Fy ngwlad:

Rhaglen ymyrraeth grwpiau bach RILL - Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr

Beth yw pwrpas yr astudiaeth?

Mae’r astudiaeth hon yn rhan o waith CAL:ON (Canolfan Addysgu Llythrennedd: Offer tuag at Newid), sef canolfan genedlaethol ar gyfer llythrennedd ym Mhrifysgol Bangor, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae llawer o blant yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill, yn cael trafferth gyda darllen ac ysgrifennu. Er mwyn ymateb i’r her hon, datblygwyd rhaglen RILL gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor ar y cyd ag addysgwyr. Mae’n cynnig cyfres o weithgareddau dros gyfnod o ugain wythnos i gefnogi darllenwyr ym Mlynyddoedd 3 a 4 sy’n profi anhawster wrth ddatblygu eu sgiliau llythrennedd.

Mae’r rhaglen yn cynnwys 40 o wersi, a gyflwynir ddwywaith yr wythnos gan aelod o staff addysgu’r ysgol drwy lwyfan ar-lein. Mae pob gwers yn para tua 45 i 60 munud. Mae’r dull yn seiliedig ar dystiolaeth, sy'n golygu bod pob gweithgaredd wedi’i gynllunio’n ofalus i helpu plant i ddatblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu allweddol.

Drwy fesur gallu darllen plant cyn ac ar ôl cymryd rhan, bydd yr astudiaeth yn helpu i werthuso pa mor effeithiol yw RILL yn ei ffurf bresennol.