Sesiynau Darllen Yr Haf
Dyddiau Merched 22ain Gorffennaf - 26ain Awst
Bob wythnos yn y gwyliau haf, bydd CAL:ON Cymru yn cynnal sesiwn darllen fel rhan o ymgyrch YMGOLLI ar gyfer y Flwyddyn Darllen Genedlaethol. Mae'r syniad yn un syml: creu'r amser a'r lle ar gyfer darllen yn ein bywydau prysur.
Bydd y Sesiynau Darllen yr Haf yn cael eu cynnal mewn lleoliad gwahanol bob wythnos. Byddem yn creu ardal gyfforddus tu allan, os ydi'r tywydd yn braf, neu du fewn os ydi ddim! Mae gan bob lleoliad caffi i brynu bwyd a diod os hoffech wrth i chi ddarllen.
Ewch i'r dudalen am ragor o fanylion.
Sgyrsiau llythrennedd ac iaith
Dydd Mawrth 12fed Mai 12yh
Beth syn digwydd yn yr ymennydd pan mae darllen yn anodd, a beth mae hynny'n olygu i addysgu
Dr Liory Fern-Pollak - UCL, Sefydiad Addysg
Bydd y sgwrs hon yn archwilio sut mae darllen yn datblygu yn yr ymennydd, pam bod anawsterau darllen fel dyslecsia yn codi, a beth mae hyn yn ei olygu ar lawr y dosbarth. Gan dynnu ar seicoleg wybyddol, niwrowyddoniaeth, ac ymchwil draws-ieithyddol, bydd y sgwrs yn edrych ar sut gall prosesau ffonolegol, orthograffig, semantig, a chymell sylw weithio gyda’i gilydd wrth ddarllen a sut gallant beidio gweithio. Drwy sgyrsiau rhyngweithiol ac enghreifftiau go iawn, bydd y sgwrs yn cysylltu’r hyn a wyddom am ddarllen a dyslecsia â phrofiad cyfarwydd yn y dosbarth, cyn ystyried goblygiadau hyn ar gyfer cefnogi dysgwyr mewn ffyrdd ymarferol a realistig.
Mae Dr Liory Fern-Pollak yn Athro Cyswllt mewn Niwrowyddoniaeth Wybyddol ac Addysgol yn Sefydliad Addysg UCL. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygiad darllen, anawsterau dysgu yn cynnwys dyslecsia, amlieithrwydd, a sut gall mewnwelediadau o wyddoniaeth wybyddol gael eu trosi i ymarfer addysgol ystyrlon. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn helpu i chwalu niwro-fythau er mwyn cefnogi dealltwriaeth seiliedig ar ddysgu mewn cyd-destunau real yn yr ystafell ddosbarth.
Eisteddfod Yr Urdd Ynys Môn 2026
Eisteddfod yr Urdd – Dydd Llun 25ain Mai a Dydd Iau 28ain Mai - Cae Sioe Môn, Gwalchmai
Dewch draw i stondin Prifysgol Bangor lle bydd amser stori gydag awduron enwog, gweithgareddau darllen ac ysgrifennu, a’r cyfle i sgwrsio â thîm CAL:ON Cymru i gael gwybod mwy am y ganolfan.
Sgyrsiau llythrennedd ac iaith
Dydd Mawrth 9fed Mehefin 4yh
Cefnogi cael plant a phobl ifanc i gymryd diddordeb a chael pleser o ddarllen
Yr Athro Sarah McGeown - Prifysgol Caeredin
Mae pryderon am lefelau isel o fwynhau darllen, a chymhelliant ac ymgysylltiad ar draws y DU wedi cynyddu’r diddordeb mewn helpu ‘darllen er mwyn pleser’. Mae’r sgwrs hon yn tynnu sylw at y buddiannau a gysylltir â darllen, y dystiolaeth y tu ôl i’r arferion gwahanol a ddefnyddir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i gefnogi darllen a chymhelliant. Yna cawn egwyddorion sy’n seiliedig ar ymchwil i’w gwreiddio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn ysbrydoli a chynnal cariad at ddarllen.
Mae Sarah McGeown is yn Athro Llythrennedd ac yn Gyd-Gyfarwyddwr y Labordy Llythrennedd ym Mhrifysgol Caeredin. Mae ei hymchwil yn defnyddio dulliau cymryd rhan a phartneriaethau arfer ymchwil i gael gwell dealltwriaeth a gwella profiadau darllen a deilliannau plant a phobl ifanc. Gallwch ddarllen mwy am ei hymchwil yma: https://blogs.ed.ac.uk/literacylab/
Sioe Addysg Genedlaethol 2026 - Llandudno
Dydd Gwener 12fed Mehefin - Venue Cymru, Llandudno
Byddwn wrth stondin Prifysgol Bangor, lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd CAL:ON Cymru yn cefnogi athrawon gyda dysgu llythrennedd ledled Cymru. Bydd aelodau o’r tîm yno i ateb eich cwestiynau ac i arddangos adnoddau CAL:ON Cymru.