Derbyniad i gyn-fyfyrwyr yn Nhŷ’r Arglwyddi
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal derbyniad diodydd a chanapés ar gyfer cyn-fyfyrwyr a chyfeillion yn Nhŷ’r Arglwyddi, Llundain, ar ddydd Mercher, 12 Medi 2023, 6:30pm – 8:30pm yn Ystafell Cholmondeley a’r Teras.
Bydd cyn-fyfyrwyr yn cael cyfle i glywed gan yr Is-ganghellor, Yr Athro Edmund Burke, i gysylltu â'u hen brifysgol a chlywed am y datblygiadau cyffrous sy'n digwydd yno.
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad bellach wedi gwerthu allan, ond os hoffech ymuno â'r rhestr aros, anfonwch e-bost at Bethan Perkins, Swyddog Cysylltiadau Alumni, yn b.w.perkins@bangor.ac.uk a byddwn yn cysylltu os bydd lleoedd ar gael.