Meithrin Sgiliau a Chysylltiadau: Gwersyll Hyfforddi Dulliau Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol Bangor
Meithrin Sgiliau a Chysylltiadau: Gwersyll Hyfforddi Dulliau Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol Bangor
Ysgrifennwyd gan Beccy Ives
Croesawodd Prifysgol Bangor 13 o ymchwilwyr ôl-radd o bob cwr o Gymru yng nghanol mis Mai i Wersyll Hyfforddi Dulliau tair diwrnod fel rhan o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Wedi'i gynnal gan Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, daeth y gwersyll hyfforddi ag ymchwilwyr doethurol o lwybrau Daearyddiaeth Ddynol a Chynllunio Amgylcheddol ynghyd fel rhan o glwstwr Lle, Amgylchedd a Datblygiad i ddilyn rhaglen ddwys o hyfforddiant methodolegol, trafodaeth a chydweithio. Wedi'i drefnu gan Dr Freya St John, sef arweinydd y clwstwr, roedd y digwyddiad yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau ymchwil a'u rhwydweithiau proffesiynol.
Effaith Ymchwil a Meithrin Rhwydweithiau Ystyrlon
Dechreuodd yr hyfforddiant gyda sesiwn lawn ysbrydoledig gan yr Athro Julia Jones, Making Research Matter. Gan dynnu ar ei phrofiad helaeth yn y byd academaidd, cadwraeth ac ymgysylltu â pholisi, aeth yr Athro Jones ati i adfyfyrio ar saith gwers y bu iddi eu dysgu o’i gyrfa wedi ymrwymo i greu effaith yn y byd go iawn. Anogodd y sesiwn y cyfranogwyr i feddwl yn feirniadol am y newidiadau y maent yn gobeithio y bydd eu hymchwil yn eu dwyn, gyda phwy y mae angen iddynt ymgysylltu i gyflawni'r effaith honno, a sut y gall rhwydweithiau, cydweithrediadau a chyfathrebu helpu i droi ymchwil yn gamau gweithredu.
Parhaodd y pwyslais hwn ar ddysgu ar y cyd mewn sesiwn drafod dan arweiniad myfyrwyr, lle archwiliodd y cyfranogwyr heriau methodolegol yr oeddent yn eu hwynebu yn eu hymchwil eu hunain. Roedd y cymysgedd o ymchwilwyr doethuriaeth blwyddyn gyntaf ac ymchwilwyr mwy datblygedig yn arbennig o werthfawr, gan greu cyfleoedd i ddysgu gan gymheiriaid, i roi cyngor ymarferol ac i gyfnewid adnoddau a phrofiadau.
Daeth y diwrnod cyntaf i ben gydag ymweliad gyda'r nos i Ardd Fotaneg Treborth lle cawsom fwynhau picnic, archwilio'r tai gwydr a pharhau â sgyrsiau mewn lleoliad mwy anffurfiol.
Datblygu Sgiliau Ymchwil Meintiol
Roedd yr ail ddiwrnod yn canolbwyntio ar ddulliau ymchwil meintiol. Cyflwynodd Dr Whitney Fleming raddfeydd seicometrig i'r cyfranogwyr, gan gwmpasu cysyniadau allweddol mewn dylunio graddfeydd, dilysrwydd a dibynadwyedd, gan annog cyfranogwyr i adfyfyrio’n feirniadol ar sut y gellir mesur cysyniadau cymdeithasol a seicolegol cymhleth.
Ar ôl hynny, arweiniodd Dr Freya St John sesiwn ryngweithiol ar ofyn cwestiynau sensitif mewn ymchwil arolygon, gan gyflwyno dulliau arloesol a gynlluniwyd i wella ffyrdd o gasglu data ar bynciau sensitif. Daeth y diwrnod i ben gyda gweithdy ymarferol dan arweiniad Dr Leejiah Dorward ar gasglu data digidol gan ddefnyddio KoBoToolbox, gan gyfarparu’r cyfranogwyr â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddylunio a gweithredu eu harolygon electronig eu hunain.
I lawer o’r cyfranogwyr a oedd yn ymgymryd ag ymchwil dulliau cymysg, rhoddodd y sesiynau hyn fewnwelediadau gwerthfawr i gryfderau, cyfyngiadau a chymwysiadau ymarferol dulliau meintiol. Yn yr un modd, fe wnaeth y trafodaethau sbarduno syniadau newydd ynghylch sut y gellid integreiddio gwahanol ddulliau i brojectau parhaus.
Archwilio Dulliau Ansoddol a Chreadigol
Cynhaliwyd y diwrnod olaf yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes, Prifysgol Bangor, a oedd yn darparu lleoliad addas i gynnal cyfres o weithdai dulliau ansoddol. Cyflwynodd Dr Sophie Wynne-Jones y cyfranogwyr i gyfweliadau cerdded, gan gyfuno trafodaethau damcaniaethol â gwaith maes ymarferol ar draws tirwedd amrywiol y fferm. Gyda mynyddoedd ar un ochr, a'r môr ar yr ochr arall, roedd y cyfranogwyr yn gallu profi drostynt eu hunain sut y gall lle a symudiad lywio cyfarfyddiadau ymchwil a llunio mewnwelediadau newydd.
Dilynwyd hyn gan sesiwn ddiddorol gan Dr Neal Hockley ar iaith ac ystyr ym maes ymchwil gwyddorau cymdeithas. Drwy gyfuniad o drafodaethau a sesiynau ymarferol, archwiliodd y cyfranogwyr sut y gall gwahaniaethau mewn cefndiroedd disgyblaethol, diwylliannau a phrofiadau personol lywio’r ystyron sy'n gysylltiedig â chysyniadau allweddol. Tynnodd y sesiwn sylw at bwysigrwydd sefydlu dealltwriaeth gyffredin rhwng ymchwilwyr, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd, gan ddangos hefyd sut y gellir dehongli termau sy'n ymddangos i fod yn syml mewn ffyrdd gwahanol iawn.
Daeth yr hyfforddiant i ben gyda gweithdy rhyngweithiol dan arweiniad Dr Heli Gittins ar ddulliau gweledol, gan gynnwys defnyddio lluniadau a dulliau ffotolais. Anogwyd cyfranogwyr i ystyried sut y gallai dulliau gweledol ategu neu gyfoethogi eu dyluniadau ymchwil eu hunain, yn enwedig wrth archwilio profiadau, hunaniaethau a safbwyntiau a allai fod yn anodd eu cipio trwy gyfweliadau neu arolygon traddodiadol.
Cydweithio, Hyder a Safbwyntiau Newydd
Ar draws yr holl sesiynau, bu i’r cyfranogwyr elwa ar hyfforddiant methodolegol arbenigol yn ogystal â’r cyfle i drafod eu projectau eu hunain gydag ymchwilwyr a chyfoedion profiadol. Roedd y fformat grŵp bach yn creu lle i gynnal sgyrsiau ystyrlon, cynnig adborth adeiladol a datrys problemau ar y cyd. Gadawodd llawer o’r cyfranogwyr gyda safbwyntiau ffres ar eu hymchwil, ac offer methodolegol newydd i’w harchwilio.
Yn bwysicach na dim, roedd y gwersyll hyfforddi wedi atgyfnerthu gwerth cymunedau ymchwil. I'r unigolion a gymerodd ran, yn ogystal â bod yn gyfle i ehangu eu pecyn cymorth methodolegol, roedd Gwersyll Hyfforddi Dulliau Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru hefyd yn gyfle i ddod yn rhan o gymuned ehangach o ymchwilwyr sy'n gweithio ledled Cymru. Roedd y cyfranogwyr yn cynrychioli gwahanol brifysgolion a diddordebau ymchwil, a darparodd y digwyddiad amgylchedd cefnogol i rannu profiadau, heriau a syniadau yn agored. Drwy gydol y tridiau, roedd trafodaethau’n aml yn ymestyn y tu hwnt i’r sesiynau hyfforddi, gan ganiatáu i ymchwilwyr feithrin perthnasoedd a fydd yn parhau ymhell ar ôl y digwyddiad ei hun.
Ariannwyd Gwersyll Hyfforddi Dulliau Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru, sef partneriaeth hyfforddiant doethurol a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sy'n cefnogi ymchwilwyr ôl-radd ledled Cymru trwy hyfforddiant uwch, cydweithio a chyfleoedd dysgu rhyngddisgyblaethol. Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yn bartneriaeth rhwng saith prifysgol yng Nghymru ac mae'n cynnig tua 70 o efrydiaethau PhD bob blwyddyn ar draws 15 o lwybrau pwnc. Mae'r rhain yn cynnwys ystod eang o ddisgyblaethau, o'r Economi Ddigidol a Chymdeithas i Addysg, Ieithyddiaeth, Troseddeg a'r Gyfraith, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff i Gynllunio Amgylcheddol a Daearyddiaeth Ddynol.