Fy ngwlad:

Rhaglen dosbarth cyfan OxEd - gwybodaeth i rieni a gofalwyr

Beth yw pwrpas yr astudiaeth?

Mae’r astudiaeth hon yn rhan o waith CAL:ON (Canolfan Addysgu Llythrennedd: Offer tuag at Newid), sef canolfan genedlaethol ar gyfer llythrennedd ym Mhrifysgol Bangor, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae llawer o blant yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill, yn cael trafferth a sgiliau iaith lafar, an all arwain at anawsterau darllen ac ysgrifennu. Er mwyn ymateb i’r her hon, datblygwyd addasiad o’r ‘Nuffield Early Language Intervention’ (NELI) gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r addasiad newydd o NELI yn cynnig cyfres o weithgareddau dosbarth cyfan Cymraeg a Saesneg i'w trosglwyddo dros ugain wythnos, a lunwyd i gefnogi sgiliau iaith lafar dysgwyr 4-6 mlwydd oed.