Casgliad Castell Penrhyn

Dim ond un allan o nifer o gasgliadau ystadau yn y Brifysgol ym Mangor yw casgliad Castell Penrhyn. Fodd bynnag, mae’n un o’n casgliadau mwyaf, sy’n denu ymchwilwyr o bell ac agos gan mai un o’r elfennau mwyaf hynod ohono yw’r papurau sy’n ymwneud â’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica. Mae’r casgliad yn ymestyn dros gyfnod o 700 mlynedd gyda’r potensial ar gyfer ymchwil yn eang.

Erbyn diwedd y 19ed ganrif, stad y Penrhyn oedd y trydydd mwyaf yng Nghymru. Roedd ei pherchenogion, y teulu Pennant, wedi gwneud eu ffortiwn drwy’r diwydiant siwgr yn Jamaica ac fe fuddsoddwyd yr enillion a wnaethpwyd yn Jamaica ym Mhrydain. Prynodd y teulu Pennant ystad Gymreig sylweddol a daethant yn arloeswyr a sefydlu’r diwydiant llechi yng Nghymru. Chwarel y Penrhyn oedd y mwyaf yn  y byd, a daeth yn enwog am yr aflonyddwch cynyddol ymysg y gweithlu a ddaeth i binacl gyda’r Streic Fawr ym 1900-1903.

Trosglwyddwyd papurau Castell Penrhyn i’r Bryfysgol ar wahanol adegau ac o ganlyniad mae nifer o gatalogau wedi ymddangos dros y blynyddoedd.

Mae catalogau papur ar gael yn yr adran ond mae rhai ohonynt hefyd ar gael ar ein catalog ar-lein.

 

Rhif cyfeiriad Enw’r casgliad

Catalog papur ar gael yn yr Archifau

Catalog ar gael ar lein:

PENR

Penrhyn Castle Papers

Oes

Oes

PENRA

Penrhyn Castle Additional Manuscripts

Oes

Oes

PBRA

Penrhyn B.R.A.

Oes

Oes

PBIS

Penrhyn Correspondence : Bethesda Intermediate School

Oes

Oes

PQS

Penrhyn Correspondence : Quarry Strike

Oes

Oes

PFA

Penrhyn Castle Further Additional

Oes

Oes

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?