CAL:ON Cymru: Cryfhau Llythrennedd Ledled Cymru
Mae CAL:ON Cymru yn fenter llythrennedd dwyieithog cenedlaethol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, dan arweiniad Prifysgol Bangor ac wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae CAL:ON (Canolfan Addysgu Llythrennedd: Offer tuag at Newid) yn rhoi mynediad i ysgolion ledled Cymru at raglenni llythrennedd, asesiadau, a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, wedi’u seilio ar dystiolaeth. Mae’r rhain wedi’u cynllunio ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn Gymraeg a Saesneg.
Ein nod yw cefnogi ysgolion i gryfhau eu dealltwriaeth a’u defnydd o ddulliau effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth o addysgu darllen ac ysgrifennu. Rydym am alluogi pob plentyn, waeth beth fo’i allu, i fod yn ddarllenwyr ac yn ysgrifenwyr hyderus, llawn cymhelliant, ac yn llwyddiannus.
Ein Sylfaen Tystiolaeth: Gwyddor Darllen a Llythrennedd Strwythuredig
Mae CAL:ON wedi'i seilio ar Wyddoniaeth Darllen a Llythrennedd Strwythuredig - corff mawr o ymchwil o feysydd gwyddoniaeth wybyddol, ieithyddiaeth, ac addysg sy’n esbonio sut mae plant yn dysgu darllen ac ysgrifennu, a sut i'w haddysgu yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Mae ein gwaith felly yn cefnogi ysgolion i:
- Addysgu darllen ac ysgrifennu yn eglur ac yn systematig.
- Meithrin gwybodaeth am y sgiliau a'r cynnwys sy'n sail i lwyddiant llythrennedd, o ymwybyddiaeth ffonemig i ddarllen a deall.
- Meithrin cymhelliant, hyder, a chariad at ddarllen drwy helpu pob dysgwr i brofi llwyddiant ac ystyr yn yr hyn y maent yn ei ddarllen.
- Defnyddio asesu parhaus i lywio addysgu a monitro cynnydd.
Mae ein rhaglenni, ein dysgu proffesiynol, a’n hasesiadau wedi’u cynllunio i gefnogi addysgu penodol:
- Iaith lafar a llafaredd: datblygu iaith lafar a geirfa fel sylfaen ar gyfer llythrennedd.
- Ffoneg systematig (gan gynnwys ffoneg synthetig): addysgu perthnasoedd llythyren-sain mewn ffordd gronnus, wedi'i dilyniannu'n glir.
- Rhuglder: Meithrin cywirdeb, awtomatigrwydd a mynegiant wrth ddarllen.
- Sillafu ac ysgrifennu: Addysgu amgodio, morffoleg, gramadeg a chyfansoddiad.
- Darllen a deall: Cefnogi disgyblion i wneud ystyr o destun drwy ddatblygu gwybodaeth, geirfa a sgiliau rhesymu.
Gyda’i gilydd, mae’r cydrannau hyn yn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc – gan gynnwys y rhai sy’n cael trafferth – yn derbyn cyfarwyddyd penodol, cronnol, wedi’i seilio ar dystiolaeth, sy’n meithrin llwyddiant mewn darllen ac ysgrifennu. Ein nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc ledled Cymru yn dod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, sy’n mwynhau darllen ac ysgrifennu at ddiben ac at bleser.
Rydym yn dîm amlddisgyblaethol o athrawon, arweinwyr ysgol, awduron, cyhoeddwyr, ieithyddion, a seicolegwyr. Dros fwy na degawd, rydym wedi bod yn datblygu ac yn darparu rhaglenni iaith a llythrennedd, dysgu proffesiynol, ac offer asesu.
Mae ein gwaith ar y cyd yn cynnwys:
- Y Rhaglen Iaith a Llythrennedd (RILL)
- Ymyrraeth Iaith Gynnar Nuffield (Nuffield Early Language Intervention: NELI)
- Prosiect Datblygu a Gwerthuso Cyfarwyddyd Sillafu (DEMSI).
Rydym yn cyfuno arbenigedd yn y Gymraeg a’r Saesneg i sicrhau bod deunyddiau CAL:ON yn briodol yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol i Gymru, tra’n parhau i fod wedi’u halinio’n gadarn â’r sylfaen dystiolaeth ryngwladol.
Rydym yn adeiladu rhwydwaith cenedlaethol o ysgolion sydd wedi ymrwymo i wella canlyniadau llythrennedd i bob dysgwr. Dros y ddwy flynedd a hanner nesaf, bydd gan yr ysgolion sy’n cymryd rhan fynediad i:
- Rhaglenni ac ymyriadau dwyieithog sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi'u datblygu a'u profi drwy ymchwil cenedlaethol.
- Cyfleoedd Dysgu Proffesiynol i athrawon, cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr ysgol, gyda ffocws ar wyddoniaeth darllen, datblygiad iaith, arferion llythrennedd cynhwysol, a dulliau addysgu effeithiol.
- Offer asesu digidol – Sgrîn Iaith, Sgrîn Darllen, a Sgrîn Deall – i nodi disgyblion sydd mewn perygl ac i olrhain cynnydd ar draws yr ystod gallu lawn.
- Cefnogaeth a chydweithio parhaus trwy'r Hyb Llythrennedd CAL:ON cenedlaethol ar Hwb, gyda mynediad at adnoddau, enghreifftiau a rhwydweithiau.
Mae CAL:ON Cymru Yn Darparu:
- Modiwlau dysgu proffesiynol dwyieithog newydd, gan gynnwys ffoneg a rhuglder darllen ochr yn ochr â chanllawiau cenedlaethol sy'n cyd-fynd â Chwricwlwm Cymru, a fydd hefyd yn cael eu hymgorffori yn Addysg Gychwynnol Athrawon, a'u datblygu ar y cyd ag addysgwyr;
- Rhaglenni llythrennedd ac ymyriadau dosbarth cyfan dwyieithog effeithiol ar gyfer oedrannau 3–16 oed;
- Ar gyfer dysgwyr sydd mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi, offer asesu dwyieithog newydd, wedi'u cynllunio ar y cyd ar bwyntiau trosglwyddo allweddol.
Newyddion Diweddaraf
Mwy o wybodaeth
Mwy o wybodaeth am ein canolfan a'n gweithgareddau i’w weld yma yn fuan. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.