Caiff Rhaglen RILL Dosbarth Cyfan ei chyflwyno gan athrawon neu gynorthwywyr addysgu, fel rhan o addysgu arferol y dosbarth.
Mae'n cynnwys pedair gwers fer yr wythnos (hyd at 90 munud o hyd i gyd), ac maent wedi'u cynllunio i fod yn ddeniadol a diddorol.
Mae pob sesiwn yn cynnwys gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar:
1. Geiriau a stori'r dydd
2. Gemau sain
3. Gemau Darllen a Sillafu
4. Naratif (ysgrifennu straeon)
Mae'r gweithgareddau hyn yn helpu plant i feithrin y sgiliau hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn darllen ac ysgrifennu, megis:
• Adnabod llythrennau a seiniau
• Deall patrymau sillafu
• Adeiladu geirfa
• Datblygu iaith lafar a sgiliau adrodd stori
Caiff pob gwers ei gwblhau yn y dosbarth gyda'u hathro/athrawes neu gynorthwyydd addysgu arferol. Does dim angen gwaith ychwanegol gartref.
Bydd holl ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn cymryd rhan mewn asesiadau byr o lythrennedd ac iaith cyn ac ar ôl gwersi RILL. Gwneir y rhain gan ddefnyddio adnoddau ReadingScreen a LanguageScreen (a ddatblygwyd gan OxEd & Assessment).
Bydd hanner yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth hon yn dechrau'r rhaglen RILL ar unwaith. Bydd yr ysgolion eraill yn parhau â'r cwricwlwm arferol am yr un cyfnod, ac yn derbyn y rhaglen RILL ar ôl i'r grŵp cyntaf orffen.
Mae'r dull hwn yn galluogi'r tîm ymchwil i gymharu cynnydd rhwng y ddau grŵp o ysgolion (dosbarthiadau), a darganfod pa mor effeithiol yw RILL wrth gefnogi datblygiad llythrennedd.
Bydd ymchwilwyr yn cadw mewn cysylltiad â'r ysgolion, ac yn mynychu sesiynau ar-lein neu wyneb yn wyneb yn achlysurol, er mwyn sicrhau cywirdeb i’r rhaglen a chasglu adborth.
• Cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau llythrennedd strwythuredig, diddorol
• Ymarfer ychwanegol mewn meysydd fel darllen, ysgrifennu, sillafu, a naratif.
• Gweithgareddau wedi'u cynllunio i gefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd ac iaith gynnar
• Cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen y mae ysgolion ac addysgwyr wedi’i gweld yn addawol
Mae'r asesiadau'n weithgareddau byr, sy'n addas i blant, ac yn cael eu cynnal gan staff yr ysgol gan ddefnyddio tabled neu gyfrifiadur. Maen nhw'n asesu sgiliau iaith a sgiliau darllen.
Ar ddiwedd y rhaglen, bydd y tîm ymchwil yn darparu adroddiad cryno i'r ysgol yn amlinellu cynnydd cyffredinol ar draws y dosbarth. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys canlyniadau unigol disgyblion.
Sylwer: dydy'r asesiadau hyn ddim yn adnodd diagnostig, ac ni chânt eu defnyddio i labelu na nodi anawsterau llythrennedd.
Cyfrinachedd a diogelu data
• Cedwir gwybodaeth eich plentyn yn gwbl gyfrinachol.
• Bydd y data’n ddienw (wedi’i godio heb enwau)
• Caiff data eu storio'n ddiogel ar system Prifysgol Bangor sydd wedi'i ddiogelu â chyfrinair.
• Dim ond tîm ymchwil RILL fydd â mynediad at y data.
• Gall staff awdurdodedig Prifysgol Bangor gael mynediad at ddata o bryd i’w gilydd at ddibenion archwilio.
• Mae’n bosib y caiff fersiwn ddienw o'r canlyniadau ei rhannu mewn cronfa ddata ymchwil ddiogel, fel y gall gwyddonwyr eraill gadarnhau'r canfyddiadau — ond ni fydd modd i unrhyw un adnabod plant unigol.
Datganiad GDPR:
Mae Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU yn caniatáu i unigolion reoli eu data personol a sut mae'n cael ei ddefnyddio. O dan GDPR, Prifysgol Bangor yw'r rheolwr data mewn perthynas â data personol a gesglir a'i brosesu at ddibenion yr astudiaeth hon. Y sail gyfreithiol ar gyfer casglu data personol yn yr astudiaeth hon yw 'tasg gyhoeddus' (fel y caiff ei diffinio yn Neddf Diogelu Data 2018). Mae rhagor o wybodaeth am hawliau unigolion dros ddata personol ar gael o wefan y Brifysgol. ( https://www.bangor.ac.uk/governance-and-compliance/dataprotection/index.php.en)
Tynnu’n ôl o’r astudiaeth
• Mae ysgol eich plentyn wedi penderfynu defnyddio'r rhaglen hon fel rhan o weithgaredd arferol yn yr ystafell ddosbarth a strategaeth llythrennedd yr ysgol.
• Fodd bynnag, gallwch dynnu eich plentyn yn ôl o gydran ymchwil y rhaglen hon. Mae hyn yn golygu na fyddem yn casglu data ar eu gallu darllen cyn ac ar ôl y rhaglen.
• Os penderfynwch dynnu eich plentyn yn ôl ar ôl i ddata gael ei gasglu, gallwch wneud hynny hyd at yr adeg pan fydd yr wybodaeth wedi cael ei gwneud yn gwbl ddienw.
Cyllid a chymeradwyaeth foesegol
Mae’r astudiaeth hon yn cael ei chynnal gan yr Athro Manon Jones a’i thîm ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, ac yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae wedi cael cymeradwyaeth foesegol gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Bangor (ID prosiect: 2026-1211-3)
Gwybodaeth gyswllt
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am CAL:ON neu ei brosiectau:
E-bost: calonysgol@bangor.ac.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y prosiect penodol hwn:
E-bost: rillproject@bangor.ac.uk