grŵp o blant yn cymryd rhan mewn arddangosfa o ynni gwynt

Prifysgol Bangor i agor ei drysau i’r gymuned leol yn yr hydref

Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Diwrnod Cymunedol yn yr hydref, ar Ddydd Sadwrn 14 Hydref rhwng 11am a 3pm.

 

Bydd y pwyslais ar greu awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar sy’n cynnwys pawb. Rydym wrthi’n trefnu digwyddiad sy’n cyflwyno’r holl ffyrdd gwahanol mae’r Brifysgol yn gwneud cyfraniad i’r ardal leol a thrwy gydol y byd, nid ond trwy ein gwaith addysgu ac ymchwil, ond hefyd cyfleusterau sydd ar agor i’r cyhoedd fel Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio a Chanolfan chwaraeon Brailsford.
Dr Lowri Hughes,  Diprwy-Is-ganghellor Cynorthwyol Cenhadaeth Ddinesig

 

Mae’ Diwrnod Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i’r cyhoedd ddysgu rhagor am fywyd y Brifysgol a rhannu ein hanes, ein hymchwil, sut brofiad mae myfyrwyr yn ei gael yma a'r holl waith amrwyiol amrywiol sy'n cael ei wneud i ymestyn allan i gymunedau lleol a byd-eang.
“Bydd y diwrnod yn addysgiadol ond hefyd yn hwyl, a gobeithiwn weld ffrindiau o bob oed yn ymuno â ni am ddiwrnod hamddenol o ddarganfod. Daeth llawer o aelodau’r gymuned leol i’r Brifysgol am eu brechiadau yn ystod y pandemig Covid cwpl o flynyddoedd yn ôl, a bydd yn wych croesawu pawb yn ôl drwy ein drysau o dan amgylchiadau hapusach.
Yr Athro Andrew Edwards,  Dirprwy Is-ganghellor â chyfrifoldeb dros ymgysylltu cymunedol

Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu tocynnau.

Ewch i https://www.bangor.ac.uk/cy/digwyddiadau/diwrnodcymunedol

a chadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth am y rhaglen dros yr wythnosau nesaf.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?