Tree on a beach with waves hitting the sand

Cadwraeth ac Adfer Ecosystemau Gadarn

Rydym yn gydweithrediad rhyngddisgyblaethol rhwng ymchwilwyr yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol a’r Ysgol Gwyddorau Eigion sy’n gwneud ymchwil gymhwysol sy’n cael effaith uniongyrchol ar argyfyngau natur a hinsawdd.

Arweinwyr thema: Yr Athro Julia P G Jones ac Yr Athro Stuart Jenkins

1. Trosolwg
2. Ein Hymchwilwyr
3. Proesiectau Allweddol
4. Oriel Lluniau
5. Newyddion a Blog
6. Addysgu

 

Mae'r byd yn gwynebu argyfyngau natur a hinsawdd cydgysylltiedig. Mae gan gadwraeth ac adfer ecosystemau cydnerth ran ganolog i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r ddau.

Mae ein ymchwil hynod ryngddisgyblaethol yn y maes hwn yn dod ag ymchwilwyr ynghyd o bob rhan o’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol a’r Ysgol Gwyddorau Eigion ac o ddisgyblaethau amrywiol fel ecoleg, gwyddor system tir, eigioneg, synhwyro anghysbell, ffisioleg, ymddygiad, coedwigaeth, economeg a pholisi.

Rydym yn cynnal ymchwil flaengar mewn ystod lawn o gynefinoedd daearol a morol, o ranbarthau pegynol i'r trofannau. Mae ein hymchwil yn ddylanwadol iawn. Er enghraifft, cyfrannodd ein hymchwil ar effeithiau Pysgota Gwaelod Symudol, datblygu amaeth-goedwigaeth, a lleihau costau cymdeithasol cadwraeth mewn gwledydd incwm isel sydd wedi cyfrannu i Brifysgol Bangor yn cael y safle cyntaf yn y DU am effaith ein hymchwil gwyddor ar yr amgylchedd yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021.

Mae ein cyfleusterau ymchwil yn y ardal hwn o’r radd flaenaf yn cynnwys ein llong ymchwil ar y môr y Prince Madog, fferm ymchwil Henfaes, a Gerddi Botaneg Treborth.

Ymchwilwyr Dan Sylw

image of Julia Jones in recording studio

Yr Athro Julia Patricia Gordon Jones

Mae'r Athro Julia Jones yn wyddonydd cadwraeth sydd ag arbenigedd mewn gwerthuso effaith ymyriadau cadwraeth

Image of Alex Sutton

Dr Alex Sutton

Ecolegydd ymddygiad a phoblogaeth yw Dr Alex Sutton sydd â diddordeb mewn deall sut mae unigolion yn ymateb i newid amgylcheddol a sut mae'r ymatebion hyn yn cynyddu i ddylanwadu ar y boblogaeth a’u cymunedau.

 

Claire Carrington on a shore performing research.

Claire Carrington

Ecolegydd morol  yw Claire Carrington sydd ar hyn o bryd yn ymchwilio i ymatebion ymddygiadol adar môr arfordirol i amrywioldeb meteorolegol

Katie Devenish standing in front of an excavation area

Katie Devenish

Gwyddonydd cadwraeth yw Katie Devenish sy’n defnyddio dulliau gwrthffeithiol i astudio effaith mwyngloddio ar goedwigoedd Madagascar, ac a yw ymdrechion i liniaru’r effaith honno wedi gweithio

man standing greenery behind him

Dr Craig Robertson

Mae Dr Craig Robertson yn ecolegydd dyfnforol sy'n arbenigo yn y cymunedau macroffaunal ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn datblygu dulliau ecoleg swyddogaethol mewn cynefinoedd morol, yn enwedig mewn cynefinoedd mor dwfn.

Woman in hard hat with greenery around her

Dr Marielle Smith

Mae Dr Marielle Smith yn ecolegydd ecosystem sy'n cyfuno arsylwadau maes a synhwyro o bell ar draws graddfeydd i ddeall ymatebion coedwigoedd i ysgogwyr defnydd tir a newid yn yr hinsawdd.

Man standing with sea and sky behind him

Dr Neal Hockley

Mae Dr Neal Hockley yn wyddonydd cymdeithasol amgylcheddol sydd â diddordeb mewn cyfiawnder amgylcheddol, cadwraeth a rheoli adnoddau naturiol

Man standing with beautiful rolling mountains behind him

Dr Leejiah Dorward

Mae Leejiah Dorwardyn yn wyddonydd cadwraeth rhyngddisgyblaethol gyda diddordebau eang mewn sut y gallwn gymhwyso dulliau gwyddor gymdeithasol i wella ein dealltwriaeth o sut mae systemau cymdeithasol ac ecolegol yn rhyngweithio.

Lady wearing glasses on boat, on the sea

Dr Katrien Van Landeghem

Mae Dr Katrien Van Landeghem yn ddaearegwr morol sydd ag arbenigedd mewn gwerthuso cyfanrwydd gwely'r môr, sy'n effeithio ar ecosystemau morol

Lady sat on rocks near water

Dr Harriet Ibbet

Mae Dr Harriet Ibett yn wyddonydd cadwraeth sy'n canolbwyntio ar ddeall cydymffurfiaeth pobl â rheolau sy'n amddiffyn bioamrywiaeth

Man measuring a tree in the forest

Yr Athro John Healey

Mae Yr Athro John Healey yn ecolegydd coedwig sy'n gweithio i gyflawni rheolaeth gynaliadwy, cadwraeth ac adfer adnoddau coedwigoedd

Lady standing surrounded by greenery

Dr Freya St John

Mae Dr Freya St John yn wyddonydd cadwraeth sydd â diddordeb mewn deall y cysylltiadau rhwng ymddygiad dynol, lles a cadwraeth

Lady standing holding cameras on a boat in the sea

Dr Ewa Krzyszczyk

Mae Dr Ewa Krzyszczyk yn sŵolegydd morol sydd â diddordeb mewn ymddygiad a chadwraeth mamaliaid morol, pysgod, ac amrywiaeth o ecosystemau morol

Lady standing in a forest on a sunny day

Dr Elena Cini

Mae Elena Cini yn wyddonydd rhyngddisgyblaethol gyda diddordeb mewn ecoleg, gwyddor gymdeithasol cadwraeth, ac ymchwil amaeth-amgylcheddol

Lady standing surrounded by beautiful mountains

Dr Eleanor Warren-Thomas

Mae Dr Eleanor Warren-Thomas yn wyddonydd rhyngddisgyblaethol sy’n defnyddio offer o ecoleg, economeg a gwyddor systemau tir i gefnogi cadwraeth, adfer coedwigoedd a bioamrywiaeth.

Male standing with nice greenery behind him

Dr Edwin Pynegar

Mae Dr Edwin Pynegar yn wyddonydd cadwraeth ac yn ymarferydd sy'n gweithio ar ddylunio a gweithredu rhaglenni cytundebau cadwraeth ac yn gwerthuso eu heffeithiolrwydd yn gadarn.

Man climbing to viewing tower, surrounded by trees

Dr Farnon Ellwood

Mae Dr Farnon Ellwood yn ecolegydd cymunedol sy'n arbenigo mewn datblygu fframweithiau damcaniaethol y gellir eu defnyddio i warchod bioamrywiaeth drofannol trwy lywio arferion rheoli cynaliadwy

Person standing on beach with sea and land behind them

Deanna Groom

Mae Deanna Groom yn archeolegydd morol sy’n arbenigo mewn datblygu stocrestrau amgylchedd hanesyddol morol (e.e. cofnodion safleoedd cenedlaethol a rhanbarthol a henebion) ar gyfer safleoedd treftadaeth arfordirol a thanddwr. Mae diddordebau ymchwil penodol yn ymwneud ag effaith newid hinsawdd ar ecoleg safleoedd llongddrylliadau hanesyddol

Male standing with sea in the background

Dr Gareth Williams

Mae Dr Gareth Williams yn ecolegydd morol sy'n arbenigo mewn ecoleg riffiau cwrel. Mae ei waith yn canolbwyntio ar nodi ysgogwyr naturiol a dynol strwythur a swyddogaeth gymunedol riffiau cwrel ar draws graddfeydd a thacsa

Rhestr lawn o'n Hymchwilwyr

  • Iain Lettice
  • Stevie Scanlan
  • Lauren Sansom
  • Emma Green

Projectau allweddol

Mae ymchwilwyr y thema hwn yn gweithio ar amryw o brosiectau cymhwysol. 

Projectau allweddol

Mae ymchwilwyr y thema hwn yn gweithio ar amryw o brosiectau cymhwysol. 

Ein gwaith fel y mae ein ymchwiliwyr yn eu gweld

Mae llun yn dweud mil o eiriau - felly plis mwynhewch yr oriel yma, enghreifftiau o'r gwaith rydyn ni'n ymwneud ag ef

Astudio ym Mangor

Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn. 

Astudio gyda ni

Ym Mangor, ymchwil yw sylfaen ein haddysgu. Gallwch astudio amrywiaeth eang o gyrsiau, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, sydd wedi ei seilio ar yr ymchwil byd eang rydym yn ei wneud yn y maes hwn. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?