Myfyrwyr yn sgwrsio a chwerthin.

Cynulleidfaoedd Naratif Brand

Sut i siarad â gwahanol bobl am Brifysgol Bangor

  Darpar fyfyrwyr
  Ein staff a myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr
  Busnes a diwydiant lleol a chenedlaethol
  Cynulleidfaoedd ymchwil (partneriaid, cyllidwyr a llunwyr polisi)
  Cymuned leol a rhanbarthol

Perthnasedd Brand

Mae'n bwysig ein bod yn addasu’r naratif i gyd-fynd â diddordebau ac anghenion cynulleidfaoedd penodol. Trwy addasu’r ffordd yr ydym ni’n siarad amdanom ni ein hunain, rydym yn gallu dangos sut yr ydym yn berthnasol iddyn nhw, gan gynnal naws y brand wrth wneud hynny.
Mae’r adran hon yn cynnwys y naratifau brand a’r negeseuon allweddol ar gyfer siarad â chynulleidfaoedd penodol. Rydym hefyd yn rhannu ffrwyth ein hymchwil o ran beth yw’r negeseuon sy’n apelio fwyaf at wahanol grwpiau.
Myfyriwr yn chwerthin

Dealltwriaeth: beth sy’n apelio at y gynulleidfa hon? DARPAR FYFYRWYR

Mae darpar fyfyrwyr yn hoffi clywed am ein hymrwymiad i ragoriaeth addysgu a phrofiad myfyrwyr.

Maen nhw’n ymateb yn dda wrth glywed sut rydym ni’n croesawu gwahanol ddiwylliannau, cefndiroedd a phrofiadau yn ein cymuned.

Trosolwg o’r neges

Rhwng môr a mynydd yng ngogledd Cymru, fe gewch chi gymuned glos a chynnes wedi’i thynnu ynghyd o bedwar ban byd. Mae’r ymdeimlad o berthyn i Brifysgol Bangor yn un sy’n clymu ein holl raddedigion – y rhai sy’n dewis aros yn lleol a’r rhai sy’n dewis crwydro’r byd. Mae ymuno â ni yn arwain at berthyn.

Mae ein haddysgu rhagorol wedi’i wreiddio yn y byd go iawn a bydd yn herio’ch ffordd o feddwl. Byddwch yn cael eich addysgu gan arweinwyr angerddol yn eu maes sydd wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygu eich dysg. Byddwch yn gadael y brifysgol gyda llawer mwy na’ch cymhwyster. Byddwch hefyd yn datblygu’r bydolwg, y doethineb a’r dewrder sydd eu hangen i wneud penderfyniadau grymus a dylanwadu ar y byd. A thra byddwch yn gwneud hynny, cewch gyfle i fwynhau mwy o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon nag y gallwch eu dychmygu, a’r cyfan ohonyn nhw am ddim.

Negeseuon allweddol

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Does dim gwahaniaeth o ble yn y byd yr wyt ti’n dod na ble y byddi di’n dewis mynd nesaf, fe fyddi di bob amser yn perthyn i Brifysgol Bangor.

Perthyn.

Cymuned glos a chynnes

Mae llawer o bobl yn dewis aros yma am amser hir, ac mae’r rhai sy’n gadael yn siarad am Fangor gydag ymdeimlad o berthyn a hiraeth.

Mae cyn-fyfyrwyr yn cyfeirio at y brifysgol fel “cartref”

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Rydym yn ymfalchïo yn rhagoriaeth ein haddysgu, sy’n ein gosod ymhlith y prifysgolion gorau yn y DU o ran y profiad dysgu y byddwch yn ei gael. Ac mae’r profiad rhagorol hwnnw i’w gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gyda llawer o gyfleoedd ymarferol trwy brofiad gwaith, bydd eich gradd yn eich tywys at yrfa o’ch dewis.

Addysgu ysbrydoledig.

Mae llawer o’n rhaglenni yn cynnig cyfleoedd i fynd ar leoliad i ennill profiad ymarferol, gan gynnwys blwyddyn yn y gweithle mewn sawl achos

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.

Ymhlith y 25 prifysgol orau yn y DU o ran rhagolygon swyddi (WhatUni 2020)

Yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2022 roedd 83% o’n myfyrwyr yn fodlon gyda’r addysgu ar eu cwrs.

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Gall unrhyw fyfyriwr elwa ar ein hystod eithriadol o gyfleoedd.

Rydym yn ymdrechu i gael gwared ar y rhwystrau sy’n atal myfyrwyr rhag bod yn nhw eu hunain.

Bydd myfyrwyr o bob cefndir yn dod yn rhan o’r gymuned gan wneud iddynt deimlo bod croeso iddynt ym Mhrifysgol Bangor.

Cyfle i fod yn rhan o gymuned naturiol ddwyieithog.

Mae aelodaeth pob clwb a chymdeithas chwaraeon am ddim.

Mae Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr sydd angen cymorth ariannol ychwanegol.

Cyfleoedd interniaeth â thâl.

Rhwydwaith Addysg Uwch Awtistiaeth.

Rhaglen Profiad Rhyngwladol.

2il yn y DU ar gyfer Cymdeithasau a
Chwaraeon (WhatUni? Student Choice
Awards, 2020).

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Mae cynaliadwyedd yma yn llawer mwy nag addewid amgylcheddol neu feddylfryd gwyrdd.

Mae cynaliadwyedd yn feddylfryd sy’n ein gyrru i gynnal ac amddiffyn ein planed, ein treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol, a’r bobl a’r cymunedau sy’n byw yma. Dyna pam ein bod yn un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd o ran cynaliadwyedd.

Mae’r byd naturiol o’n cwmpas yn ysbrydoli llawer yn ein cymuned i weithio dros gynaliadwyedd yn ei holl

Rydym yn 15fed yn y byd am gynaliadwyedd (UI GreenMetric, World University Rankings, 2021).

Dyfarnwyd ni fel Prifysgol dosbarth cyntaf yn y People & Planet University League, 2021.

Mae ein hymchwil yn gwneud cyfraniadau sylweddol at warchod y blaned, ond mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn mynd ymhellach o lawer, gan gynnwys gweithio ar faterion yn ymwneud â chydraddoldeb, cynhwysiant, gofal iechyd, adfer iaith a threftadaeth ddiwylliannol, a mwy.

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Mae myfyrwyr yn cael eu denu gan ein lleoliad a’n treftadaeth Gymreig.

Mae llawer o’n myfyrwyr ynsiarad mwy nag un iaith, yn cynnwys y Gymraeg.

Ymdrechwn am y lefelau uchaf o ymrwymiad i gydraddoldeb ym mhob ffurf.

Mae’r profiad o astudio mewn prifysgol ddwyieithog yn baratoad gwerthfawr ar gyfer gweithio mewn byd amlieithog  ac aml-ddiwylliannol.

Mae ein cymuned ryngwladol yn cynnwys bron i 2,000 o fyfyrwyr o dros 120 o wledydd.

Mae dros 2000 o’n myfyrwyr yn siarad Cymraeg.

Mae Prifysgol Bangor wedi dal gwobr Efydd Athena Swan er 2011 (a adnewyddwyd yn 2014 a 2018) sy’n dangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn addysg uwch. Byddwn yn cyflwyno cais am wobr Arian nesaf.

Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y brifysgol yn parhau i ostwng, o 7.2% yn 2020 i 5.7% yn 2021 (cyhoeddwyd ym Mawrth 2022).

Rydym yn aelod o Siarter Cydraddoldeb Hiliol Advance HE.

Sefydlwyd Rhwydwaith LGBTQ er mwyn cynnig cyfle i gydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol gydweithio i roi amlygrwydd i faterion LGBTQ yn y gweithle.

Mae Dr Thandi Gilder wedi’i phenodi yn ddiweddar i rôl newydd fel Arweinydd Datblygu Dysgu ac Addysgu (Amrywiaeth a Chynhwysiant) yn CELT (y Ganolfan Gwella Dysgu ac Addysgu). Bydd y rôl hon, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn mynd i’r afael ag arfer cynhwysol mewn addysgu

myfyrwyr sy'n astudio yn y llyfrgell

Dealltwriaeth: beth sy’n apelio at y gynulleidfa hon? Ein staff a myfyrwyr presennol

Mae myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn ymateb yn dda iawn i’r syniadau o berthyn ac undod, ac i’r cysyniad o gymuned Gymreig. Mae negeseuon am ein cymuned a sut y mae hyn yn ymestyn y tu hwnt i astudiaethau academaidd ac i rannau eraill o fywyd yn apelio’n gryf at y grwpiau hyn. Yn naturiol, mae nifer o’r negeseuon sy’n apelio at ddarpar fyfyrwyr hefyd yn berthnasol i’r gynulleidfa hon.

Mae negeseuon ynghylch ein hethos cydweithredol yn apelio at gymuned y staff. Maen nhw’n hoffi gweld tystiolaeth o’n rhagoriaeth, yn enwedig pan fyddwn yn canolbwyntio ar feysydd sy’n cael llai o sylw. Ymatebant yn dda i negeseuon sy’n dangos effaith gadarnhaol ein natur Gymreig.

Trosolwg o’r neges

Rydych chi yn rhan bwysig o’n pwrpas. Ein “pam”, sy’n cael ei yrru gan galon Gymreig a chymuned ryngwladol. Mae ein hanes o ddewrder, cymuned a pherthyn wedi’i wreiddio yn y byd go iawn. Cewch dystiolaeth o hyn yn y ffordd y mae ein hadrannau a’n hymchwilwyr yn dod at ei gilydd i ddatrys problemau yn y byd go iawn ac yn y ffordd yr ydym yn creu rhagoriaeth a pherthnasedd trwy ein haddysgu.

Pan fyddwn yn cydweithio - gan ddwyn ynghyd ein myfyrwyr, ein staff, ein cyn-fyfyrwyr a llawer o rai eraill - rydym i gyd ar ein hennill. Ac rydym ni’n creu ffyniant ar gyfer ein cymunedau a’n planed. Mae’r rhai sy’n astudio ac yn gweithio yma yn sôn am rym cydweithio, a’r ymrwymiad sydd gan gymuned fyd-eang Prifysgol Bangor i ddefnyddio’r cydweithio hwnnw i wella’r byd i bawb.

Hyd yn oed ar ôl i chi adael ein Prifysgol, byddwch yn parhau i berthyn yma ac yn derbyn y croeso cynnes yr ydych wedi dod i’w adnabod o’n calon Gymreig.

Negeseuon allweddol

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Mae ein Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yma i wasanaethu myfyrwyr ddoe a heddiw, yn cynnwys 90,000 o raddedigion Prifysgol Bangor ledled y byd.

Ble bynnag y byddwch yn dewis mynd, bydd ein calon

Gymreig yn mynd gyda chi bob amser.

Rydych yn perthyn.

Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni ddynodedig.

Mae llawer o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Bangor yn syrthio mewn cariad â’r gymuned a’r lleoliad, ac yn dewis dysgu Cymraeg.

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis aros yn y gymuned.

Mae pobl sy’n gadael yn profi ymdeimlad o hiraeth am Fangor ac awydd i ddychwelyd.

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Chi yw’r rheswm pam ein bod yn gallu creu effaith mor gadarnhaol ar y byd.

Gyda’n gilydd, rydym i gyd yn chwarae ein rhan yn y gwaith o greu byd mwy cynaliadwy a theg.

Mae ein lleoliad unigryw yn creu gofod a rhyddid i feddwl, arloesi a chwarae.

Ymrwymiad i gynaliadwyedd.

Rydym yn 15fed yn y byd am gynaliadwyedd (UI GreenMetric, World University Rankings, 2021).

Rydym mewn lleoliad unigryw rhwng môr a mynydd.

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Cymuned


Agostarwydd


Cydweithrediad


Rydym ni’n gweithio gyda’n gilydd, yn cefnogi ein gilydd, ac yn barod i groesi ffiniau a disgyblaethau er mwyn cyflawni nod sy’n fwy na’n hunain.

Mae ein gwaith i ddileu anghydraddoldeb mewn gofal iechyd i gymunedau ymylol yn pontio gwyddoniaeth feddygol, ieithoedd a’r dyniaethau.

Mae ein hymdrechion i gefnogi cynaliadwyedd y moroedd a’r cefnforoedd yn pontio’r gwyddorau naturiol, peirianneg, busnes a’r gyfraith.

Mae ein gwaith i ddatblygu technegau profi newydd i ddarganfod presenoldeb y firws Covid mewn dŵr gwastraff yn pontio’r gwyddorau naturiol, gwyddoniaeth feddygol a gwleidyddiaeth, gan ddangos ein hystwythder wrth gymhwyso ymchwil ar frys i angen neu argyfwng.

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Ymchwil a arweinir gan bwrpas.


Ymchwil a arweinir gan effaith.


Ymchwil ac addysgu sydd wedi’u gwreiddio yn y byd go iawn.

Rhagoriaeth addysgu.

Mae 85% o’n hymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021).

Mae myfyrwyr o’r farn bod eu tiwtoriaid yn hygyrch ac yn hynod ymroddedig i’w hastudiaethau.

Mae bron pob un o’n hacademyddion ymchwil hefyd yn addysgwyr, gan sicrhau y byddwch yn elwa’n uniongyrchol o’r wybodaeth a grëwyd gan ein hymchwil

 

Cyn Fyfyriwr Sami Omari 2

Dealltwriaeth: beth sy’n apelio at y gynulleidfa hon? Busnes a diwydiant lleol a chenedlaethol

Mae’r grŵp hwn yn ymateb yn dda i negeseuon ynglŷn a sut yr ydym wedi helpu busnes, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae busnesau lleol yn gwerthfawrogi cael prifysgol ryngwladol gerllaw, un sydd â chyrhaeddiad byd-eang ond sydd â dealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig ym Mangor a’r cyffiniau.


Mae’r gynulleidfa fusnes genedlaethol yn ymateb yn dda i glywed am ragoriaeth Bangor mewn gwahanol arbenigeddau. Mae negeseuon am gydweithio ac arloesi yn cael derbyniad da gan y grŵp hwn, gan eu bod yn hoffi gweld tystiolaeth o’r manteision sydd i’w cael o weithio gyda ni a pha mor hawdd yw gwneud hynny.

Trosolwg o’r neges

Ym Mhrifysgol Bangor rydym wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol llewyrchus a chynaliadwy i bawb. Mae partneriaethau gyda busnesau yn ffordd bwysig inni wneud gwahaniaeth i’n cymuned leol a’r Deyrnas
Unedig yn ehangach.

Rydym yn gweithio gyda busnesau i ddylunio ein rhaglenni addysgu ac i baratoi graddedigion a myfyrwyr ar leoliad a fydd yn galluogi eich busnes i ffynnu. Mae ein drysau ar agor i bob math o bartneriaethau y gall eich busnes elwa arnyn nhw – o ddarparu cyfleusterau ac ymgynghoriaeth i greu prosiectau ymchwil pwrpasol gyda chi, neu greu technegau arloesol y gallwch chi eu defnyddio.

Mae ein gwaith wedi’i seilio ar ymchwil sy’n arwain y byd. Rydym yn arbennig o falch o gael dod i adnabod eich busnes, a dod o hyd i’r ffordd orau i’ch cefnogi.

Negeseuon allweddol

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Rydym yn gweithio’n galed i ddeall y problemau a’r heriau sy’n eich wynebu fel y gallwn eich helpu i’w goresgyn.

Rydym yn gweld eich heriau fel cyfle i ni ddod o hyd i atebion newydd.

Hwb Cydweithio penodol, gyda mynediad at gyllid i gefnogi gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth.

Mae ein hymchwil wedi’i raddio’n uchel ar sail yr effaith a gaiff ar y byd, gan gynnwys busnesau. Er enghraifft, mae ein hymchwil ym maes Systemau’r Ddaear a Gwyddorau’r Amgylchedd wedi’i osod yn 1af yn y DU am ei effaith (REF 2021).

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

 

Rydym yn dod â’n harbenigedd i galon ein partneriaethau busnes, gan greu effaith i chi trwy ddeall eich busnes yn llawn.

Rydym ni yma i wrando arnoch chi, i ddeall, ac i greu datrysiadau ar gyfer yr heriau unigryw y mae eich busnes yn eu hwynebu.

Mae ein tîm o arbenigwyr arloesi yn yr Hwb Cydweithio yno i ddeall heriau busnes a llywio datrysiadau.

Cyfleoedd ariannu ar gyfer cymorth busnes.

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Does dim rhaid i’r gwaith o ganfod y datrysiad gorau i’ch busnes fod yn anodd.

Mae ein tîm o arbenigwyr arloesi ar gael i’ch helpu i lywio’r llu o gyfleoedd sydd ar gael.

Mae ein tîm o arbenigwyr arloesi yn yr Hwb Cydweithio ar gael i ddeall heriau busnes a chanfod datrysiadau.

Cyfleoedd ariannu i roi cymorth i fusnesau.

Mae arweinwyr busnes yn sôn pa mor hawdd fu gweithio gyda Phrifysgol Bangor.

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Mae llawer o’n hymchwil a’n harbenigedd yn arwain y byd, ond rydym hefyd yn sicrhau ei fod o fudd i’r cymunedau sydd agosaf atom.

Rydym yn dod â datblygiadau arloesol sy’n arwain y byd i gymunedau a busnesau gogledd Cymru.

Ymchwil ac arbenigedd sy’n berthnasol i ddiwydiannau a chymunedau lleol, gan gynnwys y cymunedau chwarelyddol a’r diwydiant pysgota, ymhlith eraill. 

Rydym yn cymhwyso ymchwil sy’n arwain y byd i gyd-destun lleol, er enghraifft:

  • Gwella mynediad band-eang gymunedau lleol.
  • Gwella gwasanaethau iechyd i gymunedau Cymraeg eu hiaith.
  • Ymchwilio i effaith newid hinsawdd ar ddiwydiannau amlycaf gogledd Cymru.

Mae ein Parc Gwyddoniaeth Menai (M-Sparc) yn dod â’r byd academaidd, busnes, diwydiant a menter ynghyd i gydweithredu er budd lleol a byd-eang.

 

Ymchwilwyr yn pwyso cynnyrch yn Eryri

Dealltwriaeth: beth sy’n apelio at y gynulleidfa hon? Cynulleidfaoedd ymchwil (partneriaid, cyllidwyr a llunwyr polisi)

Mae negeseuon am ein rhagoriaeth ymchwil yn cael derbyniad da gan y grŵp hwn. Mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn tystiolaeth o’n harloesedd a’n heffaith, yn enwedig trwy brosiectau rhyngddisgyblaethol.

Mae llunwyr polisi a dylanwadwyr yn ymateb yn dda i glywed am effaith ein gwaith a’n presenoldeb mewn gwahanol gymunedau. Bydd negeseuon am ein hysbryd cymunedol a chydweithredol a sut yr ydym yn ei amlygu mewn sefyllfaoedd ymarferol hefyd yn apelio at y grŵp hwn.

Trosolwg o’r neges

Daw Prifysgol Bangor â dewrder a chynhesrwydd calon Gymreig i’w chenhadaeth dros greu gwell byd. Gan ddechrau yn ein lleoliad rhwng môr a mynydd yng ngogledd Cymru, mae ein hymchwil yn ymestyn yn fyd-eang, gan greu effaith ar fusnesau, diwydiannau a phenderfyniadau polisi yng Nghymru a ledled y byd.

Mae ein hymchwil wedi’i wreiddio mewn diwylliant o ddewrder a chydweithio. Mae ein staff yn dod ag ysbryd o gydweithredu i’w gwaith sy’n pontio disgyblaethau ac adrannau.

Mae ein cyfleusterau a’n daearyddiaeth yn darparu gofod a rhyddid i feddwl. Rydym yn ddigon pell o’r dinasoedd mawr i gael llonydd, ond yn ddigon agos i fod mewn cyswllt.

Mae ein hymchwil hefyd yn wirioneddol ryngwladol. Mae gennym yr hyder i arbenigo, ac mae hynny, yn ei dro, yn golygu bod ein hymchwil yn aml yn fwy adnabyddus ar lwyfan byd-eang nag ydyw yn lleol.

Negeseuon allweddol

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Mae ein hymchwil yn dwyn ynghyd sgiliau, arbenigeddau a chyfleusterau ar draws disgyblaethau ac adrannau.

Rydym yn blaenoriaethu ymchwil rhyngddisgyblaethol.

Rydym yn canolbwyntio’n benodol ar ddod â gwahanol feysydd arbenigedd ynghyd i ddatrys problemau’r byd mewn ffordd gyfannol.

Mae ein gwaith i ddileu anghydraddoldeb mewn gofal iechyd i gymunedau ymylol yn pontio gwyddoniaeth feddygol, ieithoedd a’r dyniaethau.

Mae ein gwaith i gefnogi cynaliadwyedd y moroedd a’r cefnforoedd yn pontio’r gwyddorau naturiol, peirianneg, busnes a’r gyfraith.

Mae ein gwaith i ddatblygu technegau profi newydd i ddarganfod presenoldeb y firws Covid mewn dŵr gwastraff yn pontio’r gwyddorau naturiol, gwyddoniaeth feddygol a gwleidyddiaeth, gan ddangos hefyd ein hystwythder wrth gymhwyso ymchwil ar frys i angen neu argyfwng.

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Rydym yn edrych ar y problemau y mae’r byd yn eu hwynebu ac yn canolbwyntio ein hymchwil arnyn nhw.

Os oes yna broblem sy’n effeithio ar gynaliadwyedd byd-eang, yna rydych chi’n debygol o ddod o hyd i rywun ym Mhrifysgol Bangor sy’n gweithio ar ddatblygu datrysiadau ar ei chyfer.

Mae 85% o’n hymchwil wedi’i raddio drwy’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil fel ymchwil sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021).

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:
Ym Mangor, mae ein hacademyddion yn cefnogi ei gilydd, gan weithio ar draws disgyblaethau a meysydd academaidd i ganfod datrysiadau ar y cyd.

Pwyslais ar ariannu ymchwil rhyngddisgyblaethol.

Mae ein themâu ymchwil yn canolbwyntio ar broblemau, nid adrannau:

  • Ynni a’r amgylchedd.
  • Iechyd, lles ac ymddygiad.
  • Iaith, diwylliant a chymdeithas

 

2 fyfyriwr yn cerdded yng Nghwm Idwal

Dealltwriaeth: beth sy’n apelio at y gynulleidfa hon? Cymuned leol a rhanbarthol

Mae’r gynulleidfa gymunedol yn hoffi clywed sut mae ein gwaith yn cael effaith wirioneddol ar y ddinas a’r rhanbarth. Maent yn falch fod ganddyn nhw brifysgol sy’n rhoi presenoldeb i Fangor ar lwyfan y byd, ond yn awyddus hefyd i weld bod manteision rhanbarthol a lleol y presenoldeb hwnnw yn cael eu hamlygu.

Trosolwg o’r neges

Mae Prifysgol Bangor yn gymuned ryngwladol gyda chalon Gymreig.

Roedd cyfraniadau ariannol chwarelwyr ac amaethwyr gogledd Cymru yn gwbl allweddol pan sefydlwyd ein Prifysgol yn 1884. Hyd heddiw, mae ein hymrwymiad i fod yn rhan o’r gymuned ac i weithio drosti yn parhau.

Rydym yn cynnig mwy o raglenni gradd yn y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall, ac yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o warchod a meithrin diwylliant, iaith a threftadaeth gogledd Cymru.

Trwy ein gwaith addysgu a thrwy ymchwil sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y byd go iawn, ynghyd â’n cefnogaeth i fusnesau lleol a rhanbarthol, rydym yn darparu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r gwasanaethau sy’n helpu i warchod economi, amgylchedd a ffyniant gogledd Cymru.

Rydym hefyd yn gyfrwng i amlygu rhagoriaethau ein cymuned a’n rhanbarth ar lwyfan y byd. Rydym yn denu myfyrwyr a staff o bob rhan o’r byd yn ogystal ag o’r gymuned leol a’r rhanbarth. Mae ein hymchwil yn mynd i’r afael â phroblemau sy’n effeithio ar y byd i gyd, ond yn enwedig y diwydiannau hynny sy’n gwasanaethu gogledd Cymru.

Negeseuon allweddol

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Rydym yn dod â chyfleoedd a thwf i ogledd Cymru trwy greu swyddi a thrwy ddenu cyllid i ysgogi datblygiadau cyffrous yn y rhanbarth.

Rydym yn cefnogi twf economaidd yng ngogledd Cymru trwy ddarparu addysg, hyfforddiant, ymchwil a mentrau busnes sydd wedi’u seilio ar anghenion ein diwydiannau lleol.

Rydym yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau fod ein gwaith ymchwil byd enwog yn dod â buddion sylweddol i’n cymuned ein hunain.

Byddwn yn agor yr ysgol feddygol gyntaf yng ngogledd Cymru yn 2024, gan ddod â gofal iechyd ac ymchwil feddygol o safon byd-eang i bobl gogledd Cymru yn eu dewis iaith.

Byddwn yn agor yr ysgol feddygol gyntaf yng ngogledd Cymru yn 2024, gan ddod â gofal iechyd ac ymchwil feddygol o safon byd-eang i bobl gogledd Cymru yn eu dewis iaith.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella band-eang ledled Cymru.

Yn ystod Covid, defnyddiwyd un o’n hadeiladau fel canolfan frechu, gan frechu dros 85,000 o drigolion lleol.

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Cyfrannodd eich cyndeidiau yn ariannol at sefydlu’r Brifysgol a dwyn addysg uwch i ogledd Cymru fel y gallwn ninnau sicrhau dyfodol llewyrchus i’r rhanbarth am ganrifoedd i ddod.

Ni fyddem yn bodoli heb ddewrder a gweledigaeth y chwarelwyr a’r amaethwyr a gyfrannodd at greu ein prifysgol fel y gallai eu cymuned ffynnu.

Mae drysau llawer o’n cyfleusterau ar agor led y pen i’r gymuned leol ac maent yno i chi eu defnyddio a’u mwynhau.

Roedd Prifysgol Bangor yn cael ei hariannu gan weithwyr yn y gymuned leol oedd am ddod ag addysg uwch i Ogledd Cymru.

Rydym yn gwasanaethu’r gymuned leol, gyda llawer o bobl leol yn dewis astudio a gweithio yma, neu feithrin eu busnesau trwy bartneru â ni.

Mae ein cyfleusterau celfyddydau a chwaraeon, yn ogystal â’n gerddi botaneg, ar agor i’r gymuned leol.

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:

Mae gennym ni galon Gymreig.

Os ydym yn gymuned ryngwladol ei natur, rydym yn cael ein gyrru gan falchder, tosturi a dewrder calon Gymreig.

Credwn fod yna harddwch yn iaith, tirweddau, a threftadaeth ddiwylliannol gogledd Cymru sy’n rhaid ei warchod, ei ddathlu a’i feithrin.

Rydym yn cynnig mwy o raglenni yn y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall.

Mae gan ein hamgueddfeydd a’n horielau gasgliadau sy’n cadw treftadaeth ddiwylliannol y rhanbarth.

Rydym yn 15fed yn y byd am gynaliadwyedd – arwydd clir fod cadw popeth sy’n dda yn y byd yn un o’n gwerthoedd craidd.

Mae gan dros ddwy ran o dair o’n staff sgiliau Cymraeg ac rydym yn eu hannog i’w defnyddio yn y gwaith.

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:
Mae ein hymchwil yn arwain at newidiadau ledled y byd, gan gynnwys yma yn ein cymunedau ein hunain.

Bwriad ein hymchwil i effaith a dylanwad iaith mewn gofal iechyd yw gwella bywydau a gofal meddygol mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Mae ein hymchwil ar newid hinsawdd hefyd yn helpu gyda’r gwaith o gynllunio ar gyfer ei effaith ar ddiwydiannau sy’n bwysig i ogledd Cymru.

Mae ein Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) yn dwyn ynghyd y byd academaidd, byd busnes, diwydiant a menter i gydweithredu er budd lleol a byd-eang

 

Gallwch fynegi hyn fel: Y dystiolaeth ar gyfer hyn:
Rydym yn dod â ffyniant economaidd i’r rhanbarth drwy greu swyddi, meithrin sgiliau newydd a sbarduno datblygiadau arloesol.

Byddwn yn agor yr ysgol feddygol gyntaf yng ngogledd Cymru yn 2024, gan ddod â gofal iechyd ac ymchwil feddygol o safon byd-eang i bobl gogledd Cymru.

Mae dros 2,000 o bobl yn gweithio i Brifysgol Bangor. Ac mae anghenion dros 12,000 o fyfyrwyr yn creu galw am fusnesau a gwasanaethau ledled y rhanbarth.

Mae effaith economaidd y Brifysgol gyfwerth â £475m, gyda £420m o’r swm hwnnw yn gyfraniad at economi Cymru. (Universities UK 2018/19).

Fel ail brif gyflogwr yr ardal ar ôl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae effaith gymharol Prifysgol Bangor yn uwch nag effaith prifysgolion yng nghanolfannau trefol a dinesig y DU. Mae’r Brifysgol felly yn cyfrannu’n sylweddol at economi gogledd Cymru.

 

Cwestiynau?


Cysylltwch â thîm y Brand brand@bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?