Aimee Just

Aimee Just

Helo bawb, 

Aimee ydw i, rwy’n fyfyriwr hŷn yn astudio hanes ac ieithoedd modern! Rwyf newydd gwblhau fy mlwyddyn sylfaen ac yn mynd ymlaen i’r flwyddyn gyntaf yn 25 oed.

Rwyf wrth fy modd yn yr awyr agored, yn gwersylla a heicio. Cyn dod i Fangor, roeddwn yn gwirfoddoli gyda’r sgowtiaid fel arweinydd ac yn gweithio fel athrawes nofio ac achubwr bywyd.

Dwi wrth fy modd yn nofio mewn dŵr agored, yn enwedig yn llyn Llanberis! Mae fy niddordebau eraill yn cynnwys celf, gwnïo ac unrhyw beth DIY a chreadigol.

Rwy'n edrych ymlaen at yr holl weithgareddau Campws Byw sydd wedi'u cynllunio ar gyfer eleni!

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?