Prif Adeilad y Celfyddydau

Hunaniaeth Brand Prifysgol Bangor

Mae brand y Brifysgol yn adlewyrchu ein dyheadau yn ogystal â'n treftadaeth. Yma fe welwch yr holl adnoddau sydd eu hangen ar fyfyrwyr, staff a phartneriaid i gynrychioli hunaniaeth graidd y Brifysgol yn gywir.

Ein Llawlyfr Brand

Yma fe welwch llawlyfr sy’n amlinellu sut yr ydym ni’n sôn am ein prifysgol, ein hamcanion a’r hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol.

Maent wedi eu creu i’w defnyddio gan y rhai hynny sy’n cynrychioli llais y Brifysgol drwy addysgu, ymchwilio, cynhyrchu deunyddiau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau ac ysgrifennu a siarad amdani gyda phobl eraill.

Cymerwch y naratif hwn a'i ddefnyddio fel sail i gyfathrebu am bob agwedd ar y Brifysgol.

Edrychwch ar ein tudalennau naratif brand.
Canllawiau Brand Prifysgol Bangor

Canllawiau Brand

Mae ein Canllawiau Brand yn sicrhau bod y Brifysgol yn gyson wrth gymhwyso ei brand ar draws ystod o sianeli a deunyddiau. 

Logo Bangor

Logo Lliw Prifysgol Bangor

Mae logo Prifysgol Bangor wedi'i ddatblygu i'w ddefnyddio ar draws ein holl ddeunyddiau marchnata a chyfathrebu ar gyfer sianeli print a digidol. Cyn defnyddio ein logo, darllenwch ein canllawiau brand.

Mae ein logo ar gael mewn sawl fformat, gan gynnwys lliw, lliw gyda thestun gwyn, mono du a mono gwyn. Bydd fersiwn eps yn darparu'r canlyniadau gorau ac yn cael ei ddefnyddio gan ddylunwyr a chyflenwyr ar gyfer print.

Ar gyfer y we ac e-bost rydym yn argymell gif neu png. Ar gyfer defnydd mewnol, rydym yn awgrymu defnyddio jpeg.

Logo Du Prifysgol Bangor

Mae yna hefyd amrywiad defnydd cyfyngedig llorweddol. I gael yr amrywiad yma, defnyddiwch y manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon.

Agorwch y dolenni isod er mwyn gweld y logos, ac yna cliciwch gyda'r botwm dde er mwyn eu llwytho i lawr.

JPEG

EPS

PNG

Templedi Powerpoint

Mae'r templed PowerPoint corfforaethol hwn yn cynnwys Prif Sleidiau a dewis o dudalennau i'w defnyddio.

Rhif Cofrestru Elusen

Fel elusen gofrestredig, mae'n ofynnol i'r Brifysgol o dan adran 39 y Ddeddf Elusennau 2011 i ddatgan ar amryw o ddogfennau swyddogol bod yr elusen yn elusen gofrestredig. Mae'n rhaid i'r datganiad ymddangos yn y dogfennau canlynol:

  • hysbysiadau;
  • hysbysebion;
  • deunyddiau ar wefannau; ac
  • dogfennau eraill a gyhoeddir gan neu ar ran elusen sy'n ceisio darbwyllo'r darllenydd i roi arian neu eiddo i'r elusen.

Dylai pob dogfen swyddogol gynnwys y datganiad: Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565 / Registered Charity: No. 1141565

Cysylltu

Os oes gennych ymholiad yn ymwneud â'n brand nad yw'n cael ei ateb yma, e-bostiwch Jo Wierzbicki.