Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain 2022

Llongyfarchiadau i Zahra Al Shamma (Bancio a Chyllid, 2013) a gyhoeddwyd yn Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain 2022 mewn aduniad o raddedigion Bangor yn Nheyrnas Bahrain ar 8 Tachwedd. Mae Ysgol Busnes Bangor yn falch o fod â phartneriaeth hirsefydlog gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain, a ddechreuodd yn 2004 gyda’r garfan gyntaf o fyfyrwyr yn graddio yn 2007. Ers hynny mae tua 1,000 o fyfyrwyr wedi graddio o’r rhaglen hon sy’n galluogi myfyrwyr i astudio blwyddyn sylfaen a dwy flynedd gyntaf eu cymhwyster yn Bahrain a chwblhau eu blwyddyn olaf ym Mangor i ennill eu gradd israddedig. Sefydlwyd Gwobr Alumnus y Flwyddyn yn 2016 i gydnabod cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor a Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain sydd wedi cyflawni rhagoriaeth broffesiynol yn ogystal â chyfrannu at eu cymuned.

Cynhaliwyd aduniad blynyddol y cyn-fyfyrwyr eleni, lle roedd dros 90 o gyn-fyfyrwyr, gan yr Athro Andrew Edwards - Pennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes a Dirprwy Is-ganghellor. Croesawyd y gwesteion hefyd gan Lywodraethwr Banc Canolog Bahrain a Phrif Weithredwr Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain, Ei Ardderchogrwydd Rasheed Mohammed Al Maraj.  Cyflwynwyd ei gwobr i Zahra gan yr Athro Bruce Vanstone o Brifysgol Bangor, Pennaeth Ysgol Busnes Bangor.
Graddiodd Zahra Al Shamma o Brifysgol Bangor gyda BSc mewn Bancio a Chyllid yn 2013. 

Ymunodd Zahra â Chronfa Lafur Tamkeen ym mis Chwefror 2017 fel Uwch Ddadansoddwr, gan gyfrannu at dwf y farchnad entrepreneuraidd a'r sector preifat yn Bahrain. Nawr, yn rhan o’i swydd ym maes strategaeth a thrawsnewid, mae'n gyfrifol am adrodd ar statws economaidd byd-eang a lleol ac yn dadansoddi sectorau’r farchnad. 

Ym mis Hydref 2021, cafodd Zahra ei secondio i Swyddfa’r Prif Weinidog i fod yn rhan o’r Tasglu Cenedlaethol i frwydro yn erbyn COVID-19. Disgrifia ei swydd yma fel goruchwyliwr yr ystafell drafod fel taith o nosweithiau di-gwsg. Gweithiodd ei thîm yn agos wrth reoli canolfan ddata COVID-19, rheoli achosion beunyddiol a niferoedd y cleifion a ai i unedau COVID-19 yr ysbytai, ac adrodd i'r Prif Weinidog ac uwch swyddogion ar gyfer gwneud penderfyniadau ledled y wlad. Enillodd wobr anrhydeddus Medal Teilyngdod Feddygol y Tywysog Salman bin Hamad am ei gwaith yn y tîm hollbwysig hwn. 

Yn dilyn Cyfarwyddeb Frenhinol Ei Fawrhydi Brenin Hamad bin Isa Al Khalifa i uno’r ymdrechion cenedlaethol i frwydro yn erbyn ôl-effeithiau COVID-19 a’r effaith yr oedd wedi’i achosi ar lefelau economaidd, mae Zahra wedi gweithio gyda mentrau bach a micro yr effeithiwyd arnynt yn andwyol i gynnig cymorth ariannol. Rhan o’i gwaith yn hyn o beth oedd asesu a phrosesu dyraniad Pecynnau Ysgogi'r Llywodraeth ac ymchwilio i ba sectorau’r farchnad y mae’r pandemig byd-eang wedi effeithio arnynt. 
 
Y tu allan i'r gwaith, gwirfoddolodd Zahra am dair blynedd gyda Rhaglen Cychwyn Cadarn INJAZ Bahrain, sefydliad nid-er-elw gyda'r nod o rymuso pobl ifanc i lywio’u llwyddiant economaidd eu hunain a bod yn barod ar gyfer heriau busnes heddiw. 
 
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Zahra, “Hoffwn fynegi fy niolch i Brifysgol Bangor a Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain am fy newis yn Alumnus y Flwyddyn 2022; mae'n anrhydedd wirioneddol fawr. Roedd astudio ym Mhrifysgol Bangor yn brofiad hynod gadarnhaol a luniodd fy nghymeriad er gwell. Rhoddodd y sylfaen o wybodaeth yr wyf yn dal i ddibynnu arni heddiw.” 
Dywedodd yr Athro Bruce Vanstone, Pennaeth Ysgol Busnes Bangor “Roeddem ni ym Mhrifysgol Bangor a’n cydweithwyr yn Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain yn falch iawn o glywed am gynnydd Zahra ers graddio, yn enwedig yn ei gwaith caled yn cefnogi Teyrnas Bahrain yn ystod y pandemig. Rydym yn falch iawn o'i chyflawniadau ac yn falch iawn o'i chydnabod yn enghraifft ddisglair o'r hyn y gall ein graddedigion ei gyflawni.”
 


 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?