Manylion
Professor Andrew Edwards
Dirprwy i'r Is-Ganghellor a Phrofost
Prifysgol Bangor
Fel Dirprwy i’r Is-ganghellor a Phrofost, yr Athro Andrew Edwards yw dirprwy sefydlog yr Is-ganghellor a'r Llywydd, gan ddarparu arweinyddiaeth academaidd strategol ar draws tri choleg y Brifysgol.
Mae'n gyfrifol am broses gynllunio academaidd y Brifysgol gan gynnwys dyrannu adnoddau a chynllunio cyfalaf.
Mae gan y Dirprwy i’r Is-ganghellor hefyd gyfrifoldeb cyffredinol am berfformiad academaidd y Brifysgol trwy reolaeth llinell tri Dirprwy Is-ganghellor, tri Phennaeth Coleg ac Is-Brofostiaid. Mae'n dirprwyo dros yr Is-ganghellor pan fo angen.
Fel Cadeirydd Grŵp Cynllunio a Thrawsnewid y Brifysgol, mae'r Athro Edwards yn gweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Gweithredu, y Prif Swyddog Cyllid, y Prif Swyddog Cynllunio a'r Prif Swyddog Pobl i ddarparu arweinyddiaeth ar berfformiad strategol a gweithredol y Brifysgol.
Yn 2025, yr Athro Edwards oedd yr arweinydd ar ran y Bwrdd Gweithredol a’r Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer Project Adolygu ac Ailstrwythuro Academaidd y Brifysgol. Ef yw’r arweinydd gweithredol ar gyfer ymgysylltu ag undebau llafur y campws.
Yr Athro Edwards hefyd yw’r arweinydd gweithredol ar gyfer strategaeth fyd-eang y Brifysgol.
Mae'r Dirprwy i’r Is-ganghellor a Phrofost yn aelod o Fwrdd Gweithredol, Senedd a Chyngor y Brifysgol.
Cyn ei benodiad yn Ddirprwy i’r Is-ganghellor, roedd yr Athro Edwards yn Ddirprwy Is-ganghellor dros y Gymraeg, Ymgysylltu Dinesig, Partneriaethau Strategol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (2020-24), ar ôl bod yn Ddeon a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes (2012-20). Yn y swyddogaethau hynny, dangosodd allu eithriadol i reoli portffolios amrywiol a chymhleth, gan fod yn llysgennad cadarnhaol ar ran y Brifysgol ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
Fel hanesydd, mae ymchwil yr Athro Edwards yn canolbwyntio ar newid gwleidyddol yng Nghymru a Phrydain ar ôl 1945, hanes datganoli yng Nghymru a newid cymdeithasol ym Mhrydain ar ôl y rhyfel. Dechreuodd ei yrfa academaidd fel cynorthwyydd ymchwil ar broject ymchwil mawr a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar Ddatganoli a Newid Cyfansoddiadol (2002-04), cyn cael ei benodi i Ddarlithyddiaeth mewn Hanes Modern. Dyfarnwyd Cadair Bersonol iddo yn 2015. Mae’r Athro Edwards yn gymrawd o’r Royal Historical Society a’r Academi Addysg Uwch.
Ganwyd a magwyd yr Athro Edwards yng Nghaernarfon ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Mae hefyd yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor, ar ôl cwblhau ei BA (1997), MA (1998) a PhD (2002) yn y Brifysgol.
Cynorthwyydd Gweithredol: Karen Williams karen.williams@bangor.ac.uk