Aduniadau a Digwyddiadau Alumni

Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn trefnu aduniadau a digwyddiadau i gyn-fyfyrwyr yma yn y Brifysgol a ledled y byd. Rhowch eich manylion cyswllt cyfredol inni ac mi wnawn anfon  gwybodaeth atoch am y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn eich rhanbarth, ar gyfer eich maes pwnc ac ar gyfer eich grŵp blwyddyn neilltuol.

Digwyddiadau’r Brifysgol

Mae Prifysgol Bangor yn cynnal nifer o ddarlithoedd a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn sy'n agored i'r cyhoedd. Gweler yr holl ddigwyddiadau cyhoeddus sydd ar y gweill gan y Brifysgol.

Digwyddiadau Diweddar

Dychwelodd Yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor, Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni a Dr Lindsay Jones o'r Swyddfa Addysg Rhyngwladol i Deyrnas Bahrain ar 28 Tachwedd 2023 i gynnal yr Aduniad Blynyddol i Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor ym mhencadlys yr Institute of Banking and Finance (BIBF) ym Mae Bahrain.

Gan ddathlu’r bartneriaeth barhaus rhwng Prifysgol Bangor a BIBF a llwyddiant parhaus y rhaglen a ddilyswyd gan Fangor yn Bahrain, daeth 70 o gyn-fyfyrwyr i’r digwyddiad lle cafwyd anerchiad gan yr Athro Andrew Edwards. Cafodd diodydd a chanapes eu gweini wrth i gyn-fyfyrwyr ddal i fyny gyda’u cyn gyd-ddisgyblion ar deras hardd BIBF a chymryd rhan mewn rhai gweithgareddau hwyliog! Yn ystod y digwyddiad hefyd cyflwynwyd gwobr Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF 2023 i Hasan Sater (Bancio a Chyllid, 2012), Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Ariannu Gweithrediadau yn y Weinyddiaeth Gyllid ac Economi Genedlaethol.

Cynhaliwyd digwyddiad llawn gyda 180 o gyn-fyfyrwyr, cymrodyr er anrhydedd, cyfeillion y brifysgol a gwesteion yn Ystafell Cholmondeley a theras Tŷ’r Arglwyddi yn Llundain ddydd Mawrth, 12 Medi 2023.

Croesawyd y gwesteion gan yr Arglwydd Dafydd Wigley a chafwyd anerchiadau gan yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor, Marian Wyn Jones. Cawsant hefyd y pleser o wrando ar berfformiad gan dri myfyriwr o’r Adran Gerddoriaeth a chlywed gan gyn-fyfyriwr Bangor, Harry Riley (Meistr Bioleg, 2019), Pennaeth Cynllunio a Llywodraethu Niwed Ar-lein yn Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Roedd digon o gyfle hefyd i westeion gwrdd â’i gilydd a rhwydweithio dros ddiodydd a chanapés ar y teras!

Unwaith yn rhagor, cynhaliodd y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni aduniad blynyddol i gyn-fyfyrwyr ym mis Awst fel rhan o weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.

Daeth tua 200 o gyn-fyfyrwyr a chyn-staff i ymuno â ni ar y stondin, lle cawsant eu croesawu gan yr Athro Andrew Edwards a soniodd am rai o’r datblygiadau sy’n digwydd yn y Brifysgol. Clywsant wedyn am lwyddiannau Undeb y Myfyrwyr gan Lywydd UMCB, Celt John, a aeth yn ei flaen i godi canu!

Dywedodd Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, “Pleser o’r mwyaf oedd cael cynnal yr aduniad blynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eto eleni. Mae hwn yn uchafbwynt yng nghalendr y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr ac roedd yn hyfryd gweld wynebau cyfarwydd a chael cwrdd â chyn-fyfyrwyr newydd.”

Roeddem yn falch o gael y cyfle i gwrdd â chyn-fyfyrwyr yn Pontio cyn perfformiad y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl ar 2 Mehefin. Gwnaeth 40 o gyn-fyfyrwyr a'u gwesteion gwrdd â'r Is-ganghellor yr Athro Edmund Burke, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol Marian Wyn Jones a'r tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni dros ddiodydd a chanapés cyn mynd i’r cyngerdd. Roedd pob tocyn i’r cyngerdd wedi ei werthu.

Mae gan Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a Phrifysgol Bangor berthynas sy’n mynd yn ôl flynyddoedd lawer gyda nifer o fyfyrwyr yn derbyn gwersi offerynnol gan y Gerddorfa ac yn cymryd rhan mewn projectau partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth a roddodd gyfle i fyfyrwyr ymchwil weithio gyda’r Gerddorfa yn Lerpwl. 

Diolch i bob un ohonoch a ymunodd â ni!

Roedd Prifysgol Bangor yn falch o allu dychwelyd i Deyrnas Bahrain ar 8 Tachwedd 2022 a chynnal ein seithfed Aduniad Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor ym mhencadlys yr Institute of Banking and Finance (BIBF) ym Mae Bahrain.

Bu dros 90 o gyn-fyfyrwyr yn hel atgofion gyda’i gilydd a chlywed am datblygiadau ym Mangor dros ddiodydd a chanapes. Dan arweiniad yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor a Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, bu Ei Ardderchogrwydd Rasheed Al Maraj, Llywodraethwr Central Bank of Bahrain a'r Athro Bruce Vanstone, Pennaeth  Ysgol Busnes Bangor yn annerch y gwesteion.

Hefyd yn ystod y noson, cyhoeddwyd mai Zahra Al Shamma (Bancio a Chyllid, 2013) oedd enillydd gwobr Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF 2022. 

ADUNIAD 1960au/70au

Daeth grŵp o dros 40 o gyn-fyfyrwyr o'r 1960au a'r 1970au i Fangor ar 2-3 Medi i aduniad a drefnwyd gan y cyn-fyfyrwyr Roger Thwaites (Sŵoleg, 1971) a Foster Edwards (Amaethyddiaeth, 1971).

Dechreuodd yr aduniad gyda gêm o dennis bwrdd i fedyddio'r byrddau tennis bwrdd parhaol newydd a osodwyd yn ddiweddar y tu allan i Bar Uno ar safle Ffriddoedd. Llwyddodd y brifysgol i’w prynu ar ôl i'r grŵp yma ddod at ei gilydd i godi £5,000 i gofio eu cyfnod ym Mangor.

Cyfarfu'r grŵp fore Sadwrn i glywed sgyrsiau gan Lewis Thompson, Is-lywydd Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr, a Dr Andy Cooke, Cyfarwyddwr Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît Prifysgol Bangor, ac fe ddaeth yr aduniad i ben gyda bwffe a diodydd yn Bar Uno.

Cyn yr aduniad, cododd y criw £5,000 i brynu dau fwrdd bwrdd tennis sydd wedi'u gosod y tu allan i Bar Uno ar safle Ffriddoedd y Brifysgol. Cafodd yr aduniad ei ddechrau gyda gem i fedyddio'r byrddau. Gweler y fideo yma!

Dyma rai o'r uchafbwyntiau'r penwythnos:

  • Daeth aelod hyn o'r tim rygbi i Fangor yn gynnar ddydd Gwener er mwyn cael mynd i gerdded yn y mynyddoedd. Wrth ddringo Tryfan, yn anffodus, fe syrthiodd. Cafodd gymorth a chafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd lle rhoddwyd wyth pwyth yn ei goes. Yn arwrol ddigon, llwyddoedd i ailymuno a gweddill y penwythnos (ac mae'n holliach erbyn hyn)!
  • Dangosodd Roger ac Ann Doig ymroddiad gwirioneddol a theithio i fyny i Fangor ddim ond ar gyfer y nos Wener gan fod ganddynt barti teuluol ar y dydd Sadwrn - am ymroddiad!
  • Bu'r criw yn mwynhau bwyd ardderchog yn Bar Uno ar y nos Sadwrn. Diolch arbennig i'r staff gwych a fu'n barod iawn eu cymwynas. Fe wnaethon nhw hyd yn oed ymuno yn y canu!
  • Nodwyd munud o dawelwch er cof am ffrinding ymadawedig.
  • Diddanodd Brian Charnley y grwp gyda'i gerddi a'i ysgrifau am chwaraeon, fel y gwnaeth Stan Moore gyda'i gitar a Twm Jones a ganodd 'Myfanwy'.
  • Rhannodd John Northridge stori am Albert Ross (ar fenthyg yn barhaol gan Brifysgol Abertawe) a sut y cafodd ei ethol i'r pwyllgor myfyrwyr a'i ymddiswyddiad ohono mae o law
  • Daeth Celia Wolfe a llond bocs o atgofion am y tim hoci merched, gan gynnwys rhestrau gemau.
  • Jane Smith a Jill Nicholson fu'n codi canu wrth i ni ganu rhai o hen ganeuon bar yr undeb ar nos Sadwrn; doedd neb wedi anghofio'r geiriau!

Darllenwch adroddiad gan John Young (Ieithoedd Modern, 1970)

Darllenwch adroddiad Brian Charnley (Saesneg a Drama, 1970)

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu aduniad i'ch carfan chi, cysylltwch â Bethan Perkins, Swyddog Cysylltiadau Cyn-Fyfyrwyr ar b.w.perkins@bangor.ac.uk
 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?