Y tu allan i ddarlithoedd, fe wnes i ymroi i fywyd myfyrwyr. Ymunais â'r gymdeithas ddawns, a dyna lle bu imi gyfarfod fy ngwraig. Rydyn ni'n dal gyda'n gilydd, bron i 10 mlynedd nawr, felly dw i'n ddyledus iawn i Fangor. Yn ogystal â hyn, byddwn i'n chwarae pêl-droed, yn dringo'r Wyddfa (nad wyf yn ei argymell mewn trowsus cwta ym mis Tachwedd), ac ymunais â'r Gymdeithas Arddio - er y credaf imi ymuno â'r gymdeithas hon oherwydd fod arna i eisiau mynd ar eu crôl dafarndai…
Ar ôl graddio, llwyddais i gael swydd mewn asiantaeth fach yng Nghanolbarth Lloegr, gan weithio gyda phrifysgolion ar ymgyrchoedd recriwtio myfyrwyr. Roeddwn i'n gallu siarad yn hyderus gyda chleientiaid, rhoi cyflwyniadau, a gweithio gydag amrywiaeth eang o broffiliau gwahanol oherwydd yr hyn a ddysgais i ym Mangor, a'r hyder a roddodd i mi. Mae darllen barddoniaeth o flaen y dosbarth, er enghraifft, yn gwneud cyflwyno i gleientiaid yn brofiad mor hawdd!
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, symudais trwy asiantaethau a swyddi mewnol, gan lanio yn y pen draw yn Samsung ac yna Google. Rwyf nawr yn Bartner Mesur yn TikTok, yn helpu brandiau i ddeall beth sy'n sail i’w canlyniadau mewn gwirionedd, gan ddefnyddio'r sgiliau sylfaenol a ddatblygais yn y Brifysgol, yn ogystal â'r sgiliau mwy dwys o ran data rydw i wedi'u dysgu drwy gydol fy ngyrfa hyd yn hyn.
Nid dyna'r llwybr roeddwn i'n ei ddisgwyl. Ond yr edau sy'n rhedeg drwy'r cyfan yw cyfathrebu, deall pobl, creu negeseuon sy'n taro deuddeg, a gwneud pethau cymhleth yn syml. Dyna beth ddysgodd fy ngradd i mi.
Pe gallwn i ddweud unrhyw beth wrth fyfyrwyr presennol, yn enwedig y rhai sy'n astudio'r dyniaethau, yna dyna ddywedwn i. Mae'n iawn peidio â gwybod yn union pa swydd neu yrfa sy'n addas i chi. Nid yw'r llwybr mor glir ag y gallai fod ar gyfer meddygaeth neu'r gyfraith, ac mae hynny'n iawn. Yr hyn sy'n bwysig yw datblygu'r sgiliau meddal a fydd yn eich gwneud chi'n llwyddiannus mewn nifer fawr o swyddi. Mewn oes o gynnwys byr a bachog, rhychwant canolbwyntio sy'n lleihau, llythrennedd cyfryngau sy'n gostwng, a deallusrwydd artiffisial yn gwneud mwy o'r gwaith trwm, nid yw'r gallu i feddwl yn feirniadol, ysgrifennu'n glir, a dwyn perswâd erioed wedi bod yn fwy gwerthfawr. Mae eich gradd yn rhoi amryfal sgiliau i chi, yn barod i'w defnyddio mewn sawl swydd wahanol, hyd yn oed os nad ydych chi'n gwybod yn union pa faes eto.